Wood: 'Dylai arweinydd nesaf Plaid Cymru fod yn fenyw'
- Cyhoeddwyd
Dylai arweinydd nesaf Plaid Cymru fod yn fenyw, yn ôl y cyn-arweinydd Leanne Wood.
Dywedodd bod angen hynny yn sgil yr adroddiad i aflonyddu a bwlio o fewn y blaid, a bod hefyd angen gornest yn hytrach na choroni arweinydd.
Hyd yn hyn dim ond Rhun ap Iorwerth sydd wedi cyhoeddi ei fod am sefyll fel arweinydd, cyn y dyddiad cau am enwebiadau yr wythnos nesaf.
Dywedodd Plaid Cymru eu bod wedi gweithredu ar sawl argymhelliad yn yr adroddiad eisoes.
Dwy heb ddatgan eu bwriad
Daw ras yr arweinyddiaeth yn dilyn cyhoeddi adroddiad damniol Nerys Evans, a ddywedodd fod angen i'r blaid "ddadwenwyno diwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth".
Dywedodd Ms Wood wrth rhaglen BBC Wales Live y byddai'n haws i'r gwaith sydd angen ei wneud o fewn y blaid "gael ei wneud gan fenyw sy'n wleidydd sydd wirioneddol yn deall materion misogyny".
"Yn bennaf oherwydd mae'n debyg y byddai hi wedi cael profiad ohonyn nhw rywbryd yn ystod ei bywyd," meddai.
Mae pum menyw yn gymwys i sefyll fel arweinydd, ond mae tair eisoes wedi dweud na fyddan nhw'n sefyll, gyda Sian Gwenllian a Sioned Williams yr unig ddwy sydd heb ddatgan eu bwriad.
Dywedodd Ms Wood y byddai'n cefnogi ymgeisydd benywaidd dros Mr ap Iorwerth.
"Pe bai menyw yn ei herio byddwn yn pleidleisio dros fenyw am yr holl resymau gwleidyddol hynny yr wyf wedi'u hamlinellu," meddai.
"Os caiff ef ei ethol yn arweinydd, byddaf yn deyrngar iddo a byddaf yn gweithio gydag ef.
"Ond, fe fydd yn ymwybodol bod yna feysydd polisi lle mae'n cymryd safbwynt nad yw'r blaid yn rhannu ag ef, fel niwclear.
"Mae hynny'n mynd i fod yn her ac rwy'n mawr obeithio y bydd yn cymryd golwg eang a safbwyntiau gwahanol bobl i ystyriaeth, yn hytrach na bod yn unfryd am rai o'r materion hyn."
Mewn ymateb dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Gydag ychydig dros wythnos i fynd tan y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau, mae'n dda gweld cydweithwyr ac aelodau ar hyd a lled Cymru yn trafod be ddylai'r blaenoriaethau fod ar gyfer Cymru ac i ni fel plaid yn ystod y cyfnod nesaf.
"Fel a nodais yr wythnos diwethaf wrth roi fy enw ger bron yn ras yr arweinyddiaeth, fy nod yw uno'r blaid fel ein bod yn gallu canolbwyntio'n gadarnhaol ar yr heriau sydd o'n blaen a sicrhau gweledigaeth llawn argyhoedddiad."
'Ymddygiad heb ei herio'
Ychwanegodd Ms Wood ei bod yn credu fod angen ras arweinyddiaeth gyda mwy nag un ymgeisydd.
"Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn beth iach i gael coroni," meddai Ms Wood.
"Mae gornest yn sicrhau bod materion lle mae gwahaniaeth barn - ac mae gwahaniaethau barn ym Mhlaid Cymru - yn cael eu gwyntyllu'n iawn ac mae pobl yn cael mynegi barn a phleidleisio.
''Heb hynny, o bosibl, gallai arweinydd heb gystadleuaeth gymryd pa bynnag safbwynt y dymunai ac yna mae aelodau eraill y Senedd mewn sefyllfa anodd iawn i'w herio."
Arweiniodd adroddiad Nerys Evans at ymddiswyddiad Adam Price fis diwethaf.
Dywedodd Leanne Wood mai arweinyddiaeth y blaid sy'n gyfrifol am y diwylliant gwenwynig ymhlith staff.
"Rwy'n meddwl bod yna faterion yn ymwneud â diwylliant o ochr y staff sy'n dod o'r brig," meddai.
"O fy mhrofiad i fel arweinydd mae'n rhaid i chi osod y diwylliant a'r naws ar gyfer y blaid.
"Mae'r arweinyddiaeth, fel grŵp, wedi caniatáu i ymddygiad ddigwydd heb ei herio, a dwi'n credu bod hynny wedi bod yn rhan o'r broblem."
Collodd Ms Wood arweinyddiaeth Plaid Cymru i Adam Price ym mis Medi 2018, ac fe gollodd ei sedd yn y Senedd dros etholaeth Rhondda ym mis Mai 2021.
Cyfaddefodd fod problemau hyd yn oed pan oedd hi'n arweinydd.
"Roedd yna faterion a digwyddiadau hanesyddol, yn enwedig o ran aflonyddu rhywiol, a bu ymdrechion mewn gwahanol ffyrdd i geisio delio â hynny a'u rheoli," meddai.
Fodd bynnag, ychwanegodd nad oedd "y diwylliant gwenwynig hwn ymhlith y staff... mae hynny'n ddatblygiad newydd".
'Angen gweld beth aeth o'i le'
Un o'r argymhellion allweddol yn adroddiad Nerys Evans oedd pwysigrwydd sefydlu darpariaeth adnoddau dynol.
Yn ystod arweinyddiaeth Leanne Wood meddai, "ni chawsom erioed adran adnoddau dynol".
"Dydyn ni ddim yn blaid wleidyddol fawr - dyna'r pwynt," meddai. "Mae gennym ni nifer fach o staff y brif swyddfa.
"Mae'r prif weithredwr yn gyfrifol am adnoddau dynol felly mae yna swyddogaeth adnoddau dynol, ond nid yw'n adran.
"Bu rhai materion yn ymwneud â hyn yn bendant, ond mae'r pethau hyn yn faterion y mae'r blaid yn edrych arnynt ar hyn o bryd."
Wrth wrthod diystyru dychwelyd i wleidyddiaeth reng flaen, dywedodd Ms Wood fod angen i Blaid Cymru ddeall beth aeth o'i le yn y blynyddoedd diwethaf.
"Mae'n golygu edrych ar a derbyn na all rhai o'r ymddygiadau sydd wedi digwydd yn y gorffennol barhau," meddai.
"O bethau bach fel gweiddi mewn cyfarfodydd, i fod yn elyniaethus tuag at ein gilydd ar-lein, i'r materion llawer mwy difrifol fel cam-drin domestig yr ydym wedi'u profi gydag un o'n Haelodau Seneddol, a materion eraill sydd ar y gweill.
"Mae gennym ni waith mawr o adeiladu ymddiriedaeth eto a chreu plaid lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn groesawgar i gymryd rhan ynddo."
Wrth ymateb dywedodd Plaid Cymru: "Mae nifer o'r materion yn cael sylw yn adroddiad Prosiect Pawb ac eisoes, cyn i'r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi, mae'r gwaith o gryfhau prosesau Adnoddau Dynol y blaid wedi dechrau ynghyd â chreu strwythurau swyddogol i staff leisio pryderon.
"Mae nifer o argymhellion adroddiad Nerys Evans eisoes wedi'u cyflwyno ac mae Plaid Cymru yn pwysleisio eto eu bod yn gwbl ymrwymedig i roi blaenoriaeth i'r gwaith hwn gan sicrhau bod y blaid yn ddiogel a chynhwysol ac yn rhoi lle parchus i bawb."
Am fwy am y stori hon gwyliwch Wales Live ar BBC One Wales nos Fercher am 22:40, neu ar iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2023
- Cyhoeddwyd16 Mai 2023
- Cyhoeddwyd3 Mai 2023