Tân mawr mewn uned ddiwydiannol yn Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd
Sawl injan dân ar stryd yn HwlfforddFfynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald
Disgrifiad o’r llun,

Roedd mwy na 30 o ddiffoddwyr yn bresennol a rhybudd i bobl osgoi ardal Dew Street

Roedd mwy na 30 o ddiffoddwyr yn delio â thân mawr mewn uned ddiwydiannol yn Sir Benfro fore Sadwrn.

Fe chafodd chwech o griwiau eu galw i'r digwyddiad yn Hwlffordd tua 07:20.

Roedd sawl injan dân i'w gweld yng nghanol y dref.

Mae'r heddlu'n gofyn i bobl osgoi ardal Dew Street.

Pynciau cysylltiedig