Beirniadu cynlluniau incwm i fewnfudwyr ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog y DU wedi ymosod ar lywodraeth Llafur Cymru am ganiatáu i blant sy'n ceisio lloches gymryd rhan ym mheilot incwm sylfaenol Cymru.
Mae'r cynllun sy'n costio £20m, yn cynnig £1,600 i bobl ifanc 18 oed sy'n gadael gofal, gan gynnwys ceiswyr lloches ar eu pen eu hunain.
Dywedodd Rishi Sunak ei fod yn anghredadwy bod gweinidogion eisiau talu "mudwyr anghyfreithlon".
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod am helpu ceiswyr lloches ifanc i ailadeiladu eu bywydau.
Er nad yw'n glir faint o geiswyr lloches sy'n hawlio'r arian, mae BBC Cymru ar ddeall bod nifer fechan yn cymryd rhan yn y peilot.
Gwadodd Llywodraeth Cymru fod y bobl ifanc dan sylw yn fudwyr anghyfreithlon.
Disgwyl i 500 ymuno â'r cynllun
Fe lansiwyd y cynllun incwm sylfaenol y llynedd, i weld sut y gallai'r taliadau helpu'r rhai sy'n gadael gofal i ddod yn fwy annibynnol.
Ers dechrau'r prosiect, mae plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches ac sy'n cyrraedd 18 oed wedi gallu gwneud cais am yr arian, sef cyfanswm o £1,280 ar ôl treth.
Mae'r cynllun yn cynnig taliadau misol diamod am ddwy flynedd i'r rhai sydd wedi bod mewn gofal am 13 wythnos.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae 294 wedi elwa o'r cynllun peilot incwm sylfaenol.
Mae 152 o dderbynwyr wedi dweud eu bod yn Gymry, 57 wedi dweud eu bod yn Brydeinwyr a 37 wedi dweud eu bod yn Saeson.
Dywedodd 35 eu bod o genedl arall - 29 o genhedloedd gwahanol i gyd. Ni chafwyd ymateb i'r cwestiwn gan 13 unigolyn.
Disgwylir y bydd tua 500 yn ymuno yn y pen draw erbyn i'r cynllun gau i ymgeiswyr newydd ym mis Mehefin.
'Honiadau anghywir a chamarweiniol'
Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Prydain i lacio'r rheolau cymorth cyfreithiol ar gyfer y rheiny sy'n rhan o'r peilot fel eu bod yn gallu parhau i hawlio cymorth cyfreithiol am ddim tra hefyd yn derbyn y cymorth ariannol yma.
Ond gwrthod wnaeth gweinidogion Ceidwadol.
Yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher dywedodd Ysgrifennydd Cymru David TC Davies fod gweinidogion Llafur eisiau sicrhau nad oedd ceiswyr lloches yn "gorfod talu'r un biliau cyfreithiol y byddai'r gweddill ohonom yn eu hwynebu".
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gofyn am gymorth cyfreithiol ar gyfer y rheiny sydd eisoes wedi dechrau'r broses o hawlio lloches, ac sydd am ymuno a'r peilot incwm.
Yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, dywedodd Rishi Sunak: "Rwy'n gwybod bod arweinydd Llafur wedi dweud mai llywodraeth Lafur Cymru yw ei fodel, ac mae'n anghredadwy fel y dywedodd fy aelod anrhydeddus fod Llafur yng Nghymru yn ceisio talu £1,600 i fewnfudwyr anghyfreithlon.
"Rydyn ni'n atal y cychod, mae Llafur yn talu amdanyn nhw".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn unol â'n cynllun Cenedl Noddfa, rydym am sicrhau bod plant sy'n ceisio lloches ar eu pen eu hunain yn cael eu cefnogi i ailadeiladu eu bywydau ac nad ydyn nhw'n cael eu hatal rhag cael mynediad at gynlluniau a buddion priodol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi eu hintegreiddio.
"Mae'n siomedig bod honiadau anghywir a chamarweiniol yn cael eu defnyddio i fychanu'r materion sensitif hyn."
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi methu ag argyhoeddi gweinidogion y DU i ddiwygio rheolau er mwyn atal yr arian yma rhag effeithio ar hawl unigolyn i dderbyn budd-daliadau.
Ysgrifennodd tri o weinidogion Cymru gan gynnwys y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, at lywodraeth y DU ym mis Mawrth yn gofyn a fyddai unigolion sy'n derbyn yr incwm sylfaenol yn gallu cael eu heithrio o'r trothwy prawf modd ar gyfer cymorth cyfreithiol.
Mae cymdeithas y gyfraith yn dweud y gall ceiswyr lloches gael yr hawl i gyngor cyfreithiol am ddim i helpu gyda hawliadau lloches os nad oes ganddyn nhw fawr o arian, os o gwbl.
Fe wrthododd y Gweinidog Cyfiawnder, yr Arglwydd Bellamy, ac Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, gais Llywodraeth Cymru.
Ond fe ddywedon nhw nad oedd derbyn incwm o'r cynllun peilot yn golygu byddai pobl "yn anghymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2021