Cyfrifiad 2021: Twf yn y boblogaeth oherwydd mudo i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r twf ym mhoblogaeth Cymru ers 2011 yn deillio o fudo net positif i Gymru o tua 55,000 o breswylwyr arferol, mae ail ganlyniadau Cyfrifiad 2021 yn dangos.
Er bod poblogaeth y wlad wedi cynyddu dros y degawd diwethaf, roedd mwy o farwolaethau na genedigaethau yng Nghymru rhwng 2011 a 2021.
O'r 3.1 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru yn 2021, ganwyd 2.9 miliwn (93.1%) yn y DU a 215,000 (6.9%) tu allan i'r DU.
Mae nifer y preswylwyr yng Nghymru a anwyd y tu allan i'r DU wedi cynyddu 28.3% (48,000) rhwng Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021.
Yn Lloegr, mae nifer y preswylwyr a anwyd y tu allan i'r DU wedi cynyddu 33.6% (2.5 miliwn).
0.8% o'r boblogaeth o Wlad Pwyl
Ar ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, amcangyfrifwyd mai 3,107,494 oedd maint y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru - y boblogaeth fwyaf erioed sydd wedi'i chofnodi drwy gyfrifiad yng Nghymru.
Roedd 1,347,114 o gartrefi ag o leiaf un preswylydd arferol yng Nghymru ar ddiwrnod y Cyfrifiad.
Yng Nghymru, Gwlad Pwyl sy'n parhau i fod y wlad enedigol fwyaf cyffredin tu allan i'r DU (24,832 o bobl, neu 0.8% o'r holl breswylwyr arferol).
Cynyddodd nifer y preswylwyr yng Nghymru a nododd Rwmania fel eu gwlad enedigol bron i bum gwaith (469.9%) rhwng 2011 a 2021, gan gynyddu 7,025.
Roedd gan 124,557 o breswylwyr arferol (4.0%) basbort nad yw'n basbort y DU.
O'r 3.1 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru yn 2021, roedd 3,051,549 (98.2%) yn byw mewn cartrefi a 55,945 (1.8%) yn byw mewn sefydliadau cymunedol.
Yn gyffredinol, roedd 63.1% o gartrefi (850,096) yn rhai un teulu, 31.9% (429,559) yn gartrefi un person a 5.0% (67,459) yn gartrefi teulu lluosog neu'n fathau eraill o gartrefi.
Ynys Môn yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru lle mae nifer (112) a chanran y bobl a anwyd y tu allan i'r DU wedi gostwng (4.9%) ers Cyfrifiad 2011.
Casnewydd a Sir y Fflint oedd â'r cynnydd mwyaf mewn preswylwyr a anwyd y tu allan i'r DU, gan gynyddu 57.5% a 55.7%.
Amddifadedd
Gostyngodd amddifadedd cyffredinol ledled Cymru rhwng 2011 a 2021, yn ôl y Cyfrifiad.
Mae'r data'n cofnodi bod 54.1% o aelwydydd yn ddifreintiedig o ran diffyg cyflogaeth, addysg, iechyd ac anabledd neu dai yn 2021.
Mae hynny'n cymharu â 61% yn 2011, a 51.6% yn Lloegr yn 2021.
Blaenau Gwent (61.7%) a Merthyr Tudful (59.8%) oedd yr ardaloedd awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o aelwydydd difreintiedig yn 2021.
Roedd gan Sir Fynwy (51.7%) a Bro Morgannwg (51%) y gyfran uchaf o aelwydydd heb unrhyw amddifadedd.
Dyma ail ganlyniadau Cyfrifiad 2021. Roedd y canlyniadau cyntaf wedi dangos mai poblogaeth breswyl arferol Cymru oedd 3,107,500 ar ddiwrnod y Cyfrifiad fis Mawrth 2021.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2021