Cyhuddo cyn-lobïwr o greu delweddau anweddus o blant

  • Cyhoeddwyd
Daran Hill
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Daran Hill yn rheolwr gyfarwyddwr ar gwmni lobio gwleidyddol Positif Politics, sydd bellach wedi newid ei enw

Mae cyn-lobïwr gwleidyddol wedi ei gyhuddo o ddosbarthu a chreu delweddau anweddus o blant.

Roedd Daran Hill, 52, o Gaerdydd yn gyfarwyddwr cwmni lobïo Positif Politics tan 2021.

Fe gafodd ei gyhuddo o ddau achos o ddosbarthu delweddau anweddus o blant, a thri achos o'u creu nhw.

Fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd yn ddiweddarach yn y mis.

Dywedodd llefarydd fod y cyhuddiadau'n dilyn ymchwiliad gan yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol.

Dydy Mr Hill ddim yn ymwneud â'i gyn-gwmni bellach - sydd bellach wedi newid ei enw.

Ymgyrchydd datganoli

Yn ffigwr adnabyddus o fewn y byd gwleidyddol yng Nghymru, roedd Mr Hill yn ganolog o fewn dwy ymgyrch refferendwm datganoli.

Roedd yn drefnydd cenedlaethol ar gyfer ymgyrch 'Ie dros Gymru' yn ystod y refferendwm cyntaf ar ddatganoli ym 1997, ac yn gyfarwyddwr ar yr ymgyrch cyn pleidlais 2011 ar roi pwerau i'r Cynulliad greu cyfreithiau.

Roedd yn rheolwr gyfarwyddwr gyda chwmni Positif, oedd yn darparu cyngor i gwmniau oedd yn ceisio lobïo gwleidyddion Cymreig.

Fe ymddiswyddodd o'r rôl honno ac fel cadeirydd yn 2020, ond fe wnaeth barhau fel cyfarwyddwr gyda'r cwmni.

Fe gafodd ei arestio gan swyddogion yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol fis Awst 2021.

Fe ymddiswyddodd fel cyfarwyddwr y cwmni yn 2021 ac fe newidwyd yr enw i Camlas yn ddiweddarach y flwyddyn honno.