Diwylliant Wrecsam i elwa o lwyddiant y pêl-droedwyr?

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr o amgylch bws y chwaraewyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna amcangyfrif bod 40,000 o bobl ar strydoedd Wrecsam nos Fawrth i ddathlu dyrchafiad CPD Wrecsam

Mae cyfle i Wrecsam hyrwyddo'i hun fel cyrchfan ddiwylliannol gyffrous yn sgil enwogrwydd newydd y ddinas, yn ôl rhai arweinwyr celfyddydol lleol.

Daeth 40,000 o gefnogwyr i weld chwaraewyr CPD Wrecsam - ochr yn ochr â'u perchnogion o Hollywood - yn dathlu eu llwyddiannau mewn gorymdaith nos Fawrth.

Y penwythnos yma, daeth miloedd yn rhagor i ŵyl gerddoriaeth flynyddol Focus Wales, sy'n rhoi llwyfan i dros 250 o artistiaid rhyngwladol.

Yn ôl Neal Thompson - un o sylfaenwyr y digwyddiad - mae o'n "teimlo'r uchelgais" yn y ddinas wrth iddi gael mwy o sylw nag erioed.

Y gobaith ydy bydd yr adnabyddiaeth yma o fudd wrth i'r ardal wneud cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029.

Mae disgwyl hefyd i'r Eisteddfod Genedlaethol ddod i'r ddinas ymhen dwy flynedd, sydd - yn ôl un o swyddogion y cyngor sir - yn gyfle i "ddangos sut 'dan ni'n medru cynnal digwyddiadau o safon uwch".

O fudd 'cant y cant'

Ym marn Neal Thompson, mae cyrhaeddiad eang y clwb pêl-droed - wedi i Rob McElhenney a Ryan Reynolds ddod yn berchnogion - o fudd i'r celfyddydau "gant y cant".

"Y ffwtbol - a bob dim arall sy'n digwydd yma - mae'n denu'r sylw mae'n haeddu ers talwm," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Wrecsam "ydy'r lle" ar hyn o bryd, medd Neal Thompson

"Mae Wrecsam yn lle rili cynhyrfus i fod ar y funud, ac yn lle ble 'dach chi'n teimlo'r uchelgais. 'Dach chi'n teimlo fel 'dach chi ddim cweit yn gwybod fydd yn digwydd nesaf."

Un arwydd o'r hyder yma ydy penderfyniad y ddinas i ymgeisio am statws Dinas Diwylliant eto - wedi methu o drwch blewyn â chipio'r dynodiad ar gyfer 2025.

"Mae Wrecsam wedi mynd yn syth bin yn ôl i wneud bid arall ar gyfer 2029," meddai.

"Hon ydy'r ddinas ifanc newydd efo'r holl stwff 'ma'n digwydd rŵan - digwyddiadau rhyngwladol, sylw rhyngwladol, [dinas ble mae] pob dim ar y bwrdd."

Disgrifiad o’r llun,

Y grŵp o Gatalwnia, Guineu ar un o lwyfannau gŵyl Focus Wales yn Wrecsam

Ymhlith y bandiau sy'n dangos eu doniau yn Focus Wales eleni mae Guineu, grŵp o Gatalonia sy'n canu yn yr iaith frodorol.

Mae eu prif leisydd a gitarydd, Aida Giménez, yn dweud bod yr ŵyl yn "esiampl i weddill y byd" fel digwyddiad sy'n cael ei gynnal mewn dinas fechan.

Ond nid y bêl gron sydd wedi ei denu yma.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gŵyl Focus Wales yn "esiampl i weddill y byd", medd Aida Giménez

"Dwi ddim yn dilyn pêl-droed felly adnabod Wrecsam am Focus Wales ydw i, ac nid pêl-droed!" chwarddai.

"Ond mae cymaint o bobl yn dilyn y gêm felly mae hynny'n helpu i dynnu sylw at bethau eraill sy'n digwydd."

'Agor drysau'

Mae Mar Perez Unanue, sy'n rhedeg sefydliad diwylliannol Catalonia yn y DU, yn cytuno bod y celfyddydau a chwaraeon yn ffordd o "agor drysau" i ddiwylliannau a gwledydd llai adnabyddus.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mar Perez Unanue bod pêl-droed yn "iaith ryngwladol sy'n helpu pobl i ddod i 'nabod lleoliadau"

"Mae Focus Wales yn gwneud gwaith gwych - nid yn unig ar lefel Ewropeaidd ond ar draws y byd - i godi ymwybyddiaeth am be' sy'n digwydd yng Nghymru ac yn Wrecsam, yn enwedig," meddai.

Grym y bêl gron ydy ei bod yn "iaith ryngwladol sy'n helpu pobl i ddod i 'nabod lleoliadau", meddai.

"Pan ti'n dweud 'Wrecsam' mae pobl yn meddwl am y pêl-droed, ac mae'n haws lleoli'r ddinas… a 'dan ni'n gweld yr un peth gyda Barcelona."

'Rhaid symud efo nhw'

Mae hi bron yn flwyddyn ers i Bradford gael ei henwi'n Ddinas Diwylliant 2025 ar draul Wrecsam, ond mae arweinydd y cyngor sir yn hyderus eu bod nhw wedi dysgu o'r profiad wrth iddyn nhw geisio cipio'r dynodiad ar gyfer 2029.

Eu nod, yn ôl y Cynghorydd Mark Pritchard, ydy rhoi llwyfan i gyfoeth diwylliannol yr ardal drwy fanteisio ar broffil uchel y clwb pêl-droed.

"Mae'n rhaid i ni symud efo nhw, cymryd y cyfleoedd sy'n codi, ac adeiladu ein brand," meddai.

"Y pêl-droed, tenis, rygbi - yr ochr chwaraeon, a'r beirdd a'r canu - mae'n rhaid i ni ddod â fo i gyd at ei gilydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwersi wedi eu dysgu o'r cais Dinas Diwylliant diwethaf, medd arweinydd y cyngor sir, Mark Pritchard

I Stephen Jones - swyddog y Gymraeg gyda'r cyngor - mae lle pwysig i'r Eisteddfod Genedlaethol yn y darlun diwylliannol ehangach dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae'r ardal wedi gwahodd y brifwyl yno yn 2025, ac mae Stephen yn credu ei fod o'n "gyfle anhygoel i ni rili godi statws a gweledigaeth y Gymraeg" yn lleol.

"Dwi'n meddwl bod y dre' yn mynd o nerth i nerth a gyda chynnal yr Eisteddfod yn 2025 hefyd, mae hwn yn gyfle i'r ddinas rŵan ddangos sut 'dan ni'n medru cynnal digwyddiadau o safon uwch nag ydan ni erioed 'di gwneud o'r blaen - a phrofi'r isadeiledd sydd ganddon ni yma," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn hwb arall i'r ardal, medd Stephen Jones

Gydag ymwelwyr o dramor yn dod i'r ddinas yn sgil y pêl-droed a'r rhaglen ddogfen Welcome to Wrexham, mae angen rhoi cyfle i bobl ymwneud â hanes a diwylliant lleol hefyd, yn ôl Stephen.

"Mae 'na syniadau i ni gael QR codes ar yr adeiladau dros y dre'… fel bod pobl sy'n dod yma o Ganada, America neu ble bynnag arall yn cael bach o flas o'r dre'.

"Mae 'na lot o ddiddordeb yn Wrecsam rŵan - os bysan ni'n edrych ar y Google analytics dwi'n siŵr bysa fo off the charts o ran hits - so mae cyfle i ni, rili, achos 'dan ni yn y spotlight."

'Hwn ydy'r lle'

Rhan allweddol o'r cais Dinas Diwylliant newydd - fel yr un blaenorol - ydy arddangos amrywiaeth cymunedau'r ardal.

Mae Iolanda Banu Viegas, sy'n rhedeg prosiect hwb amlddiwylliannol gyda 19 grŵp ethnig gwahanol yng nghanolfan Tŷ Pawb, yn rhan o'r tîm tu ôl i'r cais.

Disgrifiad o’r llun,

Mae creu cysylltiadau amlddiwylliannol yn allweddol, medd Iolanda Banu Viegas

"Po fwya' 'dan ni'n siarad am Wrecsam ar draws y byd, po fwya' mae diwylliannau eraill yn ymddiddori ac yn ymwneud â ni," meddai.

"Rŵan 'dan ni eisiau dangos ein diwylliannau gwahanol i'r byd. Mae pobl wir yn credu ei bod hi'n bwysig i ni gydweithio wrth symud ymlaen."

Eleni mae Focus Wales yn dathlu'i ben-blwydd yn 12 oed, ond gyda Wrecsam bellach yn denu sylw'r byd, mae'r cyd-destun yn go wahanol i 2011, pan gynhaliwyd y digwyddiad gyntaf.

"Hwn ydy'r lle," meddai Neal Thompson tu allan i gig agoriadol yr ŵyl.

"Mae'r dyfodol i ddiwylliant yn Wrecsam… mae o'n sgleinio, dydy?"