Cymry'r Eurovision
- Cyhoeddwyd

Lleoliad 'Pentref Eurovision' yn ninas Lerpwl
Lerpwl. Prifddinas answyddogol gogledd Cymru i rai, a dinas a ddenodd filoedd o Gymry gyda chyfleoedd gwaith yn ystod y chwyldro diwydiannol.
Dyma hefyd y ddinas sy'n cynnal cystadleuaeth Eurovision eleni. Y gantores Mae Muller fydd yn cynrychioli'r DU yn rownd derfynol y gystadleuaeth ar nos sadwrn 13 Mai, gyda'r gân I Wrote a Song.
Ond oes yna Gymry wedi cynrychioli'r DU yn y gystadleuaeth? Cymru Fyw fu'n tyrchu.
Ennill yn '76
Nicky Stevens o Gaerfyrddin yw'r unig un o Gymru (hyd yma!) sydd wedi dod yn fuddugol yn yr Eurovision. Roedd Nicky yn aelod o Brotherhood of Man ganodd y gân Save Your Kisses for Me.
Dyna'r trydydd tro i'r DU ennill yn yr Eurovision, cyn ennill eto yn 1981 a 1997.

Nicky Stevens (ail o'r chwith) gyda Brotherhood of Man enillodd yr Eurovision yn 1976
Cymraes yn cnocio'r drws yn '70
Mary Hopkin o Bontardawe oedd y cystadleuydd cyntaf o Gymru i ymddangos ar lwyfan Eurovision. Hi oedd y ffefryn i ennill yn 1970 gyda'r gân Knock Knock Who's There?
Ond y Wyddeles, Dana aeth â hi trwy ganu All Kinds Of Everything. Roedd yna rhywfaint o gysur i'r Gymraes gan bod Knock Knock Who's There? yn sengl boblogaidd yn y siartiau ar draws Ewrop ac America gan gyrraedd rhif 2 yn siart y DU.

Mary Hopkin yn perfformio yn 1970
Ball bron ar y bêl yn '92
Mae Michael Ball yn falch o'i wreiddiau Cymreig er mai yng nghanolbarth Lloegr y cafodd ei eni.
Roedd o'n cynrychioli y DU yn yr Eurovision yn 1992 yn Mälmo, Sweden gyda'r gân One Moment in Time. Ond penderfynodd y gwylwyr nad honno oedd y gân orau un ac fe ddaeth yn ail.
Why Me? gan Linda Martin enillodd. O ba wlad yr oedd hi'n dod? Ie, Iwerddon. Cafodd y gân fuddugol ei chyfansoddi gan Johnny Logan enillodd i'r Ynys Werdd yn 1980 ac yn 1987. Mae'r Gwyddelod yn cael hwyl arni yn yr Eurovision!

Michael Ball ifanc gyda'r diweddar Terry Wogan yn hyrwyddo Eurovision '92
Je suis Gallois
Yn 1996 Gina G oedd yn cynrychioli y Deyrnas Unedig, ond a oedd 'na gysylltiad Cymreig? Oedd, Ooh...Aahhh...Just a Little Bit, gan bod Elaine Morgan o Gaerdydd yn canu i... Ffrainc!
Roedd hi'n aelod o'r grwp celtaidd Dan Ar Braz & L'Héritage des Celtes. Hwn oedd y tro cyntaf i gân yn rownd derfynol yr Eurovision gael ei chanu mewn Llydaweg. Dim ond dix huit o bwyntiau gawson nhw gan orffen yn 19eg.
Dyfalwch pwy enillodd? Ie'r Gwyddelod 'na eto! Eimear Quinn yn canu The Voice.

Elaine Morgan o Gaerdydd yn canu 'Diwanit Bugale' i Ffrainc!
Jess mewn pryd
Roedd Jessica Garlick yn ferch ysgol ym Mhorth Tywyn pan lwyddodd hi i gael llwyddiant ar gystadlaethau canu ar y teledu gan gynnwys Pop Idol a My Kind of Music. Yn 2002 cafodd hi ei dewis i gynrchioli y DU yn yr Eurovision yn Talinn, Estonia. Daeth hi'n drydydd gyda'r gân Come Back.

Jessica Garlick yn canu 'Come Back'
Torcalon i Bonnie
Roedd Bonnie Tyler yn boblogaidd ar draws Ewrop cyn Eurovision 2013 gyda chaneuon fel Total Eclipse of the Heart a It's a Heartbreak yn cyrraedd brig y siartiau ar y cyfandir. Believe in Me oedd y gân roedd y gantores o Sgiwen yn ei chanu yn Sweden.
Ond, doedd gan y gwrandawyr Ewropeaidd ddim llawer o ffydd yn y gân - 19 oedd hi allan o 23 yn y rownd derfynol neu falle fod pledleisiau Bonnie, fel geiriau ei chân, Lost in France?

Bonnie yn gwenu'n arwrol yn Eurovision 2013
Awstralia, Armenia a Chymru
Cafodd y gantores opera ei geni yn Texas a'i magu yn Awstralia, ond cynrychioli Armenia wnaeth Mary-Jean O'Doherty yn Vienna yn 2015. Beth yw'r cysylltiad Cymreig? Roedd Mary yn byw yng Nghaerdydd ar y pryd ac wedi dysgu Cymraeg. Daeth Face The Shadow yn 16eg yn y rownd derfynol ond wnaeth hynny ddim taflu cysgod dros fwynhad y gantores.

Mary-Jean O'Doherty
...a'r dawnsiwr o Gasllwchwr
A phwy all anghofio perfformiad Glen Bartlett o Gasllwchwr ger Abertawe ar lwyfan yr Eurovision yn Copenhagen, Denmarc yn 2014? Dywedodd Glen wrth Cymru Fyw:
"Dim ond unwaith yn fy mywyd yr wy' i yn mynd i gael y profiad o ddawnsio o flaen miliynau o bobl ar lwyfan yr Eurovision, ac felly os ydych chi wedi gweld y fideo, gobeithio eich bod yn gallu gweld y pleser sydd ar fy wyneb wrth redeg ar y llwyfan! Gallwch fy ngweld yma ar wefan YouTube o tua 1.40., dolen allanol"

"Wy' ar lwyfan yr Eurovsion!" Glen Bartlett o Gasllwchwr yn cael hwyl yn Copenhagen
Joe o Ruthun ar lwyfan Eurovision
Yn 2016, Joe Woolford o Ruthun a Jake Shakeshaft oedd yn cynrychioli'r Deyrnas Unedig yn y gystadleuaeth draw yn Sweden gyda'r gân You're Not Alone.
Wcráin ddaeth yn fuddugol y flwyddyn honno gyda'r gân a ganodd Jamala, 1944. Chafodd Joe a Jake fawr o lwc, allan o 26, cipiodd y DU y 24ain safle, gyda dim ond 62 o bwyntiau.

Joe Woolford o Rhuthun a Jake Shakeshaft oedd yn cynrychioli'r DU yn yr Eurovision yn 2016
15fed safle i Lucie Jones
Hwrê! Ychydig o lwyddiant o'r diwedd. Fe orffennodd y Gymraes Lucie Jones yn y 15fed safle wrth gynrychioli'r DU yng ngystadleuaeth yr Eurovision yn 2017.

Lucie Jones
Llwyddodd Lucies Jones o Bentyrch i gael 111 o bwyntiau am berfformio'r gan I'll Never Give Up on You yn ninas Kyiv, Wcráin. Roedd gorffen yn 15fed yn welliant i'r DU, yn dilyn canlyniad Joe a Jake y flwyddyn flaenorol.
Llwyddodd Portiwgal i ennill y gystadleuaeth am y tro cyntaf erioed y flwyddyn honno.
Amy Wadge oedd un o gyd-gyfansoddwyr Space Man
Mae'r DU wedi profi canlyniadau gwael iawn yn yr Eurovision dros y blynyddoedd ond daeth tro ar fyd y llynedd. Sam Ryder oedd yn cynrychioli'r DU yn yr Eurovision yn 2022 gyda'r gân Space Man a ddaeth yn ail i Wcráin. Ac mae gan y gân honno gysylltiad Cymreig.
Ysgrifennodd Sam Ryder y gân ar y cyd gyda Max Wolfgang ac Amy Wadge. Yn wreiddiol o bentref Backwell tu allan i Fryste, mae Amy'n byw yng Nghymru ers blynyddoedd ac mae hi wedi dysgu Cymraeg.
Mae Amy hefyd yn enwog am gyd-gyfansoddi rhai o ganeuon Ed Sheeran.

Amy Wadge
Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl yma yn 2016.
Hefyd o ddiddordeb: