Adran Dau: Casnewydd 2-3 Harrogate
- Cyhoeddwyd

Roedd hi'n bwrw goliau cynnar yng Nghasnewydd nos Fawrth, ond Harrogate lwyddodd i adael Rodney Parade gyda'r triphwynt.
Wedi tri munud yn unig aeth y tîm cartref ar y blaen wrth i Omar Bogle rwydo o groesiad Will Evans ar gyfer ei bedwaredd gôl mewn pedair gêm gartref.
Ond atebodd Harrogate gyda dwy gôl eu hunain o fewn y 10 munud agoriadol diolch i Sam Folarin a George Thomson.
Ddoth Casnewydd nol yn gyfartal diolch i Bogle unwaith eto, ond roedd gôl hwyr Luke Armstrong gydag ond saith munud yn weddill yn ddigon i selio'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr.
Mae'r canlyniad yn golygu fod yr Alltudion yn parhau yn 14eg yn y tabl tra fod Harrogate bellach yn ddiogel.