Dadl am ble i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi mynegi diddordeb mewn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol cyn 2031.
Ond a ddylid croesawu'r brifwyl i arfordir y sir, ynteu ei chymunedau mwy traddodiadol Gymraeg?
Dyna oedd y ddadl wrth i gynghorwyr gytuno i ddarparu arian i ddenu'r Brifwyl o fewn yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Wrth ddenu 150,000 o ymwelwyr i'r ardal, gan gyfrannu £22m i'r economi leol, dyhead y cyngor yw gwahodd yr Eisteddfod i'r sir rhwng 2025 a 2031.
Y tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld â'r sir oedd 2013 pan gynhaliwyd y brifwyl ar Fferm Kilford ger tref Dinbych.
Ond mae'r ddadl am ba ardal y dylid ei chynnal y tro nesaf wedi ei danio'n barod.
Tra fod rhai aelodau yn credu y gallai'r Eisteddfod helpu i hybu'r Gymraeg yn y cymunedau arfordirol, roedd eraill yn credu fod angen cynnal yr ŵyl mewn ardal mwy draddodiadol Gymraeg ei hiaith.
'Eisteddfod yn gadael gwaddol'
Yn ôl y cylchdro daearyddol traddodiadol, mae disgwyl i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â'r gogledd yn 2027, 2029 a 2031.
Gyda Chyngor Tref Rhuddlan eisoes wedi dangos diddordeb mewn cynnal yr ŵyl, roedd deilydd portffolio iaith Gymraeg y sir yn awyddus i wireddu hynny.
"Mae'r Eisteddfod yn gadael gwaddol ar ôl gadael, ac mae hynny'n bwysig iawn, iawn," meddai'r Cynghorydd Emrys Wynne.
"Felly os ydyn ni'n fodlon cefnogi hyn, fe fydden ni'n rhoi pwysau ar bwyllgor yr Eisteddfod i gynnal yr Eisteddfod yng ngogledd Sir Ddinbych, a hoffwn eu gweld yn ymateb i'r gwahoddiad gan Gyngor Tref Rhuddlan."
Wrth siarad ar raglen y Post Prynhawn Radio Cymru fe ychwanegodd: "O ystyried ein bod ni newydd gael Eisteddfod yr Urdd yma yn 2022, a llwyddiannus iawn oedd honno hefyd, faswn i'n dweud fod 2029 neu hyd yn oed 2031 yn rhoi digon o amser i bobl fynd ati o ddifri a chodi arian.
"Mae caredigion yr Eisteddfod yn llwyddo i godi arian lle bynnag fydd yr Eisteddfod. Dydi pobl ddim yn gweld yr Eisteddfod yn dod i'w hardal mor aml ag yr oedden nhw felly mae yna gyfle rŵan i ni fanteisio ar y sefyllfa lle mae pob sir yn cyfrannu ac fod y bwrlwm lleol yn cynorthwyo wrth godi rhagor o arian.
"Mae'r gwahoddiad i ddod â'r Eisteddfod i Sir Ddinbych - Pwyllgor yr Eisteddfod fydd yn penderfynu ar y lleoliad.
"Y tro dwytha' mi oedd hi yn Ninbych, faswn i'n bersonol yn licio'i gweld yng ngogledd y sir ond fydd eraill isho'i gweld yn ne'r sir.
"Ond lle bynnag fydd mi gaiff hi groeso gan bobl Sir Ddinbych.
"Wrth ymweld ag ardal Seisnig fe Y Rhyl, Prestatyn neu Rhuddlan, mae'n gadael gwaddol.
"Oes mae 'na ganran is o siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd hynny, ond mae 'na niferoedd go sylweddol o siaradwyr Cymraeg yn dal yno."
'Hwb i Gymreictod yr ardal'
Ond dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis ei bod am weld y digwyddiad yn cael ei gynnal yn y cadarnleoedd Cymraeg.
"Byddai'n fantais fawr iawn i'r sir lle bynnag y caiff ei gynnal," meddai'r aelod dros ward Edeirnion, sy'n ardal Corwen.
"Ond byddwn yn annog nad ydym yn pwysleisio y dylai fynd i ogledd y sir.
"Mae de'r sir yn mynd i gael cymaint, os nad mwy o fudd o gael yr Eisteddfod yno.
"Dyna lle mae bröydd Cymraeg y sir, ac mae angen rhywbeth fel Eisteddfod lawr fan yna i roi hwb i Gymreictod yr ardal."
Gyda'r adroddiad wedi ei gefnogi gan y cabinet, ychwanegodd y Cynghorydd Ellie Chard: "Rwy'n gwybod pan roedd [yr Eisteddfod] yn Ninbych roedd pobl yn y Rhyl, yn enwedig y rhai heb geir â dim diddordeb [mynychu].
"Gobeithio y byddwn yn cael mwy o bobl o Brestatyn, Gallt Melyd, ble bynnag, Dyserth, y rhai sydd ddim yn siaradwyr Cymraeg.
"Bydden nhw'n dod draw i weld beth ydy o."
Dywedodd yr arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan: "Lle bynnag y mae yn Sir Ddinbych, byddwn yn ei groesawu'n fawr.
"Heb os nac oni bai, bydd yn cael effaith economaidd gwirioneddol gadarnhaol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2013
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2017