Llais Cymreig y blaidd yn un o gemau fideo mwya'r byd

  • Cyhoeddwyd
Scott ArthurFfynhonnell y llun, Scott Arthur

"Roedd y tîm cynhyrchu o Japan ar alwad Zoom gyda ni, a dywedon nhw fod ganddyn nhw enw i'r cymeriad - 'Blaidd'. Cymraeg mewn gêm gyfrifiadur? Ffantastig!"

Elden Ring oedd gêm gyfrifiadur mwyaf poblogaidd 2022; wedi gwerthu dros 20 miliwn o gopïau mewn blwyddyn ac wedi ennill mwy nag un gwobr Gêm y Flwyddyn. Mae ganddo ffans ledled y byd, ac un o'r cymeriadau mae'r ffans wedi gwirioni ag o yw'r cymeriad sy'n hanner dyn, hanner blaidd, ag acen Gymraeg, o'r enw Blaidd.

Actor o Langennech, Scott Arthur, sy'n lleisio'r bleidd-ddyn, ac fe gafodd y cymeriad ei Gymreigio yn arbennig am fod y Cymro wedi ei gastio i'r rôl.

"Ges i glyweliad ar gyfer cymeriad o'r enw Wolfman," eglurodd Scott, "ac roedd y brîff yn dweud bod hawl ganddon ni ddefnyddio ein hacen naturiol. Pryd wyt ti'n cael bod yn rhan o gêm gyfrifiadur ac yn cael chwarae Cymro?! 'Nes i setlo ar lais oedd yn debyg i fy acen i ond ychydig mwy 'bleiddiog'.

Ffynhonnell y llun, Elden Ring
Disgrifiad o’r llun,

Blaidd yn Elden Ring

"Y diwrnod cyntaf yn y stiwdio recordio, roedd y tîm cynhyrchu o Japan ar alwad Zoom gyda ni, a dywedon nhw fod ganddyn nhw enw i'r cymeriad - 'Blaidd'. Cymraeg mewn gêm gyfrifiadur? Ffantastig!"

Doedd Scott methu credu'r peth, meddai, yn enwedig gan mai'r tîm yn Japan oedd wedi gwneud y penderfyniad, ac mae wrth ei fodd fod y Gymraeg bellach ar sgriniau miliynau o bobl ledled y byd.

"Mae'r ffaith fod pobl ar draws y byd am chwarae'r gêm a chlywed acen Gymraeg a gweld peth o'r iaith yn anhygoel. Mae llwythi o bobl wedi anfon Tweets ata i yn gofyn am yr enw. Mae 'na ambell i ynganiad diddorol wedi bod, fel 'Blades' neu 'Blides', ond ar y cyfan mae pobl yn dda."

Ffans

Mae Blaidd yn 'NPC', sef cymeriad nad oes modd ei chwarae yn y gêm, felly mae hi'n eithaf anarferol fod chwaraewyr yn teimlo gymaint o gariad tuag at y cymeriad.

Ond mae ffans wedi gwirioni â'r creadur blewog; rhywbeth mae Scott wedi ei brofi yn ddiweddar drwy'r sylw mae wedi ei gael ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda negeseuon o bedwar ban byd gan ffans, ac mewn ymweliad diweddar â Comic Con.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Jessica Nigri

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Jessica Nigri

"Mae'r cynadleddau 'ma yn gyfle gwych i holl geeks y byd fynd yn wyllt dros y gemau neu raglenni teledu neu lyfrau maen nhw'n eu caru. Diwrnod cyntaf y gynhadledd, ddaeth merch ata i, wedi ei gwisgo'n llwyr fel Blaidd. Dyna pryd nes i sylweddoli...

"Mae'r gêm yma a'i gymeriadau mor arbennig i'r ffans. Dwi wrth fy modd gyda'r holl wisgoedd gwych a'r Tweets doniol a'r gwaith celf hardd sy'n dod law yn llaw â'r peth!"

Ffynhonnell y llun, Scott Arthur
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r lluniau anhygoel o Blaidd mae rhai o ffans Elden Ring wedi eu creu

'Ti'n dda'

Wrth gwrs, nid oedd Scott yn dychmygu y byddai byth yn derbyn y fath sylw am ei waith. Actio oedd y gobaith, meddai, ond doedd o ddim yn credu ei fod yn rhywbeth o fewn ei gyrraedd.

"Roedd actio yn rhywbeth o'n i mo'yn ei wneud, ond o'n i ddim yn gwybod sut. O'n i'n meddwl ei fod fel bod yn aelod o rhyw glwb arbennig a do'n i ddim yn gwybod sut i ymuno... O'n i mor nerfus y tro cynta' es i i'r theatr ieuenctid, pan o'n i tua 13, ond 'nes i ddechrau syrthio mewn cariad gyda'r holl beth.

