Wyth arteffact sy'n adrodd hanes Castell y Waun
- Cyhoeddwyd
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi prynu casgliad anferth o arteffactau sy'n adrodd hanes Castell y Waun, ger Wrecsam.
Yn y casgliad, sydd wedi ei werthu gan y teulu Myddelton, mae tua 300 eitem sy'n cwmpasu dros bedair canrif ers i'r teulu gymryd perchnogaeth dros y castell.
Dyma olwg ar rai o'r eitemau yn y casgliad:
Adeiladwyd y castell ddiwedd yr 13eg ganrif gan Roger Mortimer. Cafodd lleoliad y castell ei ddewis yn ofalus er mwyn gwneud y mwyaf o'i safle amddiffynnol, ar ddarn o graig ym mhen Dyffryn Ceiriog, gan reoli Dyffryn Dyfrdwy gerllaw a'r fasnach dros y ffin.
Mae'r castell yn un unigryw gan fod rhywun wedi byw yn barhaus ynddo ers iddo gael ei gwblhau yn 1310.
Newidiodd ddwylo yn gyson rhwng rhai o ddynion pwysicaf yr oes; fel arfer byddai'n cael ei roi iddyn nhw i gydnabod eu gwasanaeth ac yna ei gymryd oddi arnynt mewn cywilydd.
Yn 1595 prynodd Syr Thomas Myddelton I - anturiaethwr masnachol o Sir Ddinbych yn wreiddiol - y castell am £5,000 gyda'r bwriad o'i droi yn gartref teuluol.
Mewn gwirionedd fe dreuliodd fwy o'i amser yn ei gartref yn Essex, ond gwariodd symiau anferth o arian ar y castell, gan adeiladu Adain y Gogledd a'i Hystafelloedd Swyddogol.
Yn 1612, trosglwyddwyd y castell i'w fab Syr Thomas Myddelton II, cadfridog yn y Rhyfel Cartref. Ar ochr y Senedd oedd o'n wreiddiol, ond ar ôl cael ei ddadrithio gan unbennaeth filwrol Cromwell, bu ar ochr y Brenhinwyr gan cefnogi Siarl II.
Ym mis Ionawr 1643, cafodd y castell ei gipio gan y Brenhinwyr a ddaliodd eu gafael ynddo am dair blynedd.
Ar ôl ailorseddu Siarl II, roedd gwir angen atgyweirio'r castell ac o'r pwynt hwnnw ymlaen, cafodd gwaith adnewyddu cyson ei wneud wrth i genedlaethau newydd symud iddo a'i newid at eu dant eu hunain.
Yn 1671 aeth y castell i Syr Thomas Myddelton, yr 2il Farwnig, oedd wedi dychwelyd ar ôl y Daith Fawr yn Ewrop; ychwanegodd ystafell arlunio ac oriel hir i'r castell a oedd wedi eu hysbrydoli gan bensaernïaeth dinasoedd mawr Ewrop.
Yn yr 1770au cychwynnodd Richard Myddelton ar gynllun uchelgeisiol i greu ystafelloedd moethus ac urddasol. Y Salŵn yw'r unig ystafell neo-glasurol yn y gogledd lle mae'r dodrefn gwreiddiol yn dal yn eu lle gan gynnwys y drychau pier anferth gan Ince & Mayhew.
Yn yr 1840au, comisiynodd y Cyrnol Robert Myddelton Biddulph i osod addurniadau neo-gothig trwy'r Ystafelloedd Swyddogol i gyd; cynllun uchelgeisiol i greu awyrgylch 'canoloesol' ac i arwain y castell yn esthetaidd yn ôl at ei wreiddiau.
I raddau helaeth mae'r gwaith wedi ei ddileu gan genedlaethau diweddarach ac mae'n awr ar ei fwyaf amlwg yn y lleoedd tân a'r ffenestri lliw hardd.
Yn y paneli ar waliau Neuadd Cromwell, mae arwyddeiriau'r teulu Myddelton a Biddulph wedi eu cerfio:
In veritate triumpho (Gorchfygaf yn y gwir) a Sublimiora petamus (Gadewch i ni geisio pethau uwch).
Hefyd o ddiddordeb: