Wrecsam: 'Cam arall ymlaen yn atgyfodiad y ddinas'

  • Cyhoeddwyd
Paul MullinFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr yn dathlu gydag ymosodwr Wrecham, Paul Mullin

Mae'r sylw anhygoel mae'r clwb pêl-droed wedi ei ddenu i ardal Wrecsam wedi cael effaith bositif ar economi a Chymreictod y ddinas, yn ôl rhai o'r trigolion.

Roedd buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Boreham Wood nos Sadwrn yn ddigon i sicrhau dyrchafiad Wrecsam yn ôl i Gynghrair Bêl-droed Lloegr, ar ôl 15 mlynedd yn y bumed haen.

Daeth y clwb dan berchnogaeth y sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn 2020, sydd wedi denu sylw'r byd i'r gornel hon o ogledd ddwyrain Cymru.

Ond tra fydd y garfan nawr yn paratoi i chwarae ar lefel uwch y tymor nesaf, mae gwaddol y llwyddiant yn cael ei deimlo ymhell y tu hwnt i'r Cae Ras ar ddiwrnod gêm.

'Plant yn ymfalchïo yn eu Cymreictod'

Dywedodd Chris Evans, sy'n gadeirydd canolfan Saith Seren y dref ac yn athro yn Ysgol Morgan Llwyd, fod yr effaith yn amlwg ymysg rhai o ieuenctid yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Chris Evans: "Mae'r sylw mae Ryan a Rob wedi ei roi at yr iaith a diwylliant yn cael effaith ar y plant"

"Mae'n gam ymlaen arall yn atgyfodiad Wrecsam fel dinas, erbyn hyn," meddai.

"'Dan ni'n barod yn gweld mwy o dwristiaid... oeddwn i'n siarad yma wythnos diwetha' hefo cwpl o Ganada oedd wedi dod draw oherwydd effaith y clwb.

"Dwi'n athro yn ystod y dydd yn Ysgol Morgan Llwyd, ac mae'r sylw mae Ryan a Rob wedi ei roi at yr iaith a diwylliant yn cael effaith ar y plant hefyd, ac yn gwneud iddyn nhw ymfalchïo yn eu Cymreictod dipyn mwy nag oeddan nhw."

Yn ôl y cynghorydd sir Gwenfair Jones, sy'n cynrychioli ardal Gwersyllt: "Mae 'na fwy o bobl yn dod i'r ardal, dwi'n meddwl fod y gwestai i gyd yn gweld gwahaniaeth.

"Bydd y £25m ar gyfer y Kop yn sbesial iawn a fydd na fwy o le i bobl fel gael tocyn i ambell i gêm, mae o am wneud gwahaniaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Siwan Jones: "Mae pobl yn gweld y positives rŵan"

Yn siarad ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru ychwanegodd Siwan Jones, perchenwraig busnes yn y dref: "Dros y misoedd diwethaf 'dan ni 'di gweld ymwelwyr yn dod i'r siop.

"Hyd yn oed bore 'ma gafon ni gwpl o Colorado oedd yn y gêm nos Sadwrn, a phrynu rhywbeth i fynd adref gyda nhw.

"Yn amlwg mae o'n newid delwedd. Dyma'n tref ni a 'dan ni'n gwybod fod o'n le sbesial iawn, ond ella heb gael good press yn y gorffennol, ond mae pobl yn gweld y positives rŵan."

Gwerthu allan o grysau

Dywedodd Tina Farnworth, rheolwraig siop Clwb Pêl-droed Wrecsam, eu bod wedi bod cael wythnosau prysur iawn, gyda disgwyl i bethau barhau felly yn sgil yr holl lwyddiant.

"Ers nos Sadwrn rydyn ni wedi gwerthu tua 1,800 o grysau-t," meddai, gan ychwanegu eu bod wedi gwerthu tua 1,000 o keyrings a darnau arian coffaol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Disgrifiad o’r llun,

Tina Farnworth, rheolwraig siop clwb pêl-droed Wrecsam

"Dylai cwpl o'r staff fod wedi bod ar wyliau yr wythnos hon, ond maen nhw wedi dod i mewn, roedden nhw'n gwybod ein bod ni'n mynd i fod yn brysur... doedd dim ots ganddyn nhw," meddai.

"Fe wnaethon ni werthu allan o'r crysau cartref ychydig cyn y Nadolig, a nhw sydd wedi bod yn fwyaf poblogaidd.

"Fe wnaethon ni werthu 24,000, sy'n anhygoel i glwb yn y Gynghrair Genedlaethol, ond mae'n debyg bod hynny'n mynd i ddyblu wrth fynd ymlaen.

"Dim ond llwyddo i gadw i fyny â'r galw ydan ni, mae wedi bod yn hollol anhygoel."

Dywedodd Ms Farnworth fod y galw wedi "cynyddu" ers i'r rhaglen ddogfen ddod allan, ac o'r gwerthiant ar-lein, roedd 80% yn cael eu cludo i'r Unol Daleithiau.

"Rydyn ni'n cael llawer o gwsmeriaid rhyngwladol yn dod i'r siop," ychwanegodd, gan ddweud fod yr awyrgylch yn y siop ddydd Llun yn "syfrdanol".

"Ers i'r rhaglen ddogfen ddod allan mae wedi codi'n aruthrol... yn ystod y misoedd diwethaf, wrth i ni fynd ymhellach ac ymhellach i fyny'r tabl."

'Pobl o bob rhan o'r byd'

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Wrexham Lager, sy'n noddi Clwb Pêl-droed Wrecsam, eu bod wedi bod yn gwerthu nwyddau ar draws y byd ac yn gobeithio parhau i noddi'r clwb "os allan nhw fforddio" i wneud hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Roberts yn gobeithio y gall Wrecsam Lager barhau i noddi'r clwb, hyd yn oed os ydyn nhw'n mynd i fyny eto

Mae Mark Roberts, oedd yn y gêm ddydd Sadwrn, yn dweud bod y cwmni wedi bod yn "hynod o brysur" gydag archebion y cwrw, ac mae'n credu bod mwyafrif y tafarndai "wedi rhedeg allan" rywbryd yn ystod y nos.

"Ddydd Gwener roedd gennym ni rai o Guatemala yma, doedd ganddyn nhw ddim tocynnau," meddai.

"Mae'n anhygoel, mae pobl yn dod o bob rhan o'r byd a does ganddyn nhw ddim tocynnau... mae'n anhygoel."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn ymwelwyr cyson â'r dref

Dywedodd Mr Roberts fod y cwmni wedi bod yn anfon Wrexham Lager ar draws y byd, hyd yn oed cyn i hyn ddigwydd, ond roedd yn rhagweld y byddai llwyddiant yn arwain at hyd yn oed mwy o ddiddordeb ar "lefel barhaus".

Dywedodd ei fod yn gobeithio y gall Wrecsam Lager barhau i noddi'r clwb, hyd yn oed os ydyn nhw'n mynd i fyny eto.

"Dim ond cwmni bach ydyn ni," meddai.

"Os allwn ni fforddio gwneud hynny byddwn ni'n parhau i fod yn rhan o'r bwrdd ac yn eu cefnogi cymaint ag y gallwn fel yr ydyn ni wedi'i wneud am y 12-14 mlynedd diwethaf.

"Roedden ni gyda nhw yn ystod y cyfnod tywyll, pan oedd hi'n anodd arnyn nhw. Yn amlwg maen nhw wedi cael bywyd newydd gydag arian yn cael ei fuddsoddi yn y clwb.

Ychwanegodd: "Mae'n dda i'r dref, yn dda i ogledd Cymru, ac i Gymru gyfan a'r DU.

"Dim ond cymaint o bethau sydd gyda ni sy'n arbennig i'r wlad, mae'n rhaid i ni geisio ei wthio a gwneud rhywbeth ohono."

'Wedi'n yfed yn sych!'

Ers darlledu'r gyfres Welcome to Wrexham, mae proffil tafarn The Turf yn uwch nag erioed, gan groesawu rhai o sêr Hollywood fel Will Ferrell a Paul Rudd.

Dywedodd Wayne Jones, sy'n rhedeg y dafarn: "Dwi wedi blino, wedi blino'n lân i ddweud y gwir. Mae wedi bod yn naw mis hir, ond yn werth pob eiliad.

Disgrifiad o’r llun,

Wayne Jones: "Roedd hi'n boncyrs dydd Sadwrn"

"Does gennym ni ddim byd ar ôl, maen nhw wedi ein hyfed ni'n sych. Mae gennym ni ddanfoniad brys yn dod, felly rydyn ni wedi gorfod cau.

"Roedd hi'n boncyrs dydd Sadwrn, mae'n debyg bod gennym ni 450 o bobl y tu allan, a duw a ŵyr faint o gannoedd y tu mewn.

"Fe wnaethon ni agor am 12:00, ac roedd tua 150 yn y ciw o 09:30.

"Diwrnod hir, hir, roedd y staff yn aruthrol fel arfer. Diolch byth fod y cyfan drosodd!"

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Paul Rudd yn mwynhau peint yn y Turf brynhawn Sadwrn

Wrth gyfeirio at ymweliad yr actor Paul Rudd brynhawn Sadwrn, ychwanegodd: "Fe gysylltodd rhywun yn ystod yr wythnos a gofyn a allwn ni ofalu amdano.

"Ond ie, dydych chi byth yn gwybod pwy sy'n mynd i ddod yma nesaf i dweud y gwir.

"Bois neis iawn, roedden nhw eisiau bod yn rhan ohono a mwynhau'r awyrgylch."