Dim persawr, dim coffi: Beirniadu cwrw cartref
- Cyhoeddwyd
Peint o lager, chwerw, cwrw crefft neu stout... mae 'na gwrw at ddant pawb y dyddiau yma.
Ond beth os nad ydych chi eisiau mynd i'r dafarn? Wel, bragu cwrw cartref amdani!
Mae Bethan Millett o Gaerdydd wrth ei bodd â chwrw, ac nid yn unig wedi sefydlu bragdy meicro yn ei thŷ, ond hefyd bellach yn beirniadu cwrw cartref yn genedlaethol.
Mae Bethan, a'i gwraig Kristy, wedi eu cymhwyso fel beirniaid cwrw cartref gyda BJCP (Beer Judge Certification Program) ers 2017.
Eglura Bethan: "'Naethon ni'r cymhwyster, dim oherwydd ein bod ni o reidrwydd eisiau bod yn feirniaid, ond oherwydd ein bod ni eisiau dysgu mwy am gwrw a sut i'w ddadansoddi; roedden ni'n meddwl fyddai hynny'n helpu i wella ein bragu ein hunain."
Symud o Lundain i Gaerdydd yn 2013 oedd yr ysgogiad i'r pâr ddechrau bragu cwrw yn eu cartref newydd yn Sblot, meddai.
"Roedd gen i ddiddordeb mewn cwrw cyn hynny, ond roedd gennyn ni nawr yr arian a'r lle i wneud a chael y cit, ac ymuno â chlwb bragu er mwyn dod i 'nabod pobl."
Felly o fewn dim, roedd gan Bethan hobi newydd, a chymuned o bobl oedd yn rhannu'r un diddordeb.
Fel yr eglura, mae bragu cwrw yn rhywbeth gymharol hawdd i'w wneud, yn sylfaenol - "Mae pobl yn dweud, os allwch chi goginio uwd, gallwch chi fragu!" - ond gallwch chi fynd â'r peth mor bell ag yr hoffech, meddai.
"Mae bragu mor hawdd neu gymhleth â ti eisiau. Mae rhai pobl yn prynu cit o gynhwysion, a rhai yn defnyddio grawn cyflawn. Mae rhai pobl yn mynd ati i greu eu ryseitiau eu hunain, gweld sut mae e'n troi mas, a gweithio mas beth i'w wneud yn wahanol y tro nesa'.
"A gallech chi wario llawer o arian ar cit drud, neu gallwch ei wneud yn gymharol rhad. Mae fy ffrind, sy'n aelod o'r un clwb bragu cartref, yn gallu rhoi ei ddŵr ymlaen i gynhesu drwy app ar ei ffôn cyn iddo godi yn y bore!"
Sefydlu bragdy meicro
Felly ar ôl dipyn o arbrofi, a buddsoddi mewn offer newydd, aeth Bethan a Kristy gam ymhellach na dim ond rhannu eu cwrw â theulu a ffrindiau.
"Dechreuon ni fragdy meicro yn 2017, ond caeodd COVID e i lawr, yn anffodus. Mae'n reit drist rili.
"Cyn i ni gau, roedden ni'n gwerthu mewn marchnadoedd ffermwyr, siopau poteli a chydig o fariau a bwytai o gwmpas Caerdydd.
"Roedden ni'n hoffi arbrofi gyda steiliau gwahanol, a hefyd er mwyn gwerthu llawer o gwrw, mae'n dda i gael amrywiaeth i blesio gwahanol bobl; roedd wastad rhyw fath o gwrw golau, rhyw fath o stout, neu gwrw tymhorol.
"Roedd gennym ni hefyd arbrawf gyda phobydd lleol; roedd e'n defnyddio peth o weddillion y grawn oedd gennym ni ar ôl bragu, i wneud bara, ac roedden ni'n creu cwrw o fara dros ben ganddyn nhw. Roedd yn syniad gwych i geisio gwneud rhywbeth am y broblem gwastraff bwyd.
"Ond roedd e'n anodd cynnal y bragdy ochr-yn-ochr â swydd lawn amser, roedd e'n lot o waith. Dwi ddim yn siŵr os wnawn ni e eto, ond never say never!"
Beirniadu cwrw cartref
Cafodd COVID effaith ar y cystadlaethau a gwyliau cwrw hefyd, wrth gwrs, ond mae Bethan a Kristy'n ôl nawr yn beirniadu, ac yn mwynhau'r profiad:
"Mae'n llawer o hwyl, ti'n cwrdd â phobl hyfryd, a'u gweld eto y flwyddyn wedyn."
Mae'r beirniaid yn gweithio mewn parau, er mwyn medru cymedroli'r sgorau yn erbyn ei gilydd, ac yn beirniadu un math o gwrw ar y tro. Yn dibynnu ar pa mor boblogaidd yw categori, a faint o gwrw sydd wedi cael ei gyflwyno, gall feirniaid drio hyd at 15 cwrw mewn diwrnod.
