Archif: Sŵ Bae Colwyn yn 60 oed
- Cyhoeddwyd
Fideo: Medwyn Humphreys oedd Milfeddyg Sŵ Bae Colwyn ar ddechrau'r 1970au.
Un atyniad poblogaidd iawn ar gyfer tripiau ysgol Sul a rhai ysgolion cynradd yn y gogledd dros y degawdau oedd ymweliad i Sŵ Mynydd Cymru ym Mae Colwyn.
Mae'r atyniad yn 60 oed eleni gyda 170,000 o ymwelwyr yn dal i dyrru drwy'r giatiau yn flynyddol i weld yr 80 o rywogaethau gwahanol sydd dan ofal y Sŵ.
Daeth y syniad i ffurfio'r sŵ yn wreiddiol yn 1962, pan symudodd Robert Jackson, ei wraig Margaret a'i tri o blant i fyw i Fae Colwyn o'u cartref yng Nghaer.
Roedd gan Robert Jackson weledigaeth o adeiladu Sŵ ar y tir a gerddi botanegol. Fe agorwyd y giatiau am y tro cyntaf i ymwelwyr ar 18 Mai, 1963.
Un o hoelion wyth y sŵ ar ddiwedd y 1960au a dechrau'r 70au oedd y milfeddyg Medwyn Humphreys.

Medwyn Humphreys oedd milfeddyg y sŵ
Mr Humphreys oedd yn gyfrifol am iechyd yr anifeiliaid, gan gynnwys cyflawni llawdriniaeth ar sawl un o'r mwncïod, eliffantod a'r nadroedd.
Yn 1973 aeth rhaglen Heddiw draw i'r sŵ a dilyn Medwyn Humphreys wrth ei waith, gan ddysgu am y gwahanol rywogaethau oedd dan ei ofal a chlywed ambell i stori frawychus am drin anifeiliaid peryglus fel y llewod.
Dyma glip o gyfraniad Medwyn Humphreys i'r rhaglen, gan gynnwys cipolwg ar y sŵ 50 mlynedd yn ôl.