Y Bencampwriaeth: Burnley 3-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Prin fod disgwyl i Gaerdydd lwyddo yn eu gêm olaf o'r tymor gan eu bod yn chwarae y pencampwyr, Burnley.

Ddydd Llun roedd y tîm sydd ar y brig yn llawer yn rhy gryf i'r Adar Gleision.

Daeth y gôl gyntaf ar ôl saith munud ar hugain - Josh Brownhill gydag ergyd droed chwith.

Yna ymhen pedair munud - Ashley Barnes gydag ergyd droed dde yn dyblu mantais yr ymwelwyr.

Yn yr ail hanner daeth trydedd gôl y pencampwyr - y tro hwn o gic gosb gan Scott Twine ar ôl 57 munud.

Prin iawn oedd cyfleoedd Caerdydd ond mae tîm y brifddinas wedi gorffen yn safle 21 yn y Bencampwriaeth - bum pwynt yn uwch na'r timau sydd yn syrthio.