Felly am beth mae beirniad yn edrych pan yn samplo cwrw mewn cystadleuaeth?
"Beth chi'n edrych amdano yw pa mor dda mae'n cwrdd â'r nodweddion y dylai'r cwrw yma eu harddangos, yn ôl y steil," eglura Bethan.
"Oes yna unrhyw wendidau? Ydi e'n edrych yn iawn? Ydi e'n gwynto'n iawn? Sut mae'n teimlo yn dy geg? Ydi e'n rhy chwerw? Ydi lefel y carbonadu yn iawn? Ac mae gennyn ni gategori ar y diwedd i roi argraffiadau cyffredinol; wyt ti'n ei hoffi? Faset ti'n talu amdano? Faset ti'n yfed peint cyfan ohono?
"Sgôr o 45-50 marc yw rhagorol, world class. 0-13 yw gwael; fel arfer mae rhywbeth yn bod neu mae infection ar y cwrw, sydd yn digwydd os oes problem gyda'r burum, neu dydi pobl ddim wedi golchi'r offer neu'r poteli ddigon da."
Wrth gwrs, mae gan pobl dâst gwahanol mewn cwrw, felly pa mor hawdd yw hi i feirniadu cwrw sydd ddim at dy ddant?
"Pan ti'n gwybod am beth ti'n edrych, mae'n dod yn haws bod yn wrthrychol, a dim jest os ti'n ei hoffi neu ddim. Dydi e ddim am pa mor flasus yw'r cwrw, mae e am y math o gwrw yw e.
"Er enghraifft, os fysen i'n beirniadu Imperial Stout, ac mae rhywun wedi rhoi IPA yn y categori mewn camgymeriad, gallai fod yr IPA mwyaf perffaith erioed, ond byddai dal yn cael sgôr isel gan fod e ddim byd fel stout."
Dim persawr, dim coffi
Mae beirniadu ceisiadau pobl yn deg yn rhywbeth mae Bethan yn angerddol amdano. Cystadlu er mwyn cael adborth fel fod y cwrw yn gallu gwella mae pobl, meddai, felly mae hi'n teimlo ei bod hi'n ddyletswydd arni i wneud job dda ohoni, er parch i'r bragwr.
"Dwi'n ei gymryd wir o ddifri, oherwydd dwi'n teimlo fod person wedi treulio amser a gwario arian yn cystadlu, ac maen nhw'n haeddu dy adborth gonest, gwrthrychol.
"Felly dydw i ddim yn gwisgo persawr, neu yfed coffi yn y bore, neu'n cael cyri i ginio rhag ofn iddo amharu ar samplau'r p'nawn. A dwi'n defnyddio pensiliau gyda châs plastig, dim pensiliau pren, oherwydd gall pren y pensil amharu ar dy perception o'r cwrw.
"Mae rhai beirniaid yn llai 'gofalus'. Ond mae'r cystadleuwyr yn haeddu mod i'n ei gymryd ddigon o ddifri; dyna beth fydden i'n ei ddisgwyl. Dwi wedi cystadlu o'r blaen, ac fe allwch chi weld y gwahaniaeth rhwng beirniad sydd wedi boddran, ac un sydd ddim, ac mae bob amser yn siomedig.
"Mae clybiau bragu yn grêt i drio cwrw eich gilydd a rhoi barn, ond dwi'n meddwl tybed pa mor onest gall yr adborth fod, os wyt ti'n eistedd wrth ymyl rhywun; mae'n anodd bod yn brutal gyda ffrindiau!"
Gwybod gormod?
Mae Bethan yn amlwg wedi dysgu llawer am sut i flasu cwrw, ar ôl gorfod cymryd cwrs a sefyll arholiadau er mwyn dod yn feirniad; felly yw hyn wedi newid ei mwynhad hi o yfed cwrw yn gymdeithasol?
"Mae beirniadu efallai wedi sbwylio'r profiad o fynd i'r dafarn ychydig nawr... dwi'n teimlo fel taswn i'n cwyno am bopeth! Mae 'na lot o gwrw, tafarndai a bragdai gwych mas 'na, wrth gwrs - mae hi jest yn anodd switsho bant o'r 'ymennydd beirniadu' weithiau.
"Ond dwi'n cofio unwaith, pan oedden ni wedi cael ychydig o hyfforddiant, clywed criw yn trafod cwrw mewn gŵyl gwrw - yr un cwrw ag oedden ni'n ei yfed - ac yn dweud pa mor flasus oedd e.
"Roedden ni'n gallu blasu fod yna rywbeth yn bod ar y cwrw... ond roedden nhw wir yn ei fwynhau, felly oes gwir ots fod e ddim yn berffaith?!"