Be' sy'n gwneud peint o gwrw da?

  • Cyhoeddwyd
rhodri

Mae miloedd o wahanol fathau o gwrw yn y byd, i gyd efo'u rysáit ei hunain a'u blas unigryw. Mae'r sector wedi tyfu dros y ddegawd ddiwethaf gyda chwrw crefft yn amlygu ei hun fwyfwy gyda'r rhai sy'n hoffi trio blasau gwahanol.

Mae Rhodri Lewis o Geredigion, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn mwynhau profi a dadansoddi gwahanol gwrw, ac mae wedi yfed bron i 2,000 o wahanol fathau. Mae hefyd yn cadw cofnod o'r cwrw mae'n ei flasu ac yn trafod gydag eraill sy'n ymddiddori yn y maes.

Mae Cymru Fyw wedi bod yn holi Rhodri am ei hobi.

Pryd wnest di ddechrau gwerthfawrogi cwrw?

Dwi'n meddwl taw'r lightbulb moment i fi oedd cael fy argymell i dreial craftlager gan Wil, a oedd yn gweithio tu ôl i'r bar yn Y Llew Du yn Aberystwyth. Cwrw gan y bragdy Albanaidd Innis & Gunn oedd hwnnw. Doedd lager macro cyffredin ddim yn 'neud y job ar ôl hynny!

Disgrifiad o’r llun,

Daw Rhodri o Geredigion yn wreiddiol ond mae'n byw yng Nghaerdydd ers sawl blwyddyn bellach

Beth oedd y math o gwrw oeddet ti'n yfed yn y gorffennol, ac wyt ti dal i yfed rheiny?

Yn ifanc (dros 18 oed, wrth gwrs!) seidr cyffredin a black o'n i'n yfed, cyn symud i Guinness tra yn y Brifysgol. Ond dwi wastad wedi bod yn barod i rhoi go i unrhyw beth felly mae'n amhosib dweud taw un steil o'n i'n ei yfed.

Erbyn hyn, na'i osgoi seidr cyffredin (ond yn ffan o rhai cryf, naturiol) ac ma' Gwin y Gwan dal i fod yn ffefryn hyd heddi'!

Sawl cwrw gwahanol ti'n meddwl wyt ti wedi trio? Ydy hi'n mynd yn her ffeindio rhai newydd?

Dwi'n cofnodi'r hyn dwi'n yfed ar ap o'r enw Untappd - a dwi ddim yn bell o gyrraedd 2,000 math o gwrw gwahanol erbyn hyn!

Mae bragdai modern yn dueddol o ryddhau pethau newydd bron yn fisol felly mae'n anodd dala lan mewn gwirionedd!

Oes cymuned o adolygwyr cwrw? Wyt ti'n trafod gydag eraill sydd efo'r un hobi ac wedi gwneud ffrindiau o hyn?

Mae 'na yn bendant gymuned o bobl sy'n yfed cwrw crefft. Eto, ar yr ap dwi'n trafod fwyaf. Chi'n medru rhoi llun lan o'r hyn chi'n yfed gyda disgrifiad bach a sgôr mas o bump. Mae 'ffrindiau' ar-lein wedyn yn gallu 'hoffi' a gwneud sylw ar y cwrw. Mae'n lle da i ddod o hyd i gwrw a bragdai newydd a gwahanol. Mae'r bragdai hefyd yn dweud eu bod nhw ddim yn poeni am y sgôr allan o bump maent yn ei gael, ond dwi'n gwybod am ffaith eu bod nhw!!

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 3,000 o fragdai cwrw crefft yn y Deyrnas Unedig bellach

Pa steil o gwrw sy'n boblogaidd o fewn y gymuned yn ddiweddar?

Y steil sy'n bennaf i weld yn y byd crefft ar hyn o bryd yw'r New England IPA. Cwrw gwelw iawn yw hwn, melyn ei liw sydd (yn ddibynnol ar yr hopys) yn llawn blasau trofannol, gyda mouthfeel da (ysgafn iawn) ac sy'n gorffen yn chwerw. Y bragdai gorau sy'n cynhyrchu rhain ym Mhrydain ar hyn o bryd (yn fy marn i) yw Verdant (o Penryn yng Nghernyw), DEYA (o Cheltenham) a Beak (sydd yn Lewes, de ddwyrain Lloegr).

Y steil poblogaidd arall yw'r West Coast IPA. Hwn wnaeth ddechrau'r scene crefft yng ngorllewin America gyda chwmnïau fel Sierra Nevada yn cynhyrchu cwrw carbonated iawn ond dal i fod yn chwerw, gyda blasau cryf o bîn a citrus.

Beth wyt ti'n meddwl o'r cwrw mwya' arbrofol modern gyda blas anarferol?

Erbyn hyn mae rhai bragdai wedi mynd gam ymhellach ac yn arbrofi gyda blasau gwyllt! Un o'r rheiny yw Tiny Rebel yng Nghasnewydd. Ma' nhw'n hoff iawn o gynhyrchu gimmick beers - rhai efallai na fydd pawb yn ffansïo treial, ond bydd yn cael dipyn bach o sylw ar y gwefannau cymdeithasol.

Er mwyn dathlu eu penblwydd yn 11 yn ddiweddar fe ryddhaodd Tiny Rebel focs oedd yn cynnwys cwrw fel Cookie Dough Biscuit Mix, Millionaire Shortbread, Blue Raspberry, Hard Candy, Ice Sour a Caramelised Pineapple Spiced IPA. Dim diolch!

Beth yw rhai o dy hoff gwrw rhyngwladol?

O ran cwrw rhyngwladol mae'n anodd dweud ar hyn o bryd gan 'mod i dal heb dreial lot o'r hype beers o America. Cwrw 'chwedlonol' yw rhain sydd yn cael eu gweld fel y cyntaf o'u math, neu'r gorau o'u math e.e Heady Topper gan The Alchemist a Julius gan Tree House Brewing (y ddau yn New England IPA), neu Pliny The Elder gan Russian River sy'n cael ei alw yn gwrw West Coast gorau yn y byd.

Rhaid cofio hefyd bod cwrw ddim yn teithio'n wych felly falle na fyddai'r fersiwn bysen ni'n cael fan hyn mor dda ac mae i fod! Er hyn, bragdy sydd yn sefyll allan yw Omnipollo o Sweden - falle bod rhai o'u diodydd yn disgyn mewn i'r un math o gategorïau dwl â Tiny Rebel, ond ma' nhw hefyd yn cynhyrchu lager, IPA a stowt anhygoel o dda.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â bod yn ffan o gwrw, mae Rhodri'n gefnogwr brwd o Glwb Pêl-droed Aberystwyth

Enwa rhai o dy hoff gwrw o Gymru

Fel rhywun sydd yn yfed lot o gwrw crefft dwi'n lwcus iawn i gael rhai gwych ar stepen y drws! Un sydd rownd y gornel i fi fan hyn yng Nghaerdydd; Crafty Devil. Mae eu IPA 4% Mikey Rayer yn gwrw gwych pan chi moyn iste' lawr mewn bar trwy'r prynhawn yn siarad wast tra bod chwaraeon ar y teledu!

Mae Polly's yn Yr Wyddgrug hefyd yn cynhyrchu cwrw o safon uchel iawn. Ni hefyd yn lwcus yng Nghymru o gael bragdai sy'n cynhyrchu cwrw traddodiadol gwych fel Cwrw Llŷn, Bluestone a Mantle, ond fy hoff gwrw i ar gasgen heb os yw Glaslyn gan Mŵs Piws!

Wyt ti'n meddwl bod marchnad newydd o yfed cwrw sydd ddim i'w wneud gydag goryfed a meddwi?

Dw'i yn bendant yn gweld trends yfed yn newid - mae prynu cwrw crefft yn ddrytach ac yn aml mae'r lefel o alcohol mewn can/peint yn uwch, felly yfed un neu ddau yw'r norm newydd. Pan mae pobl yn synnu 'mod i wedi cael can oedd yn 10% alcohol y noson cynt, fy nadl i yw bod gwin rhwng 12-15% ac mae'n iawn i gael gwydraid bach tra'n gwylio teledu, felly pam ddim cwrw cryf?

Fyddet ti'n agor bragdy dy hun rhyw ddydd? Beth fyddai'r enw a beth fyddai'r blasau gwahanol fyddet ti'n mynd ar eu hôl?

Mi fysen i wrth fy modd yn agor bragdy fy hunan, ond yn anffodus does dim ymennydd gwyddonol iawn 'da fi - doedd cemeg ddim yn un o 'nghryfderau yn yr ysgol! Bysen i'n gallu bod yng ngofal yr ochr machnata, neu'n rep gwerthu falle. A quality control, wrth gwrs!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig