Ysgrifennydd Cymru eisiau mewnfudwyr 'â sgiliau uchel'
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymru'n dweud ei fod yn "bragmatig" am nifer y mewnfudwyr sy'n cael eu gadael i mewn i'r wlad.
Dywedodd David TC Davies AS nad oedd ots ganddo weld "pobl â sgiliau uchel sydd â rhywbeth i'w gyfrannu yn dod i Brydain".
Mae disgwyl i niferoedd mewnfudo - y gwahaniaeth rhwng faint sy'n mynd a dod - gyrraedd lefel sefydlog o tua 245,000 y flwyddyn o 2026 ymlaen.
Ond mae'r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman wedi dweud ei bod hi eisiau adfer hen addewid gan y Ceidwadwyr i leihau'r nifer yna i lai na 100,000 o bobl.
'Dim arian HS2 i Gymru'
Fe wnaeth Llywodraeth y DU lansio system fewnfudo newydd ar ddiwedd 2020 yn dilyn Brexit - un sy'n seiliedig ar bwyntiau, ac ar gyfer mewnfudwyr o du mewn a thu allan i'r UE.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd nifer y mewnfudwyr ychydig dros 500,000 yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2022.
Wrth siarad ar raglen BBC Politics Wales, dywedodd Mr Davies: "Rydw i'n gyfforddus ein bod ni'n dweud, os oes gennych chi sgiliau lle mae prinder gyda ni, doctoriaid er enghraifft, rhai gweithwyr adeiladu, wrth gwrs bod croeso i chi i Brydain.
"Beth dwi ddim yn gyfforddus gyda yw 50,000 o bobl y flwyddyn yn penderfynu y gallen nhw ddod i'r wlad yma heb gyfyngiadau, talu arian i smyglwyr, rhoi eu hunain dan risg."
Ychwanegodd ei fod yn "bragmatig" am y targed blaenorol o leihau mewnfudo i dan 100,000, ac mae gweithwyr "â sgiliau uchel" oedd beth yr oedd eisiau eu gweld.
Mae Llywodraeth y DU wedi wynebu galwadau i roi mwy o arian ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru yn dilyn gwariant ar HS2, gan nad oes yr un fodfedd o'r trac hwnnw am fod yng Nghymru.
Mae HS2 wedi cael ei ddynodi'n gynllun 'Cymru a Lloegr' gan swyddogion yn San Steffan, sy'n golygu nad ydy Llywodraeth Cymru'n derbyn arian ychwanegol fel sy'n arferol pan mae gwariant yn digwydd ar brosiectau yn Lloegr.
Ond mae dadansoddiad Llywodraeth y DU eu hunain wedi amcangyfrif y byddai HS2 yn cael effaith negyddol ar y cyfan ar Gymru.
Dywedodd swyddogion llywodraeth y byddai llwybr HS2 rhwng Birmingham a Crewe o fudd i deithwyr yng ngogledd Cymru.
Ond gydag oedi o ddwy flynedd yn debygbol bellach i'r llwybr hwnnw, gofynnwyd wrth Ysgrifennydd Cymru a oedd hynny'n ei gwneud hi'n anoddach cyfiawnhau peidio rhoi arian trafnidiaeth ychwanegol i Gymru.
"Y realiti yw y bydd Cymru a Lloegr yn elwa o brosiectau rheilffordd sy'n digwydd yr ochr arall i'r ffin," meddai Mr Davies.
"Bydd y gwaith sy'n digwydd yn Fforest y Ddena yn elwa teithwyr o dde Cymru i ganolbarth Lloegr, neu hyd yn oed gogledd Cymru, fan bennaf."
Cynlluniau Llafur
Mae Llywodraeth Cymru a'r gwrthbleidiau yn y Senedd, gan gynnwys y Ceidwadwyr Cymreig, i gyd wedi galw am gyllid ychwanegol o HS2 i Gymru.
Ond mewn cyfweliad gyda WalesOnline, wnaeth arweinydd Llafur y DU Keir Starmer wrthod ymrwymo i gymryd y cam hwnnw petai ei blaid yn dod i rym yn San Steffan.
Dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru y byddai hi'n parhau i "roi pwysau ar ein cydweithwyr ym Mhlaid Lafur y DU ar HS2".
Doedd Keir Starmer ddim chwaith wedi ymrwymo i roi rhagor o arian i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi'r etholiad cyffredinol nesaf.
"Fyddech chi ddim yn disgwyl i Lafur y DU osod eu stondin allan mor bell â hyn i ffwrdd o'r etholiad cyffredinol," meddai Rebecca Evans AS.
"Ond rydw i'n hollol hyderus y byddan nhw'n darparu syniadau gwych o ran treth a gwariant."
Yn ei Gyllideb, fe wnaeth y Canghellor Ceidwadol Jeremy Hunt addo ymestyn gofal plant am ddim ar gyfer plant dros naw mis oed.
Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru, yn y broses ar hyn o bryd o ymestyn gofal plant i'r rheiny sy'n ddwy oed.
Dywedodd Ms Evans y byddai Llywodraeth Cymru'n "parhau i edrych" a fyddan nhw'n gwneud yr un peth â Lloegr, a bod ganddyn nhw "ddewisiadau" i'w gwneud.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2020