Chris Gunter yn ymddeol ac yn troi at hyfforddi

  • Cyhoeddwyd
Mae Chris Gunter (dde) yn ymuno â Robert Page (chwith), Alan Knill ac Eric RamsayFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Chris Gunter (dde) yn ymuno â Robert Page (chwith), Alan Knill ac Eric Ramsay

Mae Chris Gunter wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o chwarae pêl-droed proffesiynol ddiwedd y tymor.

Wrth gadarnhau ei ymddeoliad ddydd Iau, daeth cyhoeddiad hefyd y byddai'n ymuno gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywedodd y gymdeithas y byddai Gunter, 33, yn ymuno gyda thîm hyfforddi Cymru fel Hyfforddwr Datblygu Tîm Cenedlaethol.

"Bydd y rôl rhan-amser yn darparu cefnogaeth i'n chwaraewyr ifanc wrth iddynt drosglwyddo i bêl-droed garfan uwch a bydd hefyd yn cefnogi gwaith CBDC i sicrhau talent ar lwybr y Tîm Cenedlaethol," meddai datganiad.

Cafodd Gunter flas ar hyfforddi gyda thîm pêl-droed Cymru ym mis Mawrth, yn dilyn ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol yn gynharach eleni.

Bu'n rhan allweddol o garfan Cymru am 15 mlynedd a mwy, gan ennill 109 o gapiau - y dyn cyntaf i gyrraedd y 100.

Chwaraeodd dros 700 o gemau proffesiynol i glybiau Caerdydd, Spurs, Nottingham Forest, Reading, Charlton - a bydd yn gorffen ei yrfa gyda Wimbledon.