Proses dewis ymgeisydd Llafur yn 'annheg' medd AS

  • Cyhoeddwyd
Gerald Jones a Beth Winter
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i'r ASau Llafur Gerald Jones a Beth Winter gystadlu am yr un sedd yn yr etholiad nesaf

Mae AS Llafur adain chwith wedi cyhuddo ei phlaid o ddefnyddio proses "annemocrataidd" i ddewis ymgeisydd ar gyfer sedd newydd Merthyr Tudful a Chynon Uchaf.

Ar hyn o bryd mae Beth Winter yn cynrychioli Cwm Cynon, tra bod ei chyd-Lafurwr Gerald Jones yn dal sedd Merthyr Tudful a Rhymni.

Ond fel rhan o ad-drefnu ffiniau erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf, bydd yn rhaid i aelodau'r blaid ddewis rhwng y ddau i fod yn ymgeisydd ar gyfer sedd newydd.

Dywedodd Llafur Cymru y byddai manylion am y broses yn cael eu hanfon i aelodau'n fuan.

Drakeford wedi datgan barn

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Ms Winter fod ganddi "bryderon difrfol" am "gyfreithlondeb a thegwch" y broses.

Ychwanegodd fod y broses yn "sathru" ar allu aelodau i ddewis eu hymgeisydd, a bod llawer o'r broses am ddigwydd ar-lein.

"Fydd dim enwebiadau cangen, dim enwebiadau cysylltiedig, dim hystings wyneb-i-wyneb, a bydd rhaid cwblhau'r broses mewn amser mor fyr," meddai.

Cadarnhaodd fodd bynnag ei bod hi'n bwriadu ailymgeisio.

Cafodd Ms Winter ei hethol i San Steffan yn 2019, ac mae'n rhan o grŵp o ASau sy'n cael eu hystyried i fod ar adain chwith y blaid.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n debyg fod Mark Drakeford wedi siarad o blaid cael proses hirach i ddewis ymgeisydd

Mae Mr Jones yn eistedd ar fainc flaen arweinydd y blaid, Syr Keir Starmer, fel gweinidog cysgodol dros Gymru.

Cafodd cyfarfod arbennig i benderfynu ar y broses o ddewis eu hymgeisydd nesaf ei gynnal gan Bwyllgor Gweithredol Llafur Cymru dros y penwythnos.

Mae BBC Cymru'n deall fod y Prif Weinidog Mark Drakeford, sydd ar y pwyllgor, wedi datgan cefnogaeth i ymgais aflwyddiannus i ymestyn hyd y broses, a chynnal hystings wyneb-i-wyneb.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Fe wnaeth Pwyllgor Gweithredol Llafur Cymru gyfarfod dros y penwythnos i gytuno ar y broses o ddewis ymgeiswyr ar gyfer seddi sy'n cael eu cystadlu.

"Bydd pob aelod yn yr etholaeth newydd yn derbyn manylion yn y man ar sut i gymryd rhan a phleidleisio."

Mae'r BBC yn deall y bydd aelodau'n cael pleidleisio drwy'r post neu ar-lein.