Carcharu gyrrwr am lofruddio dynes ifanc o Bowys

  • Cyhoeddwyd
Rebecca SteerFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rebecca Steer yn astudio ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl

Mae gyrrwr meddw a laddodd ddynes ifanc o Bowys trwy yrru'n fwriadol tuag at griw o bobl wedi cael ei garcharu am oes am ei llofruddiaeth.

Bu farw Rebecca Steer, 22 oed o Lanymynech, ar ôl cael ei tharo gan Volvo Stephen McHugh yng Nghroesoswallt, Sir Amwythig, ar 9 Hydref.

Roedd McHugh, 28, yn feddw ac wedi cymryd cocên cyn y digwyddiad, ac nid oedd ganddo drwydded yrru chwaith.

Cafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Stafford ddydd Iau, a'i ddedfrydu i isafswm o 18 mlynedd dan glo ddydd Gwener.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gorllewin Mercia
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i Stephen McHugh dreulio 18 mlynedd dan glo cyn y bydd modd ystyried ei ryddhau

Clywodd y llys fod McHugh wedi gyrru ar y pafin tuag at grŵp o bobl oedd wedi casglu tu allan i fwyty tecawê ar noson allan.

Yn ogystal â Ms Steer fe darodd ddau ddyn, a chafwyd yn euog hefyd o geisio achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.

Wedi ei marwolaeth dywedodd teulu Ms Steer mai hi oedd "y person mwyaf cariadus, talentog a charedig".

"Mi fydd 'na golled fawr ar ei hôl," meddai'r teulu, gan ychwanegu fod "ganddi wên a chwerthiniad bob amser, oedd yn gwneud i bawb ei charu".

"Hi oedd y ferch, chwaer, wyres a ffrind gorau y gallai unrhyw un ei gael."

Pynciau cysylltiedig