Ennill cadair 'Steddfod Aber "yn gamp i ferch o India"
- Cyhoeddwyd
"Pan ddes i Aberystwyth rai blynyddoedd yn ôl fe syrthiais mewn cariad â'r lle ac yn rhyfedd iawn dwi'n teimlo bo fi'n dilyn ôl troed Dorothy Bonarjee," medd Mohini Gupta.
Mae Ms Gupta yn un o olygyddion y gyfrol newydd 'The Hindu Bard' - sef detholiad o farddoniaeth myfyrwraig o India a ddaeth i Aberystwyth yn 1912 ac a enillodd gadair eisteddfod y brifysgol yn 1914.
Pan ddaeth Mohini i Aberystwyth yn 2017 doedd hi'n gwybod dim am Dorothy (Dorf) ond wedi i erthygl am gariad Mohini at Gymru ymddangos ar Cymru Fyw fe wnaeth Andrew Whitehead, hanesydd sydd wedi bod yn ymchwilio i hanes Dorothy Bonarjee gysylltu â Mohini wedi iddo weld bod hithau hefyd wedi teithio o India i Aberystwyth.
"Mae'r cyfan wedi bod yn gwbl wefreiddiol ac rwy'n falch bod gwasg Honno wedi sicrhau bod gwaith Dorf yn gweld golau dydd," meddai Mohini wrth siarad â Cymru Fyw.
Fe enillodd Dorothy Bonarjee gadair Eisteddfod Prifysgol Aberystwyth am gerdd ar Owain Lawgoch - yn bresennol yn y seremoni roedd T H Parry-Williams a beirniad y gystadleuaeth T Gwynn Jones ac fe deithiodd tad Ms Bonarjee yr holl ffordd o India.
Mae'r hyn sydd wedi goroesi o'r gerdd fuddugol 200 llinell i'w gweld yn y gyfrol.
Ganwyd Dorothy Bonarjee yn Bareilly, India, yn 1894 i deulu o Brahminiaid Bengali dosbarth canol. Roedd ei thad Debendranath Bonarjee yn newyddiadurwr a chyfreithiwr a phan oedd Dorf yn 10 oed symudodd y teulu i Lundain pan aeth ei thad i Lincoln's Inn.
Chwe blynedd yn ddiweddarach dychwelodd y rhieni i India ond fe arhosodd y plant yn Lloegr. Y bwriad oedd iddyn nhw ddychwelyd i India ar ôl eu haddysg ym Mhrydain.
"Ond o'r cychwyn cyntaf roedd hi'n amlwg nad oedd Dorf am wrando ar ei rhieni - roedd yna fwriad iddi i astudio yn Rhydychen ond fe ddewisodd hi Aberystwyth am fod Rhydychen yn rhy snobyddlyd," meddai Mohini Gupta.
"'Lle ar y ddaear mae Aberystwyth?' oedd geiriau ei thad yn ôl y sôn wedi iddi hi a'i brawd fynd yno.
"Yn ddiweddarach ar ôl graddio ym Mhrifysgol Cymru yn 1916 gyda BA mewn Ffrangeg, aeth Dorf i Goleg Prifysgol Llundain gan fod y ferch gyntaf i ennill gradd yn y gyfraith - cryn gamp gan nad oedd hawl i ferched fod yn gyfreithwyr tan y Ddeddf 'Sex Disqualification (Removal)' yn 1919. Aeth hi fyth yn ôl i India er mawr siom i'w theulu.
"Heb os bu Aberystwyth yn gryn ddylanwad arni a chafodd fywyd llawn yno. Bu'n drysorydd y Gymdeithas Lenyddol a Dadlau, yn aelod o fwrdd golygyddol cylchgrawn y myfyrwyr, The Dragon, ac fe gyfrannodd sawl cerdd i'r cylchgrawn The Welsh Outlook.
"Roedd yna sôn mawr amdani yn enwedig wedi iddi ennill y gadair - roedd hi'n rhyfeddol fod merch wedi ennill, doedd dim llawer o ferched yn y coleg wrth gwrs, ond roedd hi'n fwy rhyfeddol bod merch o India wedi ennill. Hi oedd y ferch gyntaf o gefndir ethnig i gyflawni camp o'r fath. Fe gafodd hi gymeradwyaeth enfawr yn ôl adroddiadau yn y wasg.
"Fe gafodd ei hadnabod wedyn fel y bardd Hindŵaidd ond i ddweud y gwir doedd hi ddim yn grefyddol o gwbl. Roedd ei phrofiad yn Aberystwyth yn un cwbl arbennig ond roedd yna siom hefyd."
'Mae'n bert ond yn Indiad'
Yn ystod ei chyfnod yn Aberystwyth roedd Dorf, yn groes i ewyllys ei rhieni, wedi syrthio mewn cariad â Chymro ac wedi dyweddïo'n gyfrinachol. Er bod teulu'r cariad yn hoff ohoni ac yn credu ei bod yn bert ac yn ddeallus doedd y ffaith ei bod yn Indiad ddim yn eu plesio.
"Mae'n amlwg bod hynny wedi effeithio arni ac mae cofnod am hynny yn ei llyfr nodiadau," ychwanegodd Ms Gupta, "ond er hynny mae'n amlwg bod ei chyfnod yn Aberystwyth yn un gwerthfawr oherwydd yn y 1970au fe ddaeth hi nôl i'r dre gyda'i nith.
"Roedd hawliau merched yn bwysig iddi - doedd hi'n bendant ddim yn cytuno â phriodasau wedi'u trefnu a dyma hi'n dianc i Ffrainc gyda'r artist Paul Surtel. Yno y bu hi tan ei marwolaeth yn 1983 er bod y briodas wedi dod i ben yn y 1930au."
Wrth gyfeirio at ei cherddi dywedodd Mohini Gupta bod natur, plentyndod, cariad a cholled ymhlith y themâu a bod nifer o'r cerddi wedi deillio o'i chyfnod yn Aberystwyth.
Yn Ffrainc ganwyd i Dorf a'i gŵr fab a merch ond bu farw eu mab Denis pan yn fabi.
"Dwi mor falch bod Andrew Whitehead wedi dod o hyd i fi drwy erthygl Cymru Fyw - mae dysgu am fywyd a gwaith Dorf wedi bod yn brofiad gwefreiddiol," ychwanegodd Mohini Gupta.
"Ers dod i Gymru dwi wedi dysgu mwy am gysylltiad agos Cymru ac India ac am ddylanwad y cenhadon a ddaeth o Gymru i Ogledd Ddwyrain India.
"Mae eu dylanwad yn parhau mewn mannau - mae anthem llwyth Khasi o dalaith Meghalaya yn cael ei chanu ar dôn Hen Wlad fy Nhadau ac roedd ysgol fy mam yn Pune yng ngorllewin India yn cynnal eisteddfod, er enghraifft.
"Ond nawr dwi'n falch bod yna gysylltiad agos rhwng Aberystwyth ac India a bod mwy o bobl yn gwybod am Dorothy Bonarjee.
"Dwi wedi cwrdd â phobl eraill sydd wedi dod i Aberystwyth o India ac maen nhw hefyd wrth eu bodd yn y dre glan môr. Dwi ddim yn synnu!"
Hefyd o ddiddordeb: