Ateb y Galw: Lois Pugh, swyddog cymunedau gwledig
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos yma, Lois Pugh o Geredigion sy'n Ateb y Galw wedi iddi gael ei henwebu gan Siwan Menez. Mae Lois bellach wedi ymgartrefu yng Nghiliau Aeron, Ceredigion ers 2010, ac yn byw gyda'i gŵr Martin, a'u plant Osian a Myfi.
Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, symudodd Lois i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol ac aros yno i weithio am gyfnod. Ar ôl gweithio yn y trydydd sector ac yn y sector breifat yn rhedeg ei busnes Digwyddiadau Daffodil, mae bellach yn gweithio i Gyngor Sir Ceredigion yn y maes economi ac adfywio.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Helpu Dad a Mam ar y fferm laeth teuluol ar gyrion Caerfyrddin.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Pentref glan môr Llangrannog yn y gaeaf (am resymau amlwg). Ar brynhawn dydd Sul gan amlaf mae'r teulu cyfan yn rhydd, does dim gwaith a dim gweithgareddau gyda'r plant, felly mae taith fer o hanner awr yn donig. Ychydig o awyr iach ar lan y môr, sŵn y tonnau, wâc i Ynys Lochtyn a phaned a chacen yng Nghaffi Patio cyn mynd adre.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Ein parti priodas yn Hydref 2011. Yn bennaf achos bod ein teulu a ffrindiau o dan yr un to. Y cyfle i chwerthin, dawnsio, yfed a bwyta gyda phawb. Fi'n cofio'r gŵr yn dweud nad oedd o ishe priodas fawr felly fe wnes i gyfaddawdu a chael priodas fach a pharti mawr! Does dim byd yn bwysicach i fi na theulu a ffrindiau.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cyfeillgar, trefnus a chydwybodol.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Teithiau dramor gyda fy ffrind Mererid i Awstralia, Hong Kong, Singapore, Croatia, Seland Newydd, a llawer mwy. Y teimlad o antur, rhyddid, annibyniaeth, darganfod, crwydro a haul gan amlaf.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Bod mewn siop llawn nwyddau gwydr ar fy ngwyliau tramor gyda'r teulu pan oeddwn yn blentyn, a chofio cyffwrdd mewn un eitem ac wedyn gweld y rhes o'r nwyddau yn mynd lawr fel dominos, cyn i'r un olaf gwympo ar y llawr! Cywilydd llwyr.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dwi'n berson eithaf emosiynol ac mae darllen llyfr neu edrych ar raglen deledu neu ffilm drist yn ddigon i fi golli deigryn. Rhowch Long Lost Family i fi a byddai'n llefen yn syth. Edrychais ar y ffilm 2 Hearts wythnos hyn a golles i ambell ddeigryn.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Mynd i'r gwely yn llawer rhy hwyr.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Nes i fwynhau'r llyfr Martha, Jac a Sianco ac wedi ei ddarllen sawl gwaith. O ran ffilmiau, mae cymaint ac mae'n anodd dewis ond dwi'n hoff iawn o ffilmiau trosedd a ditectif.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Does dim cwestiwn fan hyn, dim ond un person byddem yn dewis, sef fy mrawd Aled. Bu farw Aled yn 2013, yn 37 mlwydd oed ac ymhell cyn ei amser. Bydden ni'n dwli eistedd lawr a chael diod gyda fe a rhannu popeth sydd wedi digwydd dros y 10 mlynedd diwethaf.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fi'n berson eithaf agored, ond falle rhywbeth does dim llawer yn gwybod yw bod tipyn o ddiddordeb gen i mewn ffotograffiaeth. Fi ddim yn arbenigwr o bell ffordd ond fi'n joio dablo.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Treulio'r amser gyda'r bobl bwysig yn fy mywyd, teulu a ffrindiau agos dros wledd o fwyd a diod.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun o'r plant ar eu taith tramor cyntaf yn ddiweddar i Lapland. Mae'n bwysig cael atgofion, maen nhw'n tyfu mor gloi.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Adele. Am ei thalent a'i dawn gerddorol, a'r ffaith nad yw'n becso beth mae pobl yn feddwl ohoni.