Lansio ymgyrch ar gyfer Wyddfa di-blastig

  • Cyhoeddwyd
Copa'r WyddfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 600,000 o bobl yn ymweld â'r Wyddfa yn flynyddol

Sicrhau fod yr Wyddfa yn ddi-blastig yw nod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wrth lansio ymgyrch ymwybyddiaeth ymysg cerddwyr a busnesau.

Mae 'na dros hanner miliwn o bobl yn ymweld â'r Wyddfa bob blwyddyn ac mae sbwriel yn broblem.

Y gobaith ydy sicrhau statws i'r Wyddfa fel mynydd di-blastig cyntaf y byd drwy gael gwared ar ddefnyddio plastig untro fel poteli a chwpanau.

Mae sbwriel, ac yn arbennig plastig, yn broblem ymhobman a dros y blynyddoedd diwethaf mae gwirfoddolwyr wedi bod yn ceisio clirio sbwriel o lethrau'r Wyddfa.

Gyda miloedd yn heidio am y copa bob blwyddyn mae 'na bryder am effaith tymor hir y plastig ar y mynydd ac ar fyd natur yn gyffredinol.

Emyr Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Emyr Williams bod angen newid sut mae pobl yn prynu nwyddau

Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri: "Prosiect ydy hwn i godi ymwybyddiaeth a thrio newid ymarferiad pobl ar sut i reoli papur.

"Mae pobl yn dod i mewn i'r ardal gyda gorchuddion ar fwyd, cario eu dŵr ac yn y blaen, felly mae hwnnw'n broblem weledol iawn a rhywbeth mae'n gwirfoddolwyr ni yn hel yn ddyddiol neu yn wythnosol."

Ychwanegodd fod angen annog pobl i newid sut maen nhw'n prynu nwyddau ac i "ystyried mwy am blastig a'r amgylchedd".

Craig Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Craig Edwards does na fawr ddim gwahaniaeth pris

Yn Llanberis ddydd Llun cafodd y cyhoedd a busnesau gyfle i weld beth sy'n bosib defnyddio yn lle cwpanau plastig ac ati.

Yn ôl Craig Edwards o Gwmni Gwynedd Disposables: "Mae gynnon ni gwpanau coffi, tê neu soup… potiau bach i ddal pethau fel salad neu hyd yn oed petha' i ddal byrgyrs a chips.

"Newid o'r hen polystyrine i beth compostable sy'n pydru ymhen 24 wythnos… amrywiaeth o lot o bethau gwahanol."

Ychwanegodd fod y gost o newid i ddefnyddio cynnyrch fwy cynaliadwy yn fater o "geiniogau".

Angela Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angela Jones yn annog busnesau lleol i helpu ymwelwyr i ail lenwi poteli dŵr

Mae 'na obaith hefyd i gynnig llefydd i ail lenwi poteli yn hytrach na'u bod yn cael eu taflu i ffwrdd.

Dywedodd Angela Jones, Rheolwr Partneriaethau Parc Cenedlaethol Eryri, y bydd lle i ail lenwi poteli dŵr ar waelod "pob un llwybr i'r Wyddfa yn ein meysydd parcio".

"Dyna un o'r pethau 'da ni'n ofyn i'r busnesau yma heddiw i wneud ydy cynnig ail lenwi poteli dŵr i bobl," meddai.

Dylan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan Jones yn gefnogol i'r cynlluniau diweddaraf

Ym mhentref bach Llanberis, roedd 'na gefnogaeth i'r syniad.

Dywedodd Dylan Jones, sy'n rhedeg Siop Crib Goch yn y pentref: "Mae'n syniad da yn dydi, mae'n mynd i fod yn dipyn o job 'swn i'n feddwl.

"Mae pob dim yn dod i mewn [i'r siop] mewn plastig ond 'da ni wedi bod yn gwneud pethau gwahanol i drio cael gwared o be 'da ni'n gynhyrchu fel siop… newid bagiau plastig i fagiau papur a ballu.

"Jyst rhyw betha' bach fel'na i drio helpu."