Trigolion yn protestio dros ffordd osgoi Llanbedr
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru atal cynllun i adeiladu ffordd newydd
Ar benwythnos prysur ar y lonydd, mae galw o'r newydd am ffordd osgoi i Lanbedr, ger Harlech yng Ngwynedd.
Daeth degau o drigolion i brotest ar bont y pentref ddydd Sadwrn - rai misoedd ers i Lywodraeth Cymru atal cynllun i adeiladu ffordd newydd.
Mae'r llywodraeth yn dweud bod angen "agwedd wahanol at drafnidiaeth" achos newid hinsawdd.
Ond mae rhai o'r trigolion wedi cael digon ar y traffig trwm.
'Peryg bywyd cerdded i'r pentref'

Mae'r sefyllfa bresennol yn 'anhygoel,' medd Jane Taylor Williams
"'Dan ni isio gweld ffordd newydd, neu 'dan ni isio gweld lle saff i bobl y pentref, i bobl leol, i bobl sy'n dod ar eu gwyliau," meddai Jane Taylor Williams o fudiad POBL, oedd yn trefnu'r brotest.
"Mae'n beryg bywyd i bobl gerdded lawr i'r pentre', mae'r llygredd… mae o jyst yn anhygoel be' sy'n mynd ymlaen."

Ymhlith y protestwyr oedd Emsyl Davies
Un oedd yn y brotest oedd Emsyl Davies, a ddywedodd ei bod hi'n "ddifrifol ein bod ni ddim yn cael y sylw" gan y llywodraeth.
"Does dim pafinau yma, 'dan ni methu cerdded fyny'r ffordd yn hwylus, efo'r fumes a phopeth," meddai.
Adolygiad o effaith ffyrdd newydd ar allyriadau carbon a arweiniodd at atal y cynlluniau am ffordd newydd ym mis Tachwedd 2021. Roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn adolygu effaith prosiectau o'r fath ar allyriadau carbon.

Mae rhai trigolion wedi cael digon ar y traffig trwm
Byddai'r ffordd yn Llanbedr wedi gwasanaethu'r maes awyr cyfagos, a gadael i'r ymwelwyr sy'n mynd i gyrchfannau gwyliau fel Mochras osgoi'r pentref.
Mae Cyngor Gwynedd, a ymatebodd yn chwyrn i benderfyniad y llywodraeth ym Mae Caerdydd, wedi gwneud cais am arian o gronfa Lefelu'r Gwastad Llywodraeth y DU i ariannu'r ffordd.
"'Chawn ni ddim gwybod ddim byd am hwnnw tan mis Hydref, a 'dan ni'n croesi'n bysedd bydd o'n llwyddiannus," meddai'r Cynghorydd Annwen Hughes sy'n cynrychioli'r ardal ar y cyngor.

Mae'r Cynghorydd Annwen Hughes yn gobeithio y daw arian o gronfa Codi'r Gwastad y DU er mwyn ariannu'r ffordd
"Mae hwn fel last resort, chwedl y Saeson."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "bygythiad y newid yn yr hinsawdd yn mynnu ein bod yn mabwysiadu agwedd wahanol at drafnidiaeth".
Ychwanegodd: "Mae Cyngor Gwynedd wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda hwy i ddatblygu atebion cynaliadwy i roi sylw i'r problemau sy'n ymwneud â thraffig yn y pentref sy'n unol â'n targedau uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd10 Mai 2022
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2021