"Wedyn pan o'n i'n 16, dyma'r cyfarwyddwr yn fy eistedd i lawr a dweud 'dwi'n meddwl ddylet ti fynd amdani gyda'r actio, ti'n dda' - a dyna'r tro cynta i unrhyw un ddweud mod i'n dda am actio.

"Soniodd e wrtha i am actorion fel Anthony Hopkins, Richard Burton, Rachel Roberts... roedd yr holl bobl 'ma wedi ei wneud e, felly ro'n i angen credu yn fi fy hun. Dyna yw'r broblem dwi'n meddwl, ddim credu yn fy hun. Dwi'n dod o gefndir dosbarth gweithiol, a 'nath yr athrawon fyth ddweud fedrwn i fod yn actor. Oedd e wastad 'ti ddim mo'yn gwneud 'na', ac mae'n torri hyder rhywun."

Yn 18 oed, aeth i astudio yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd, ac mae bellach yn byw yn Llundain, gyda'i yrfa yn mynd o nerth ei nerth, wedi iddo actio mewn cyfresi teledu fel Good Omens a ffilmiau fel Borg McEnroe.

Steeltown Murders

Prosiect diweddara' Scott yw portreadu DCI Paul Bethell yn y gyfres BBC One, Steeltown Murders, sy'n adrodd stori'r ymchwiliad i lofruddiaeth tair merch yng Nghastell-Nedd Port Talbot ddechrau'r 1970au. Cafodd y troseddau eu datrys ddechrau'r 2000au, wedi i brofi DNA ddod yn fwy amlwg.

Yr actor Philip Glenister sy'n actio DCI Paul Bethell, prif dditectif yr ymchwiliad yn 2002, tra bod Scott yn ei actio yn 1973.

Ffynhonnell y llun, Siôn Alun Davies
Disgrifiad o’r llun,

Actorion 1973, 2002 a'r bobl go iawn: (o'r chwith i'r dde) Siôn Alun Davies, Steffan Rhodri a Phil 'Bach' Rees, Philip Glenister, Paul Bethell a Scott Arthur, Karina Bethell, Nia Roberts ac Elinor Crawley

Sut mae mynd ati i bortreadu cymeriad sy'n bodoli go iawn?

"Oedden ni'n lwcus iawn oherwydd roedd Paul Bethell yn rhan fawr o'r cynhyrchiad. Ei stori e yw lot o'r stori. Y noson cyn diwrnod cynta'r ffilmio, aethon ni mas am fwyd, ac roedd Paul yn eistedd rhwng fi a Phil (Glenister), a fuon ni wrthi'n ei holi'n dwll.

"O'n i ddim yn dynwared Paul, ond o'n i mo'yn magu dealltwriaeth o sut oedd Paul yn gwneud pethau a'i bersonoliaeth obsesiynol. Dwi'n cofio fe'n dweud fod ganddo habit, pan oedd rhywun yn rhoi rhywbeth ar y bwrdd tystiolaeth, byddai'n edrych arno, ac yn ei symud ychydig i un ochr, fel tasai'n rhoi ei stamp arno. 'Nes i drio cynnwys pethau fel yna yn y sioe. Mae'n ddyn mor benderfynol, angerddol a deallus - dyna beth nes i ganolbwyntio arno.

"Dwi'n gobeithio gall y gynulleidfa werthfawrogi sgil ac ymroddiad y tîm yn 2002 pan ddaeth profi DNA yn bosib. Ac roedd hi'n ddiddorol gweld y gwahaniaeth ym mhrosesau'r heddlu yn y 70au a'r 00au."

Disgrifiad o’r llun,

Scott yn ffasiwn - a blewiach - nodweddiadol y 70au

A gan fod ei olygfeydd wedi eu gosod yn yr 1970au, roedd hynny'n golygu fod Scott yn gorfod edrych y rhan, meddai, yn ei ddillad o'r cyfnod a'i flew wyneb addas.

"Nes i dreulio rhyw fis yn tyfu goatee, cyn penderfynu mai mwstash handlebar oedd ei angen. Roedd y tîm gwallt a cholur yn falch fod gen i fy mwstash fy hun, achos mae'n gallu ychwanegu 25 munud i'r amser rhoi colur, oedd yn golygu fod gen i 25 munud ychwanegol yn y gwely!"

A beth nesaf i'r actor? Theatr oedd ei 'gariad cyntaf', er mai dim ond llond llaw o ddramâu mae wedi actio ynddyn nhw drwy gydol ei yrfa. Ond mae'n agored i beth bynnag a ddaw, meddai:

"Dwi wir wrth fy modd bod yn rhan o unrhyw beth; dim ond mod i'n cael actio, dwi'n hapus."

Gallwch wylio Steeltown Murders ar BBC One am 21:00 ar nos Lun, neu ar BBC iPlayer

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig