Y ferch o Delhi sydd wedi cwympo mewn cariad â Chymru
- Cyhoeddwyd
"Doeddwn i'n gwybod fawr ddim am Gymru a llai fyth am Aberystwyth pan gyrhaeddais y dref yn 2017," medd Mohini Gupta o Delhi yn India, "ond dwi wedi cwympo mewn cariad â Chymru a gydag Aber."
Mae Mohini bellach yn fyfyrwraig yn Rhydychen ond mae ei diddordeb yn y Gymraeg, a gafodd ei danio yn ystod ei chyfnod yn Aber, wedi bod yn allweddol i'w maes doethuriaeth.
"Yn 2017, fe enillais i Gymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Charles Wallace India - Llenyddiaeth ar draws Ffiniau ar gyfer ysgrifennu creadigol a chyfieithu. Mae hyn yn golygu tri mis preswyl i awdur-gyfieithydd ac roeddwn i mor ffodus bod y gymrodoriaeth wedi'i lleoli yng Nghymru.
"Mewn dim roedd fy llygaid wedi eu hagor i wleidyddiaeth, iaith a dwyieithrwydd mewn ffordd newydd sbon," ychwanegodd.
'Disgwyl teimlo'n unig'
"Roedd fy ffrindiau wedi fy rhybuddio y byddwn yn teimlo'n unig mewn tref fechan fel Aberystwyth, yn enwedig o'i chymharu gyda dinas brysur fel Delhi.
"Felly dyma gyrraedd gan ddisgwyl treulio llawer o amser ar fy mhen fy hun yn gweithio ar fy ngwaith cyfieithu cerddi ond roedd Aberystwyth yn wahanol i bopeth roeddwn i wedi ei ddychmygu - roedd hi'n dref oedd yn fy neffro i yn ddeallusol ac yn ddiwylliannol - fe ddaeth yn 'gartref' i fi mewn dim o dro," meddai.
"Rhaid i mi gyfaddef doeddwn i ddim yn gwybod llawer am Gymru cyn i mi gyrraedd. Roeddwn i wedi synnu clywed y Gymraeg ar y strydoedd ac o fewn cartrefi.
"Roedd yr arwyddion ar y stryd yn fy ysbrydoli i gael yr ynganiad yn iawn, felly mi wnes i dreulio fy 24 awr cyntaf yn Aberystwyth yn meistroli'r wyddor Gymraeg drwy fideos ar YouTube, gan greu allwedd Cymraeg-Hindi i allu darllen yr arwyddion yn uchel i mi fy hun y diwrnod canlynol.
"Ychydig a wyddwn y byddai'r chwilfrydedd cychwynnol yma yn dod yn gariad llawn at yr iaith dros yr wythnosau nesaf. Dyma ddilyn cwrs Say Something in Welsh a dechrau dysgu sgwrsio sylfaenol yn Gymraeg, gyda phawb o'm cwmpas yn fy annog i siarad yr iaith.
"Roeddwn wrth fy modd! Roedd 'na restr hir o bethau oedd yn tanio fy nghariad at Aber a Chymru - y bobl, yr iaith, machlud dramatig dros y môr, cynghanedd, y bwytai, fy sesiynau yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth, fy ymweliadau â Chaernarfon, Tyddewi a Bedlinog.
"Fe wnes i ddarganfod y Mabinogi, y tebygrwydd rhwng India a Chymru, gwleidyddiaeth, iaith ac yn fwy na dim y teimlad o gynhesrwydd ac anwyldeb."
Fe lwyddodd Mohini i gyfarfod â llu o bobl mewn byr amser - nid yn unig yn Aberystwyth ond trwy Gymru.
"Roeddwn yn byw mewn cartref Cymraeg ac fe ges fy amgylchynu gan bobl a deimlai'n angerddol am yr iaith.
"Roedd y brwdfrydedd yn heintus, a dyma ddechrau cwrdd â phobl, mynd i gyngherddau ac operâu a gemau rygbi; ymweld â sefydliadau fel Merched y Wawr a Chyngor Llyfrau Cymru i ddysgu mwy am eu gwaith a chymryd rhan mewn cynifer o ddigwyddiadau a sgyrsiau cyhoeddus ag y gallwn," ychwanegodd.
"Dwi'n meddwl mai be' ydw i fwyaf balch ohono wrth gofio'r cyfnod yn Aberystwyth ydi'r Mushaira Aberystwyth wnes i drefnu efo Dewi Huw Owen. Digwyddiad barddoniaeth amlieithog oedd hwn ac fe ddaeth 45 o bobl yno ac roedd 19 o bobl yn darllen cerddi mewn ieithoedd gwahanol. Yr oedd yn glo perffaith ar fy arhosiad yn Aber."
Roedd yn rhaid i Mohini ddychwelyd i India ar ôl tri mis yn Aberystwyth, ond roedd y cysylltiad gyda Chymru wedi ei wneud a dywed na fydd hi fyth yn torri'r cysylltiad.
Drwy brosiectau fel Barddoniaeth India-Cymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Sefydliad Mercator mae Mohini wedi gallu ymweld â Chymru deirgwaith ond mae hefyd wedi cyfrannu i raglenni Radio Cymru ac wedi siarad fel aelod o banel yn trafod llenyddiaeth Gymraeg yn Yr Eisteddfod AmGen.
"Rydw i hefyd wedi cynnal sesiynau gydag awduron a beirdd o Gymru yn India, mewn digwyddiadau fel Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur ac rwy'n meddwl bod Eurig Salisbury, Nicky Arscott, Rhys Trimble a Rachel Trezise wedi mwynhau eu hymweliadau.
Sanskrit yn help i ddysgu Cymraeg
"Rydw i'n parhau i ddysgu Cymraeg wrth gwrs! Y Gymraeg ydi'r iaith anoddaf i mi ei dysgu yn sicr, ond dwi'n mwynhau yr her. Rydw i wedi dysgu Sbaeneg ac Wrdw, a Hindi a Saesneg yw fy nwy iaith naturiol i. Doeddwn i erioed wedi dod ar draws iaith Geltaidd o'r blaen.
"Roedd rhywfaint o wybodaeth am Sanskrit yn gymorth. Er enghraifft, roedd hi'n hawdd i mi gofio treigladau trwynol yn Gymraeg wrth ddefnyddio'r siart wyddor Sanskrit/Hindi sy'n seiliedig ar y rhan o'r geg a ddefnyddiwn i gynhyrchu sain. Mae'r gymhariaeth yn ddiddorol iawn!"
Poeni am Covid yn India
Roedd hi'n ddiwedd Medi ar Mohini yn cyrraedd Rhydychen ac yr oedd yn rhaid iddi hunan-ynysu am bythefnos oherwydd Covid-19. Mae nifer fawr wedi eu heintio yn India ac mae'n poeni am hynny.
"Rydw i'n poeni am fy rhieni a'r teulu wrth gwrs. Mae'r niferoedd sydd wedi cael Covid yn India yn uwch nag yn y DU. Roedd cymaint â 6,000 o achosion mewn diwrnod yn Dehli yr wythnos hon.
"Mae fy nheulu'n gwneud eu gorau i aros yn ddiogel ac aros adref, gan fod y feirws wedi cyrraedd cylchoedd agos iawn at ein cartref. Rwy'n poeni llawer amdanyn nhw."
Diwali gwahanol
Ond â hithau'n ŵyl Diwali o ddydd Sadwrn 14 Tachwedd ymlaen - gŵyl y goleuni - dywed Mohini bod hi'n hiraethu rywfaint yn enwedig gan y bydd y dathliadau ar draws y byd yn wahanol eleni.
"Fel arfer, byddwn i'n gwahodd rhai ffrindiau draw, coginio Biryani a chwarae cardiau Diwali (fersiwn Indiaidd o poker) yn ystod yr ŵyl. Am ein bod yn addoli duwies cyfoeth, Lakshmi, ar Diwali, mae rhywun i fod yn lwcus wrth gamblo!
"Fel arall, mae'n ŵyl ddigon tawel - dathlu gartref gyda'r teulu, bwyta losin, gwisgo dillad newydd a pherfformio pooja neu weddi fach. Mae dechrau'r flwyddyn newydd, yn ôl y calendr Hindŵaidd, â naws debyg i'ch Nadolig a dwi'n colli hynny ond mae'n mynd i fod yn fwy unig byth yma yn Rhydychen gan fod yna gyfnod clo."
'Cyfnod rhyfeddol'
Wrth sôn am ei gwaith ymchwil dywed mai ei nod yw cael plant i ymhyfrydu yn eu hieithoedd.
"Rydw i'n astudio gwleidyddiaeth iaith yn India - yn enwedig y berthynas gymdeithasol rhwng Saesneg ac ieithoedd India. Yr wyf yn awyddus i ymchwilio i'r ffordd mae'r genhedlaeth iau yn ffurfio eu hagweddau tuag at yr iaith mae nhw'n ei siarad.
"Tybed a ellir helpu myfyrwyr ifanc i fod yn falch o'u hieithoedd a'u mamiaith. Mae 'na ryw 400,000 o bobl yn siarad Cymraeg ac yn ymdrechu i gadw'r iaith pan mae'r Saesneg yn mynnu ei lle ac mae hynny wedi fy ysgogi i ofyn oes 'na ffyrdd i ieuenctid trefol India fagu balchder yn Hindi (a siaredir gan 550 miliwn) yn hytrach na chael eu hudo gan y Saesneg.
"Yn y dyfodol gobeithiaf fod ar flaen y gad o ran trawsnewid addysg i blant ledled India. Fy nod yw cael plant i ymhyfrydu yn eu hieithoedd a'u mamiaith a symud heibio i'r 'cywilydd ôl-goloneiddiol' sydd yn siapio'u hagweddau yn gynnar yn yr ysgol.
"Heb fy nhri mis cychwynnol yn Aberystwyth a'r hyn dwi wedi ei ddarganfod am agweddau pobl at y Gymraeg, go brin y byddwn wedi cychwyn ar y trywydd yma - roedd yn gyfnod rhyfeddol."
Hefyd o ddiddordeb: