Galw eto am adeiladu ffordd osgoi Llanbedr ar ôl damwain
- Cyhoeddwyd

Dywed pentrefwyr fod y bont gul yng nghanol Llanbedr yn creu problemau mawr
Mae 'na alwadau ar i Lywodraeth Cymru fwrw 'mlaen â ffordd osgoi yng Ngwynedd wedi i berson gael ei daro gan gerbyd yn yr ardal dros y penwythnos.
Mae pobl ardal Llanbedr wedi bod yn ymgyrchu am ffordd osgoi ers degawdau oherwydd bod y bont gul yng nghanol y pentref yn creu problemau mawr.
Ond fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fis Tachwedd na fyddai'r cynllun yn mynd yn ei flaen.
Roedd 'na eisoes alwadau ar y llywodraeth i ailfeddwl, ond mae Newyddion S4C wedi clywed fod y galwadau hynny wedi cryfhau dros y dyddiau diwethaf ar ôl i berson gael ei daro ar y ffordd i mewn i'r pentref o gyfeiriad Harlech fore Sul.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "bygythiad newid hinsawdd yn gwneud hi'n hanfodol ein bod ni'n defnyddio dull gwahanol o ymdrin â thrafnidiaeth".

Cafodd person ei daro gan gerbyd ar y ffordd i mewn i Lanbedr o gyfeiriad Harlech fore Sul
Dywedodd Jane Taylor Williams, aelod o'r grŵp cymunedol Pobl: "Oedd 'na ddamwain reit gynnar bore dydd Sul, a 'dan ni gyd yn meddwl am y teulu, ond hefyd am y gyrrwr, achos oedd o'n mynd i gyfeiriad Y Bermo.
"Os bydde'r ffordd osgoi neu'r ffordd lliniaru wedi cael ei hadeiladu bydda fo ddim wedi gorfod mynd trwy'r pentref - bysa fo ar y ffordd newydd."

Mae Jane Taylor Williams yn credu fod angen y ffordd osgoi o safbwynt diogelwch
Un arall sy'n poeni am ddiogelwch yn y pentref oherwydd y traffig trwm ydy Tabitha Evans, sy'n fam i ddau blentyn dwy a phedair oed.
"Mae o'n scary. Pan ti'n mynd dros y bont mae 'na single lane arno fo, so dwi'n gorfod cerdded efo un plentyn, trio rhoi y llall yn y pram, a dwi ofn cerdded trwy'r pentref."

Mae'r Cynghorydd Anwen Hughes yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl eu penderfyniad o fis Tachwedd
Y Cynghorydd Anwen Hughes sy'n cynrychioli'r ardal ar Gyngor Gwynedd, ac mae hi o'r farn y byddai ffordd osgoi o fantais o safbwynt diogelwch a'r economi.
Dywedodd ei bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl eu penderfyniad i wrthod y ffordd osgoi.
"Mae'n bwysig iawn, yn enwedig os oes 'na ddatblygiad yn mynd i gael ei wneud yn y maes awyr sydd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru," meddai.
"Mae Vaughan Gething [y Gweinidog Economi] wedi cyhoeddi 'chydig o amser yn ôl bod 'na ddatblygiad yn mynd i fod yn y maes awyr, ac felly ellith hwnnw ddim cael ei wireddu yn fy marn i heb ffordd osgoi.
"Bydd yn rhaid i'r ddau fynd efo'i gilydd neu dim byd o gwbl."

Dywed Cyngor Gwynedd fod angen y ffordd newydd i "sicrhau mynediad addas i Ganolfan Awyrofod Eryri"
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod "trafodaethau yn parhau ar opsiynau i gyfarch anghenion trafnidiaeth pentref Llanbedr a'r ardal ehangach".
"Byddai hyn hefyd, wrth gwrs, yn cynnwys sicrhau mynediad addas i Ganolfan Awyrofod Eryri er mwyn hwyluso datblygiad o safon i allu cynnig swyddi gwerth uchel i bobl leol yn yr ardal yma o Feirionnydd.
"Mae'r gwaith yma yn parhau."
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am drafnidiaeth: "Mae bygythiad newid hinsawdd yn gwneud hi'n hanfodol ein bod ni'n defnyddio dull gwahanol o ymdrin â thrafnidiaeth.
"Mae Cyngor Gwynedd wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i ddatblygu atebion cynaliadwy i fynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â thraffig yn y pentref a mynediad i'r maes awyr, fel y rhai a awgrymwyd yn adroddiad yr Adolygiad Ffyrdd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2021