Yr her o hyrwyddo llyfrau Cymru i weddill y byd
- Cyhoeddwyd
Mae'n "hynod bwysig" fod llyfrau o Gymru yn mynd i bob cwr o'r byd, yn ôl cadeirydd dros dro mudiad Cyhoeddi Cymru.
Mae'r mudiad wedi ei sefydlu gan grŵp o gyhoeddwyr yng Nghymru gyda chefnogaeth y Cyngor Llyfrau.
Yng Ngŵyl y Gelli maen nhw'n trafod cynlluniau i sicrhau fod cynnyrch ysgrifenwyr a chyhoeddwyr o Gymru ar gael i ddarllenwyr ar draws y byd.
Ond mae Ashley Drake yn cyfaddef bod y broses yn anodd.
"Mae angen eu dosbarthu i wledydd eraill. Mae pob cyhoeddwr ishe g'neud hynny ac yn meddwl am hynny bob diwrnod ry'n ni'n gweithio," meddai.
"Dyw llyfrau ddim yn hedfan. Ma' angen cael dosbarthwyr a sianeli gwerthu llyfrau.
"Mae'n gallu bod yn gymhleth a chostus, ac yn lot fwy anodd nag mae pobl yn feddwl."
Mae arian yn bwysig, ond mae pwyslais hefyd ar ffeiriau llyfrau sydd yn cael eu cynnal mewn dinasoedd fel Llundain, Bologna a Frankfurt.
"Os yw cyhoeddwr o Gymru gallu bod yno, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Llyfrau, ry'n ni yn gallu cwrdd â phobl all ein helpu ni i gyrraedd y darllenwyr a'r prynwyr dros y byd," meddai Mr Drake.
'Dewis llyfrau fydd yn apelio'
Fe fydd swyddogion Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn ymweld yn gyson â ffeiriau llyfrau.
Yn ôl cyfarwyddwr y ganolfan, yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, maen nhw'n dewis detholiad o lyfrau i'w hyrwyddo.
"Yn gyffredinol ry'n ni'n cefnogi tua 20 o lyfrau bob blwyddyn, sydd yn lyfrau gwreiddiol Cymraeg neu Saesneg gan awduron o Gymru," meddai.
"Y nod yw dewis llyfrau fydd yn apelio at gyhoeddwyr o wledydd eraill sy'n credu bydd y llyfrau yna yn gweithio yn eu marchnad nhw."
Mae dewis y llyfrau cywir ar gyfer y silff fydd yn mynd dramor yn bwysig.
"Mae'r llyfrau yma fel ffenest siop - ry'n ni'n dewis y math o deitlau ry'n ni'n meddwl fydde'n gweithio mewn iaith arall," meddai.
"Mae hwnna'n agor y drws i'r cyhoeddwyr a chyfieithwyr i ystyried teitlau o Gymru."
'Cyrraedd cynulleidfaoedd ar draws y byd'
Mae'r gystadleuaeth yn ffyrnig, ond mae llyfrau o Gymru eisoes wedi llwyddo. Mae'r Athro Jones yn sôn am gyfrol Manon Steffan Ros.
"Yn achos Llyfr glas Nebo fe gymerwyd y llyfr yna i'w gyhoeddi yn Sbaeneg gan un o brif gyhoeddwyr y byd Sbaeneg.
"Ar y llaw arall mae rhai teitlau o Gymru yn cael eu cyhoeddi gan weisg annibynnol, gymharol fach.
"Ry'n ni'n trio sicrhau bod y gwaith yn cyrraedd y gweisg gorau posib ar gyfer y gwaith, fel bod awduron o Gymru yn cyrraedd cynulleidfaoedd eang ar draws y byd trwy gyfieithiad."
Wrth werthu i gynulleidfa sydd yn fyd eang mae'r awduron yn cael cyfleoedd hefyd.
Mae'n ychwanegu at eu proffil rhyngwladol, ac maen nhw'n cael eu gwahodd i ddigwyddiadau llenyddol i drafod eu gwaith.
"Mae hefyd yn ffordd o genhadu dros Gymru fel gwlad, dros y sector lenyddol yng Nghymru a dros y math o straeon sydd gennym ni i'w cynnig i'r byd," meddai Ms Jones.
Ar hyn o bryd mae'r sefyllfa yn iach o ran cyhoeddi ac ysgrifennu yng Nghymru yn ôl Arwel Jones, pennaeth datblygu cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru.
"Mae pob cyhoeddwr yn mynd i ddweud ei bod yn heriol, ond ar ôl dod allan o Covid a sialensiau anferth hynny, mae llyfrau a chyhoeddwyr wedi dal eu tir yn arbennig gyda'r siopau yn gneud gwaith arwrol yn cyflenwi llyfrau," meddai.
"Mae nifer dda o lyfrau ac awduron newydd yn dal i godi felly mae yn gyfnod hynod o iach."
Wrth edrych i'r dyfodol mae e'n gweld cyfleoedd.
"Mae'r sefyllfa yn Gymraeg ac yn rhyngwladol yn wahanol," meddai Mr Jones.
"Ar y cyfan ry'n ni'n gwybod lle mae'r gynulleidfa Gymraeg, ond yn rhyngwladol mae cyfleoedd yn enwedig o bosib wrth bontio o Gymraeg i Saesneg ac wedyn i ieithoedd eraill."
Newid ar droed?
Gyda thon o awduron llwyddiannus newydd yn codi yng Nghymru, fe all newid fod ar droed, yn ôl Mr Jones.
"Dyw Cymru ddim 'di bod yn ffasiynol efallai yn y tai cyhoeddi mawr yn Llundain, ond tybed ydyn ni yn gweld cyfnod o newid gydag enwau fel Fflur Dafydd, Manon Steffan Ros, Caryl Lewis ac ati?
"Mae'r rhain yn awduron sy'n 'sgrifennu yn ddigyfaddawd am Gymru ac o Gymru."
I'r rheiny sy'n gwerthu llyfrau, fel Angharad Morgan, perchennog Siop Inc, Aberystwyth, mae safon y deunydd sy'n dod o Gymru yn arbennig, a diddordeb cynyddol gan gwsmeriaid o bob rhan o'r byd.
"Ma' rywbeth at ddant pawb ac mae yn safonol iawn," meddai.
"Mae gyda ni ein cwsmeriaid craidd wrth gwrs, ond fel tre' prifysgol a thre' glan môr ry'n ni'n cael lot o ymwelwyr, ac ma' pobl yn dod mewn i ddysgu mwy am lyfrau o Gymru.
"Mae'r themâu Cymreig yn sicr o ddiddordeb i bobl, yn enwedig hanes a diwylliant y wlad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2023
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2023