Pêl-droed: Chris Gunter yn ymuno â staff hyfforddi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Robert Page, Alan Knill, Eric Ramsay a Chris GunterFfynhonnell y llun, FAW/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Gunter (dde) yn ymuno â Robert Page (chwith), Alan Knill ac Eric Ramsay

Mae cyn-amddiffynnwr Cymru, Chris Gunter, wedi ymuno â staff hyfforddi pêl-droed Cymru ar gyfer gemau rhyngwladol mis Mawrth.

Fe gyhoeddodd Gunter, sy'n 33 oed, ei ymddeoliad o'r gêm ryngwladol yn gynharach yn y mis.

Bu'n rhan allweddol o garfan Cymru ers dros 15 mlynedd, gan ennill 109 o gapiau - y dyn cyntaf i ennill 100 o gapiau.

Mae'n parhau i chwarae ar lefel clwb gyda AFC Wimbledon yn Adran Dau ond bydd yn colli'r ddwy gêm nesaf.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod rôl Gunter yr wythnos hon yn "cael ei ystyried fel rhan o symud tuag at waith hyfforddi yn y dyfodol".

Wrth gadarnhau y bydd yn colli eu dwy gêm nesaf, dywedodd Wimbledon ei fod wedi ei gytuno y bydd Gunter yn cael "gwireddu ei ddymuniad i gymryd cyfleoedd hyfforddi gyda Chymru".

Ffynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyhoeddodd Chris Gunter ei ymddeoliad o gemau rhyngwladol yn gynharach yn y mis

Mae Page wedi ychwanegu staff eraill i'w dîm yn ddiweddar hefyd gydag Eric Ramsay o Manchester United a Nick Davies o West Ham yn ymuno ar gytundebau rhan amser.

Fe adawodd Kit Symons ei rôl fel is-reolwr Cymru fis Ionawr yn dilyn canlyniad siomedig Cwpan y Byd Qatar 2022.

Cyhoeddodd Gunter ei ymddeoliad o gemau rhyngwladol tua'r un pryd â Gareth Bale a Joe Allen.

Bydd Cymru'n dechrau ar eu hymgyrch i ennill eu lle yn Euro 2024 ddydd Sadwrn 25 Mawrth yn erbyn Croatia, cyn croesawu Latfia i Gaerdydd ar 28 Mawrth.

Yn y cyfamser mae Liam Cullen a Mark Harris wedi ymuno â'r garfan gyda Wayne Hennessey yn tynnu allan.

Mae disgwyl i Brennan Johnson ymuno â'r chwaraewyr ddydd Iau i gael asesiad pellach gan y tîm meddygol.