Enwi dyn, 43, fu farw mewn gwrthdrawiad ger Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Llyr Evans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sion Jones wedi gwasanaethu yng Nghatrawd 22 y Magnelwyr Brenhinol

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw cerddwr 43 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Wrecsam.

Yn ôl swyddogion bu farw Sion Jones, o ardal Coedpoeth, yn y fan a'r lle wedi'r gwrthdrawiad gyda Ford Focus ar yr A525 nos Fawrth am tua 21:50.

"Gwasanaethodd Sion yng Nghatrawd 22 y Magnelwyr Brenhinol, The Welsh Gunners am bedair blynedd ac roedd yn gymeriad adnabyddus yng Nghoedpoeth," meddai ei deulu mewn datganiad.

"Roedd Sion yn dad, yn fab, ac yn frawd cariadus. Roedd ganddo natur garedig ac roedd yn adnabyddus i bawb wrth ei wên a fyddai'n goleuo ystafell.

"Rydym i gyd wedi ein syfrdanu gan ei farwolaeth. Roedd yn cael ei garu gan bob un ohonom a bydd colled fawr ar ei ôl."

Mae'r ymchwiliad i'r gwrthdrawiad yn parhau gyda swyddogion yn apelio am unrhyw dystion i ddod ymlaen, yn enwedig y rheiny oedd yn teithio trwy Goedpoeth tuag adeg y gwrthdrawiad all fod â lluniau camera cerbyd.

Pynciau cysylltiedig