Taclo tân difrifol yng nghanol Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Tân ar Stryd Murray, LlanelliFfynhonnell y llun, Kevin Hill/Carmarthenshire Standard
Disgrifiad o’r llun,

Mae un person wedi dianc o'r tân ar Stryd Murray, Llanelli

Roedd tua 40 o ddiffoddwyr yn taclo tân difrifol yng nghanol Llanelli nos Fawrth.

Dechreuodd y tân ychydig cyn 18:00 nos Fawrth mewn eiddo ar Stryd Murray, gyda wyth injan dân yn y fan.

Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod un person wedi dianc o'r tân ac nad oedd unrhyw anafiadau eraill.

Mewn diweddariad ddydd Mercher, dywedon nhw fod un person yn dioddef o effeithiau anadlu mwg a mân losgiadau.

Nid yw achos y tân yn hysbys.

Pynciau cysylltiedig