Dim parcio mwyach ar draeth poblogaidd yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Traeth Trefdraeth
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Parc Cenedlaethol fod problemau wedi bod ar y traeth gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwed i'r amgylchedd naturiol

Mae cerbydau wedi cael eu gwahardd rhag parcio ar un o draethau mwyaf poblogaidd Sir Benfro.

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cadarnhau eu bod wedi prynu'r fynedfa i Draeth Mawr a thir oedd yn cael ei ddefnyddio i barcio cerbydau gan glwb golff lleol, am fod yna broblemau wedi bod ar y traeth gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwed i'r amgylchedd naturiol.

Mae'r penderfyniad wedi gwylltio rhai pobl leol sydd yn pryderu na fydd lle i'r holl ymwelwyr barcio yn Nhrefdraeth.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, fe gadarnhaodd Prif Weithredwr yr Awdurdod, Tegryn Jones, eu bod wedi gwario £125,000 er mwyn prynu'r tir.

Disgrifiad o’r llun,

Bu'r cyn-berchnogion, Clwb Golff Trefdraeth, yn codi tâl ar bobl am barcio ar gefn y traeth

Roedd y cyn-berchnogion, Clwb Golff Trefdraeth, yn arfer codi tâl ar bobl am barcio ar gefn y traeth, ac ymwelwyr wedi gwneud hynny ers degawdau.

Dim ond cerbydau brys a'r rheini sydd angen mynediad hanfodol sydd nawr yn cael mynd i'r Traeth Mawr.

'Lleiafrif wedi achosi trafferthion'

Yn ôl cyn-berchennog y tir, Chris Noott, roedd yna gynnydd sylweddol mewn ymwelwyr y llynedd, wnaeth arwain at lu o broblemau.

"Roedd gyda ni bobl yn cyfeirio pobl i barcio ar y traeth, ac roedd hynny yn gweithio yn berffaith tan llynedd," dywedodd.

"Yn sydyn iawn, roedd yna gynnydd mawr mewn ymwelwyr, ac roedd y traeth yn fwy poblogaidd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai pobl ddim yn dilyn cyfarwyddiadau, medd y cyn-berchennog Chris Noott

"Yn drist iawn, mae lleiafrif wedi achosi trafferthion. Roedden nhw yn gyrru ar y traeth a chymryd dim sylw o'n cyfarwyddiadau ac ar un achlysur bu bron i ni gael damwain angheuol gyda phlentyn ifanc.

"Doedd pobl ddim yn gwrando ar ein staff."

'Llu o broblemau'

Penderfynodd Mr Noott i werthu'r tir i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sydd wedi cyflwyno'r gwaharddiad yn syth.

"Mae yna lu o broblemau wedi bod," dywedodd prif weithredwr yr awdurdod, Tegryn Jones.

"Mae yna gampio anghyfreithlon dros nos. Mae yna sbwriel a phroblemau diogelwch gyda cheir. Pan ddaeth y cyfle i brynu'r safle fe wnaethon ni gymryd y camau yna.

"Fe wnaethon ni dalu £125,000 ar gyfer y traeth a'r twyni tywod ond nid cymhelliad ariannol sydd i hyn, ond cymhelliad o ran diogelwch."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tegryn Jones yn annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau bws i'r traeth

Mae yna faes parcio ger y traeth sydd yn eiddo i'r Parc Cenedlaethol, ond mae rhai yn bryderus na fydd digon o le ar gyfer yr holl ymwelwyr yn ystod prysurdeb yr haf.

Dywedodd Mr Jones fod modd defnyddio bws wennol i gyrraedd y safle, neu fod modd parcio ar y Parrog a cherdded draw i Draeth Mawr.

"Mae yna wasanaeth bysus ac mi faswn i yn annog pobl i'w defnyddio ac mae'n bosib cyrraedd y traeth o'r Parrog," meddai.

Bydd nifer y llefydd parcio i bobl anabl yn y maes parcio yn cynyddu o dri i chwech. Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn darparu cadair olwyn ar y traeth a fydd ar gael i'w llogi gan Glwb Syrffio Traeth Mawr o ganol mis Mehefin ymlaen.

Yn ôl yr Awdurdod fe fydd bws arfordirol Roced Poppit, sy'n galw yn Nhraeth Mawr, ar gael i'w ddefnyddio gan ymwelwyr rhwng 30 Mai a 30 Medi.

'Dim digon' o lefydd parcio

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r rhai sy'n pryderu am y gwaharddiad yw'r cyn-chwaraewr rygbi Adrian Varney

Un sy'n pryderu am y newidiadau yw cyn-flaenasgellwr Castell Nedd, Adrian Varney, a gafodd ei eni a'i fagu yn Nhrefdraeth.

"Fi'n becso ambwyti'r anabl," dywedodd. "Does dim digon o le parcio yn y maes parcio ger y traeth. Does dim lle yn y dref.

"Chi'n dod lawr i'r Parrog, a s'dim lle i barcio. S'dim gobaith cael 150 o geir o'r traeth mewn i Tydraeth i barcio."

Bu brwydr gyfreithiol yn y 1990au am fynediad i Draeth Mawr, wnaeth ddiweddu yn yr Uchel Lys.

Roedd Ceri Davies yn un o'r ymgyrchwyr bryd hynny ac mae hi'n flin am benderfyniad y Parc Cenedlaethol.

"Dw i'n meddwl bod e'n hynod o anghywir," meddai. "Os maen nhw'n dweud bod rhaid i ni barcio yn y Parrog a chroesi i'r traeth fel chi'n gweld nawr, ar lanw uchel, dyw hi ddim yn bosib.

"Mae hynny yn golygu y bydd rhaid cerdded tair milltir i gyrraedd y traeth. Dyw pobl ddim yn mynd i wneud 'na.

"Naill a'i dyw nhw ddim yn mynd i ddod i Dydraeth ragor neu maen nhw'n mynd i barcio ble dylen nhw ddim."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceri Davies yn ofni y bydd llai'n barod i fynd i Drefdraeth os oes angen cerdded yn bell er mwyn cyrraedd

Mae Ceri Davies yn gwrthod y syniad bod yna ofnau am ddiogelwch ar y traeth.

"Yn yr holl flynyddoedd dwi wedi bod yn parcio ar y traeth - ac roeddwn i yn dod yma yn blentyn - 'sa i erioed wedi gweld damwain ar y traeth. Mae pobl yn cymryd ei hamser fan 'ycha."

Yn ôl Tegryn Jones, does yna ddim bwriad i osod rhwystrau ar y traeth eto, na dirwyo pobl, ond mi allai hynny newid os ydy pobl yn anwybyddu'r gwaharddiad.

"'Dw i'n gobeithio fydd pobl yn edrych ar yr arwyddion ac yn eu parchu nhw. Wrth gwrs, os na fydd hynny yn digwydd, fe fyddwn ni yn rhoi rhwystr mwy caled i mewn.

"Mae'n bosib fydd yna ddirwyo, ond ry'n ni am atal unrhyw un rhag mynd â cherbyd ar y traeth yn y lle cyntaf."