Gohirio newidiadau i'r drefn gynllunio am yr eildro
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyhuddo o lusgo'i thraed ar newid hinsawdd ar ôl iddi ohirio newidiadau i'r drefn gynllunio am yr eildro.
Roedd y polisi diwygiedig i fod i gael ei gyflwyno ddechrau mis nesaf, ond wythnos diwethaf dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol na fydd modd "cyrraedd y dyddiad hwn mwyach".
Mae'r gwrthbleidiau ac ymgyrchwyr amgylcheddol wedi mynegi pryder am yr oedi.
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod hi'n bwysig "cael pethau'n gywir".
Newidiadau'n "annhebygol" eleni
Mae gweinidogion eisiau diweddaru rheolau cynllunio, sy'n cael eu hadnabod fel TAN 15, fel eu bod yn adlewyrchu'r cyngor diweddaraf ar risg llifogydd ac yn sicrhau bod datblygiadau yn y dyfodol yn ystyried effaith posibl newid hinsawdd.
Byddai'r polisi newydd yn gorfodi datblygwyr a chynghorau i ddefnyddio mapiau a gynhyrchwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n darogan lefelau risg yn ogystal â dangos y sefyllfa bresennol.
Roedd y llywodraeth wedi bwriadu cyflwyno'r rheolau newydd ar y 1af o Ragfyr 2021, ond wythnos cyn hynny fe gawson nhw eu gohirio ar ôl i gynghorau godi pryderon.
Ar y pryd dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, bod yr oedi i "alluogi awdurdodau cynllunio lleol ystyried yn llawn effaith y rhagamcanion newid yn yr hinsawdd," ac y byddai'r rheolau yn dod i rym ar y 1af o Fehefin 2023.
"Ni fydd unrhyw ohirio pellach," rhybuddiodd.
Ond wythnos diwethaf, ysgrifennodd Ms James at ASau, dolen allanol yn dweud na fydd modd "cyrraedd y dyddiad hwn mwyach," a'i bod hi'n "annhebygol" y byddai'r newidiadau'n digwydd cyn diwedd y flwyddyn.
Eglurodd bod hyn oherwydd bod y llywodraeth yn dal i ystyried ymatebion i ymgynghoriad newydd i'w chynlluniau.
"Dim amser i oedi"
Wrth siarad â rhaglen Politics Wales, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar newid hinsawdd, Janet Finch-Saunders, bod yr oedi yn "annerbyniol".
Dywedodd aelod Plaid Cymru o Senedd Cymru, Heledd Fychan, bod yr oedi'n "siomedig" a bod angen gweld gweithredu "ar frys".
"Dydy gweld gohirio fel hyn ddim yn mynd i helpu neb, a'r bobl sydd yn mynd i ddioddef waethaf ydy pobl mewn cymunedau bregus sy'n wynebu risg o lifogydd," ychwanegodd.
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol hefyd wedi mynegi pryder am yr oedi, gyda Phrif Wyddonydd Greenpeace UK, Doug Parr, yn dweud wrth y rhaglen: "Rydyn ni'n gwybod y boen mae llifogydd yn gallu ei hachosi i bobl felly rydyn ni'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hwn cyn gynted â phosib.
"Wrth gwrs mae'n bwysig ei gael yn iawn, ond does dim amser i oedi."
"Datblygiad cynaliadwy"
Yn ymateb i'r sylwadau dywedodd y gweinidog newid hinsawdd bod y rheolau newydd wedi eu dylunio i "sicrhau bod addasiad hinsawdd yn cael ei wneud yn gywir yn ein hawdurdodau lleol a bod gyda ni'r datblygiad cywir yn ein trefi a dinasoedd fel ei fod yn addas ar gyfer y 21ain ganrif.
"Dydy hynny ddim yn rhywbeth gallwch chi ei wneud dros nos ac mae'n bwysig ei wneud yn gywir."
Yn y cyfamser mae cynghorau wedi croesawu newidiadau i eiriad y rheolau arfaethedig ers iddyn nhw gael eu cyhoeddi'n wreiddiol.
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, a'r llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Rob Stewart, y byddai'r diwygiadau fel ag yr oedden nhw wedi atal ailddatblygiad mewn rhannau mawr o drefi a dinasoedd Cymru.
Ond mae'r geiriad newydd yn "llawer, llawer gwell", ac yn cefnogi "datblygiad cynaliadwy," meddai.
Y stori yn llawn ar Politics Wales ar BBC1 Cymru am 10:00 ddydd Sul.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd16 Mai 2023