Disgwyl i Rhun ap Iorwerth fod yn arweinydd Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhun ap Iorwerth wedi cynrychioli Ynys Môn ym Mae Caerdydd ers 2013

Mae disgwyl y bydd Rhun ap Iorwerth yn cael ei enwi fel arweinydd nesaf Plaid Cymru.

Roedd uwch ffynhonnell o'r blaid wedi dweud wrth y BBC nos Iau na fydd unrhyw aelod arall o grŵp Senedd y blaid yn sefyll yn y ras am yr arweinyddiaeth.

Nid oedd dau aelod o'r grŵp, y dirprwy arweinydd Sian Gwenllian a Sioned Williams, wedi diystyru eu hunain o'r ras.

Ond mewn datganiad ar y cyd fore Gwener, mae'r ddwy wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n sefyll i olynu Adam Price.

Er mai dim ond un ymgeisydd sydd, dywedodd Plaid Cymru bod "dim cynlluniau i newid y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau", sef 16 Mehefin.

"Bydd gan aelodau Plaid Cymru gyfle dros yr wythnos nesaf i enwebu ymgeiswyr am arweinyddiaeth y blaid trwy eu hetholaethau lleol," meddai llefarydd.

'Menyw fyddai wedi bod orau'

Dywedodd Sian Gwenllian AS a Sioned Williams AS mewn datganiad fore Gwener eu bod yn cytuno gyda sylwadau'r cyn-arweinydd Leanne Wood mai "menyw fyddai wedi bod y dewis gorau i arwain Plaid Cymru ar yr adeg yma".

Ond er hynny, mae'r ddwy wedi penderfynu peidio sefyll yn erbyn Mr ap Iorwerth.

Dywedodd Ms Gwenllian ei bod "eisiau canolbwyntio ar gyflawni polisïau blaengar, radical a phwysig y Cytundeb Cydweithio" tra bod Ms Williams wedi dweud ei bod yn "teimlo nad oes gen i'r profiad i gynnig fy enw fel ymgeisydd".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sioned Williams a Sian Gwenllian mai "menyw fyddai wedi bod y dewis gorau i arwain Plaid Cymru ar yr adeg yma"

"Nid ydym yn cynnig ein henwau fel ymgeiswyr ar gyfer Arweinyddiaeth Plaid Cymru, er ein bod yn cytuno gyda sylwadau a wnaed gan y cyn-arweinydd Leanne Wood mewn cyfweliad yr wythnos hon mai menyw fyddai wedi bod y dewis gorau i arwain Plaid Cymru ar yr adeg yma," meddai'r datganiad.

"Byddwn yn ymgyrchu i gyflwyno model newydd o gyd-arweinyddiaeth i'r dyfodol a fyddai yn fwy cynhwysol ac yn sicrhau cydraddoldeb.

"Neithiwr fe basiwyd cynnig yn unfrydol gan Etholaeth Arfon, yn galw ar Blaid Cymru i archwilio creu model arweinyddiaeth newydd ar gyfer Plaid Cymru.

"Ein gobaith yw y bydd yn cael ei drafod yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn yr Hydref.

"Byddwn er hynny yn parchu'n llwyr canlyniad y broses bresennol ac yn cefnogi arweinydd newydd y Blaid pan fydd yn cael ei gadarnhau."

Ychwanegodd Ms Gwenllian ei bod yn "gobeithio y bydd edrych ar fodel newydd sy'n gwarantu cynrychiolaeth gydradd i fenywod o fewn strwythur arweinyddiaeth wleidyddol Plaid Cymru yn rhan bwysig o'r ymdrechion sydd eu hangen gan bob un ohonom i ddileu casineb at fenywod o fewn ein plaid".

Dywedodd Ms Williams y "byddai model o gyd-arweinyddiaeth yn anfon neges ddiamwys bod Plaid Cymru yn blaid sydd am hyrwyddo cydraddoldeb mewn modd gyfoes, ymarferol a chyhoeddus gan adlewyrchu yr hyn sy'n digwydd mewn pleidiau blaengar eraill".

Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol, Elliw Gwawr

O ystyried taw dim ond un ymgeisydd sy'n cymryd rhan, dyw'r ornest arweinyddol yma heb fod yn broses syml i Blaid Cymru.

Camu o'r neilltu wnaeth Adam Price yn sgil adroddiad wnaeth ganfod diwylliant o fisogynistaeth o fewn o blaid, felly dyw hi ddim yn syndod fod nifer wedi casglu taw menyw ddylai gymryd yr awenau nesaf.

Ond mae'r ddwy AS oedd eto i ddatgan eu bwriad, Sian Gwenllian a Sioned Williams, wedi penderfynu peidio â chymryd rhan - gan adael y ffordd yn glir i AS Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth.

Mae awgrym Ms Williams am "gyd-arweinyddiaeth" yn cymhlethu pethau ymhellach - mae angen ail berson i fod yn arweinydd ar y cyd: ond pwy?

Dywed Plaid Cymru nad yw'r amserlen swyddogol wedi newid, gydag enwebiadau'n cau mewn wythnos.

Felly rhaid i Rhun ap Iorwerth aros am saith diwrnod arall, heblaw bod neb yn newid eu meddwl ar yr eiliad olaf.

Wrth ymateb ar Dros Frecwast, dywedodd cyn-gadeirydd y blaid, Alun Ffred Jones: "Yn gyffredinol, dwi'n meddwl bod cystadleuaeth o fewn plaid yn beth da bob amser bron, ond os oedd y rhai profiadol ddim am sefyll am wahanol resymau - dyna ni.

"Ac os mai dim ond un fydd yn y ras yna mae'n bwysig bod y blaid yn uno y tu ôl i Rhun."

Ychwanegodd bod Rhun ap Iorwerth wedi ymgeisio y tro diwethaf i'r blaid ddewis arweinydd, ac wedi cael "pleidlais deilwng iawn felly mae ganddo fo'r seiliau cadarn fel arweinydd os mai felly y bydd hi".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Ffred Jones yn gyn-gadeirydd Plaid Cymru

Er yn gweld gwerth mewn cystadleuaeth, dywedodd Mr Jones nad oedd yn dymuno gweld ymgeiswyr ar gyfer yr arweinyddiaeth os nad oedden nhw'n hyderus yn eu cais.

"Dwi ddim yn gweld llawer o rinwedd mewn just gosod eich enw i mewn, dio'm run fath â thrio am swydd er mwyn cael cyfweliad er mwyn gweld sut mae'n mynd.

"Dwi'n credu bod unrhyw un sy'n sefyll ar gyfer swydd fel arweinyddiaeth yn gorfod bod mewn sefyllfa ble mae'n hyderus bod o neu hi yn gallu cyflawni'r gwaith."

Dywedodd bod angen i Rhun ap Iorwerth "roi ei stamp ei hun ar bethau" a "throi'r sylw yn ôl at faterion sydd o bwys i'r rhan fwyaf o bobl, ac nid ar faterion mewnol a materion ymylol i'r mwyafrif o bobl".

Pynciau cysylltiedig