Gemau fideo yn cyflwyno pobl ifanc i gerddoriaeth gerddorfaol
- Cyhoeddwyd

Cafodd cyngerdd arbennig ei gynnal yn Neuadd Dewi Sant nos Fercher, 17 Mai, gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio cerddoriaeth gemau fideo. Hwn yw cyngerdd cyntaf y gerddorfa yn perfformio cerddoriaeth o gemau fideo.
Yw cerddoriaeth gemau fideo yn denu pobl ifanc at gerddoriaeth symffonig?
Y cyflwynydd Alex Humphreys oedd yn llywio'r noson - un sy'n dipyn o gamer ei hun ac yn dod o gefndir cerddorol gan iddi ganu'r corned ym Mand Arian Llaneurgain am flynyddoedd. Dywedodd wrth Cymru Fyw:
"Gemau fideo yw'r prif ffordd y mae pobl ifanc dyddiau hyn yn clywed cerddoriaeth gerddorfaol am y tro cyntaf, ac mae gymaint ohonyn nhw yn chwarae gemau fideo. Mae cerddoriaeth i gemau fideo yn anhygoel y dyddiau hyn ac mae'r miwsig gyda'r mwyaf uchelgeisiol, dyfeisgar a chreadigol sy'n bodoli i gerddorfa enfawr."

Roedd Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn rhan o'r cyngerdd hefyd
Ac mae'n enfawr hefyd, roedd 91 o offerynwyr yn perfformio ac un ohonynt oedd Robert Samuel, sy'n drwmpedwr yn y gerddorfa.
Dywedodd ef: "Dw i'n meddwl mai pwysigrwydd i ni wneud y cyngerdd yw taw cerddoriaeth game-o yw e. Mae'n rhywbeth sydd mor bwysig i gymaint o bobl ledled y byd. 'Dan ni wedi gwneud digon o gyngherddau cerddoriaeth ffilm fel John Williams (Star Wars, Jurassic Park) ond mae hwn yn hollol newydd i ni."
Y gyfansoddwraig fyd-enwog, Eímear Noone, oedd wedi trefnu'r darnau ac yn arwain y gerddorfa ar y noson. Hi hefyd sydd wedi cyfansoddi ac arwain ar rai o'r gemau fideo enwocaf fel World of Warcraft a The Legend of Zelda.

Alex gyda'r gyfansoddwraig o Iwerddon, Eímear Noone, yn tynnu hunlun ar y llwyfan
Roedd y cyngerdd yn un poblogaidd iawn yn denu pobl o bob oed i Neuadd Dewi Sant. Yn eu mysg roedd disgyblion o Ysgol Bro Edern, Caerdydd.
Dywedodd Taylor, sy'n dipyn o gamer ei hun ei fod yn edrych ymlaen at glywed y gerddoriaeth.
"Dydw i ddim yn gwrando ar gerddoriaeth glasurol, na! Ond cerddoriaeth gemau fideo? Dw i'n gwneud e fel 24/7!!
"Mewn gemau fideo rydych chi'n gallu gwneud llawer o bethau, fel malu pethau a ddim cael mewn trwbwl o gwbl! A weithiau chi jyst yn gallu helpu pobl allan ac mae hwnna actually yn hwyl weithiau!"
Ond y prif reswm y mae'n mwynhau'r profiad yw i ymlacio.
"Weithiau, dwi'n cael dipyn bach o straen yn yr ysgol felly pryd dw i'n mynd adref dw i'n hoffi troi ymlaen y console a jest chwarae gemau fideo i helpu fi unwind-io."

Taylor a Cari o Ysgol Bro Edern - un yn ffan o gemau fideo a'r llall yn mwynahu cerddorfeydd
Mae ei gyd-ddisgybl, Cari, sy'n astudio cerddoriaeth ar gyfer TGAU yn mynychu oherwydd ei bod yn mwynhau clywed cerddorfa.
Dywedodd: "Y rheswm dwi wedi dod heddiw yw dwi'n mwynhau'r gerddorfa yn fwy na chwarae'r gemau. Fi yn chwarae gemau adref, ond fel minimal! Wrth chwarae'r gemau rwyt ti'n clywed y gerddorfa yn y cefndir ac mae llawer o gemau yn cynnwys cerddoriaeth gerddorfaol.
"Dwi'n credu fod gemau yn dda am wneud hynny. Mae'n rhan mawr [o'r profiad o chwarae gêm], os does dim cerddoriaeth mae'n kind of gwneud e'n boring."
Hefyd o ddiddordeb: