Dim cytundeb newydd i Sabri Lamouchi fel rheolwr Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Caerdydd yn chwilio am eu trydydd rheolwr newydd mewn chwe mis, yn dilyn penderfyniad i beidio ag ymestyn cytundeb Sabri Lamouchi.
Fe ymunodd Lamouchi ar gytundeb byr ym mis Ionawr, gan ennill chwech o'i 18 gêm i'w cadw yn y Bencampwriaeth.
Ond yn dilyn trafodaethau gyda pherchennog y clwb, Vincent Tan, maen nhw wedi methu â dod i gytundeb newydd.
Roedd y cadeirydd Mehmet Dalman wedi awgrymu yn gynt ei fod yn obeithiol y byddai'n aros.
Lamouchi oedd trydydd rheolwr Caerdydd y tymor diwethaf, wedi i Steve Morison ac yna Mark Hudson gael eu diswyddo.