Caerffili: Dyn yn gwadu llofruddio ei 'bartner bregus'
- Cyhoeddwyd
Fe allai cynnwys yr erthygl yma beri gofid i rai.
Clywodd achos llofruddiaeth fod dyn wedi achosi anafiadau mewnol i'w gariad drwy ddefnyddio polyn brwsh yn ei chartref yng Nghaerffili.
Mae Carl Silcox, 45 oed o Aberbargoed, yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth neu ddynladdiad yn achos marwolaeth Adell Cowan yn Hydref 2020.
Dywed y diffynnydd iddo ddod o hyd i'w gariad yn farw yn ei gwely.
Pan gyrhaeddodd yr heddlu eu fflat, dywed yr erlyniad iddynt ddod o hyd i Adell gydag anafiadau i'w phen a'i hwyneb a gwaed ar y dillad gwely.
Yn ôl profion meddygol roedd wedi dioddef anafiadau mewnol difrifol i'w rectwm, dueg (spleen) - a'r cyhyrau abdomenol. Roedd y rhain, meddai'r erlyniad, o ganlyniad i niwed gyda pholyn.
'Problemau alcohol'
Dywedodd Gordon Cole KC ar ran yr erlyniad fod Mr Silcox wedi ffonio'r heddlu i ddweud fod Adell wedi marw.
Dyma a ddywedodd, meddai'r erlyniad: "Fe wnes i ddeffro a ma' fy mhartner wedi marw. Fy enw yw Carl Silcox a dwi wedi dod i'r blwch ffôn nawr. Mae fy ffôn symudol ar goll."
Clywodd y llys fod y gwasanaethau brys wedi canfod fod Ms Cowan wedi bod yn farw ers rhai oriau.
Yn ôl yr erlyniad roedd gan Ms Cowan hanes hir o fod yn gaeth i alcohol ac y gallai fod wedi marw ar unrhyw bryd o ganlyniad i hynny.
Ond ychwanegodd Mr Cole fod y patholegydd wedi methu â dod o hyd i unrhyw achos naturiol i egluro'r farwolaeth.
'Menyw fregus'
"Fe wnaeth e' nodi ei bod wedi dioddef nifer o anafiadau," meddai.
"Roedd ei hwyneb wedi ei gleisio ac wedi chwyddo. Felly hefyd ei phen a'i gwddw. Roedd ganddi anafiadau i 13 o'i hasennau a'i chefn."
Fe wnaeth y patholegydd hefyd restru nifer o anafiadau mewnol.
Dywedodd Mr Cole: "Er y ffaith bod Adell Cowan yn ddynes â nifer o broblemau, roedd hi'n fenyw fregus oherwydd ei dibyniaeth ar alcohol, ac mae'n amhosib diystyru fod trawma wedi chwarae rhan sylweddol yn achos ei marwolaeth."
Mae'r achos yn Llys y Goron Caerdydd yn parhau.