'Mae angen i sin ddringo Eryri dorri ffiniau'
- Cyhoeddwyd
"Dod â phobl leol i'r mynyddoedd a rhoi y tŵls iddyn nhw eu mwynhau."
Dyna weledigaeth y dringwr 33 oed o Fethesda, Ioan Doyle.
Daeth Ioan i amlygrwydd fel dringwr ifanc disglair nôl yn 2007 pan serennodd yn y ddogfen deledu, Dringo i'r Eitha, wrth iddo fentro ei ddringfa gradd 8a cyntaf ar ynys Kalymnos, Groeg.
Bellach yn ŵr i Janie, yn dad i Efan sy'n chwech ac Eidda sy'n dair, mae wedi sefydlu ei fusnes walio a ffensio ei hun, yn ffermio, ac mae newydd ei benodi yn llysgennad Hongian.
Cynhaliwyd ail Ffest Dringo Hongian, gŵyl ddwyieithog sy'n hybu gweithgareddau dringo a mynydda ym Mlaenau Ffestiniog y penwythnos diwethaf.
Er yn ddyn prysur, mae dringo'n parhau i fod "yn ffordd o fyw" i Ioan.
'Mond gwaith oedd mynydd'
Mae Ioan a'i deulu ifanc bellach yn byw yn Llanrug ond ar fferm fynydd yn Gerlan, Bethesda y treuliodd Ioan ei flynyddoedd cynnar.
Bywoliaeth oedd y mynyddoedd i deulu Ioan, yn wahanol i'r ymwelwyr fyddai'n gweld y copaon a'i chreigiau fel maes chwarae.
"Mae y cysylltiad efo'r mynyddoedd a chefn gwlad wedi bod fel undertone i 'mywyd i gyd mewn ffordd.
"Dwi'n cofio pan o'n i'n ifanc iawn, oedd Taid yn mynd i hel defaid ar y mynydd ac o'n i isio mynd efo fo, ond na, doeddach di'm yn cael. Mond gwaith oedd mynydd ia. I be' fasa plentyn yn mynd?!"
Doedd y chwaraeon prif-ffrwd, rygbi a phêl-droed yn y gwersi addysg gorfforol yn yr ysgol ddim yn ei ddenu felly roedd yn rhaid i Ioan dorri ei gwys ei hun a ffeindio beth oedd yn ei ysbrydoli.
"Do'n i'm yn boi sports o gwbl, fi oedd bob tro yr un oedd ddim yn cael ei bigo. Eniwê, o'n i tua 11 pan o'n i cweit ffansi y mynyddoedd. Oedd gena i fodel bach o Everest yn fy stafall wely," meddai.
Darganfod Clwb Mynydda Bethesda
"Nes i ymaelodi efo Clwb Mynydda Bethesda a 'nath 'na grŵp o bobl ddangos y mynyddoedd i fi a nathon ni gerddad y mynyddoedd i gyd.
"Nes i neud her 15 copa i gyd pan o'n i tua 12, mynd ar deithiau i'r Bannau Brycheiniog a hyn a'r llall. Ond doedd o dal ddim cweit yn thing fi achos dringo o'n i isio 'neud.
"Ddoth Mills o Deiniolen ar un o'r teithia ac o'n i'n gwybod fod o'n dringo felly o'n i jest yn nagio fo, nagio a nagio. Ddim i swnio yn cliché ac yn cheesy ond nath hwnna jest newid fy mywyd i."
Deuawd ddringo Ioan a Mills
O greigiau Llanberis, Tremadog a'r Gogarth i ddringfeydd yn Ewrop a Gogledd America, fe dreuliodd Ioan ei arddegau dan adain brofiadol a rhaffau dringo Malcom Mills Davies.
Erbyn hyn, 'Yncl Mills' mae ei blant, Efan ac Eidda yn ei alw ac mae cyfeillgarwch a dringfeydd y ddeuawd ddringo'n parhau'n gryf, 20 mlynedd yn ddiweddarach.
"Oedd Mills yn ddringwr da ofnadwy. Ond y peth pwysica un, a dwi'n meddwl bod pobl ifanc ddim yn ei gael dyddia yma, ydy y cyfla o fynd i ddringo allan efo rywun hŷn a phrofiadol.
"Oedd o'n mynd â fi i ddringo bob dydd. 'Nath y berthynas jest clicio."
Dringo fel siaradwyr Cymraeg
Ychydig iawn oedd yn y sîn ddringo Cymraeg ar y pryd yn ôl Ioan, ac roedd y ddau ar gyrion y sîn o ddringwyr oedd wedi symud i'r ardal.
Wrth adlewyrchu'n ôl ar y cyfnod, mae Ioan yn teimlo bod diffyg hyder wedi atal rhai o'i gyfoedion rhag dangos diddordeb yn y gamp:
"Yr iaith Gymraeg oedd yn dal nhw nôl, y diffyg hyder yna. Doedd 'na neb yn yr ysgol yn dringo."
Ond manteisio ar allu cyd-ddringo a rhannu profiadau tra'n siarad eu mamiaith wnaeth Ioan a Mills:
"Oedd y gwerthoedd dwi'n teimlo sy'n dal ni nôl fel Cymry, bod yn humble a byth sticio dy wddw allan, oedd Mills efo hynna," meddai Ioan.
"Ond dwi'n meddwl gath hynna effaith positif iawn arna fi achos y teip o bersonoliaeth o'n i. O'n i fel volcano yn ffrwydro ac o'n i isio rasio drwy'r graddau dringo a bod y gora bob tro.
"Be' oedd Mills yn 'neud oedd dod â fi shedan i lawr bob tro, ac o'n i'n adeiladu y pyramid yma; yn dringo bob gradd a phob route posib nes bo' fi efo'r ysgol brofiad 'ma.
"Nath Mills lwyddo i neud hynna hefo fi, heb iddo fo wybod. Ni oedd yr underdogs ond yn perfformio ar lefel uffernol o uchal.
'Y chwarelwyr oedd y dringwyr cynnar'
Fel un sydd wedi byw ym mröydd y llechi erioed, o Ddyffryn Ogwen i Ddyffryn Peris, mae Ioan yn gweld y cysylltiad rhwng hanes diwydiannol ei ardal a'r gamp o ddringo.
"Dwi bendant yn meddwl bod genetics dringo ynddan ni, yn enwedig y chwarelwyr; oeddan nhw'n uffar o fois doeddan, doeddan nhw ddim ofn uchdar," eglura Ioan.
Cyfleoedd dringo i bawb
Yr hyn yr hoffai Ioan ei weld ydy'r sin ddringo yn ei ardal yn torri ffiniau a'i fod yn dod yn gamp haws i bobl leol roi cynnig arni.
"Mae gynnon ni ardaloedd difreintiedig a mynyddoedd, mae 'na austerity a mae pobl yn stryglo. Un peth am ddringo ydy mae o reit ddrud i fynd i mewn iddo fo, mae'r walia' dringo ma' yn ddrud a mae gweld pobl yn y gêr i gyd yn intimidating.
"Hefyd mae o'n dibynnu ar sut mae rhywun yn gweld risg; os mai y peth fwya extreme mae dy rieni di wedi ei neud ydi cicio pêl yn cae chwarae, mae dringo yn dipyn o gam dydi.
"Mae angen i'r sin ddringo chwalu ffinia'; ffinia' iaith, lleoliad, y math o berson wyt ti, gender, bob dim! Mae angen mwy o glybiau sy'n cael grantiau i roi y cyfleoedd yna i bobl. Os ydy plentyn isio mynd i wal ddringo, dyla'r plentyn yna gael y cyfla i fynd."
"Faswn i wrth fy modd yn setio wal ddringo fforddiadwy i blant, y boxing club yn y council estate math o vibe.
"Mae dringo yn neud i chdi goelio yndda chdi dy hun a mae o'n rhoi disgyblaeth i chdi. Ti ar y wal neu ti ar y graig a ti'n gorfod goroesi.
"Mae o'n rhoi bocs llawn o dŵls i chdi ddefnyddio mewn bywyd. Dwi ddim yn dweud fod o'n datrys bob dim ond mae o'n gallu helpu."
Dysgu ei blant i ddringo
Bellach, mae bywyd teuluol Ioan wedi golygu bod ei agwedd tuag at gymryd risg tra'n dringo wedi meddalu rhyw fymryn bach.
"Es i allan i Pakistan flwyddyn dwytha ar expedition i ddringo K7. Oedd hwnna yn uffar o sialens, nid jest y dringo ond gadael rhein am ddau fis i neud 'wbath fasa'n gallu bod yn beryg.
"Dwi'n fwy nyrfys nag o'n i achos dwi angen nhw, a maen nhw angen fi. Dwi'n gofyn cyn 'neud wbath, ydy be' dwi'n 'neud yn iawn?"
Un o'i bleserau syml mewn bywyd ar hyn o bryd yw dysgu ei blant, Efan ac Eidda i ddringo.
Mae'n chwerthin: "Eidda fydd y dringwr dwi'n meddwl. Mae hi yn hollol fearless!
Ac yntau'n teimlo'n falch ei fod yn gallu cyflwyno ei blant i'r cyfleoedd dringo sydd ar ei stepen ddrws, fel y gwnaeth Mills iddo yntau, mae'n dweud:
"Y gora allan ni ei roi i'r plant ydi'r tŵls i ddringo os ydyn nhw isio, wedyn gawn nhw ddefnyddio rheina eu hunain.
"Ac os oes yna rywun isio dringo, chwiliwch am gyfleoedd, chwiliwch am glwb a jest ewch amdani. Er bod angan mwy, mae 'na gyfleoedd allan yna."
Hefyd o ddiddordeb: