Wyth injan dân ar y ffordd i Wcráin o dde Cymru
- Cyhoeddwyd
![Peiriannau](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15BA3/production/_129559988_f96af0a5-6f11-4902-be7f-370b5f040ddb.jpg)
Dyma fydd y pumed tro i fflyd o beiriannau tân gael eu cludo i Wcráin o'r DU
Ben bore Mawrth, bydd wyth o beiriannau tân, ynghyd ag offer arbenigol, yn dechrau'r daith o dde Cymru am y ffin rhwng Gwlad Pwyl a Wcráin.
Ers dechrau'r rhyfel yno, mae dros 80 injan dân wedi eu cyfrannu gan y Deyrnas Unedig er mwyn bod o gymorth i wasanaethau brys, sy'n gweithio dan amodau hynod anodd ar faes y gad.
Dyma fydd y pumed tro yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i fflyd o beiriannau tân gael eu cludo i Wcráin o'r DU.
Mae nifer sylweddol y tro hwn - wyth injan dân a nifer o offer - yn rhoddion gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
![Staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/13C6E/production/_129560018_572f1d5e-7e41-4b37-b6d0-96dfa4adcee3.jpg)
Bydd 24 o swyddogion yn gwneud y daith at y ffin rhwng Wcráin a Gwlad Pwyl
Mae'n daith o bum diwrnod a dros 1,300 o filltiroedd.
Bydd 24 o swyddogion yn gwneud y daith, a bydd seremoni i drosglwyddo'r offer ar y ffin rhwng Wcráin a Gwlad Pwyl.
![Rhydian Jones](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/EE4E/production/_129560016_dc15ca33-9fea-4883-8801-1e12f543ab27.jpg)
Dywedodd Rhydian Jones fod "rhaid i ni wneud rhywbeth i helpu"
"Mae wyth peiriant 'da ni sydd wedi dod at ddiwedd eu hamser yn ne Cymru, a bydd yr wyth yn mynd mas i Wcráin gyda nifer o offer sydd hefyd wedi dod at ddiwedd eu hoes yma," meddai Rhydian Jones o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wrth Newyddion S4C.
"Ni'n hala'r peiriannau yma, yr offer torri, offer anadlu, a'r wisg ni'n iwso bob diwrnod - beth ni'n galw'n fire kit.
"Os ni'n colli diffoddwr tân mewn unrhyw ddamwain, ni gyd yn teimlo fe.
"So i weld y diffoddwyr tân mas yn Wcrain, a gweld be' maen nhw'n mynd trwyddo, mae'n rhywbeth mae'n rhaid i ni wneud i helpu."
![Wcráin](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/C34B/production/_129559994_8b42c4f2-8a19-4635-87dd-7983bf5e4b0e.jpg)
Prin y mae gwaith y diffoddwyr yn cael ei gydnabod, meddai un o ASau Wcráin
Ers dechrau'r rhyfel mae degau o ddiffoddwyr wedi'u lladd yn Wcráin, a tua 100 o orsafoedd tân a 250 o beiriannau wedi'u dinistrio yn y brwydro.
Mae Newyddion S4C wedi siarad ag un Aelod Seneddol yn Wcráin sydd, ar ôl ymosodiadau diweddar yn dweud bod angen y cymorth nawr gymaint ag erioed.
Prin y mae gwaith y diffoddwyr yn cael ei gydnabod, meddai Kira Rudyk.
![Kira Rudyk](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/752B/production/_129559992_d61b7bac-4698-44d0-8a24-e07158ae2e44.jpg)
"Pan dy'n ni'n derbyn rhoddion caredig fel hyn, mae'n rhoi gobaith i ni," meddai Kira Rudyk
"Dydyn ni ddim yn gwybod ble bydd y taflegryn nesaf yn taro," meddai.
"Dyma pam dy'n ni angen nifer o beiriannau tân, ym mhob dinas yn Wcráin.
"Mae'r peiriannau hyn yn rhoi help i'n gwasanaethau brys, sy'n ceisio defnyddio pob eiliad posib er mwyn achub bywydau, a'u galluogi nhw i fod yno ar amser.
"Mae angen yr offer er mwyn mynd trwy'r rwbel a rhoi siawns i bobl oroesi, er gwaethaf ymdrechion Rwsia.
"Pan dy'n ni'n derbyn rhoddion caredig fel hyn, mae'n rhoi gobaith i ni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2023