Lori'n llawn cacennau ar dân yn Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
Diffoddwyr yn diffodd fflamau'r loriFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd ffordd yr A5 ei chau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod

Mae diffoddwyr yn Sir Ddinbych wedi bod yn delio â than ar lori oedd yn cludo cacennau.

Fe gafodd criwiau o Gorwen a Llangollen eu galw i ffordd yr A5 tua 01:15 fore Sadwrn.

Ar ôl i'r tân gael ei ddiffodd, fe wnaeth y fflamau ail-gynnau tua 06:30.

Fe gafodd ffordd yr A5 ei chau i'r ddau gyfeiriad, yn ôl yr heddlu.

Does dim adroddiadau o unrhyw anafiadau.

Pynciau cysylltiedig