'Diffyg cynrychiolaeth mewn llenyddiaeth Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
Awduron
Disgrifiad o’r llun,

Chantelle Moore (chwith) a Mili Williams (dde) yw'r awduron fydd yn cael cyhoeddi eu gwaith

Mae prosiect newydd gan y Mudiad Meithrin yn 'annog lleisiau Cymraeg o blith cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig i ysgrifennu straeon' ar gyfer plant.

Fel rhan o gynllun o'r enw AwDUra, mae gwaith dwy awdur wedi cael ei ddewis i gael ei gyhoeddi, sef Mili Williams, yn wreiddiol o Fangor, a Chantelle Moore o Gaerdydd.

Cafodd Cymru Fyw gyfle am sgwrs gyda'r ddwy i gael clywed mwy am eu bywydau a'u gwaith.

Y prosiect yn 'fwy na chynllun yn unig'

Ffynhonnell y llun, Mudiad Meithrin
Disgrifiad o’r llun,

Yr awduron gyda'u tiwtoriaid profiadol

Cafodd deg o awduron eu dewis i gymryd rhan yn y prosiect, oedd yn cynnig sesiynau tiwtora gan yr awduron Manon Steffan Ros a Jessica Dunrod.

Yna, roedd y Mudiad yn ymrwymo i gyhoeddi gwaith dwy o'r awduron hyn, a'r unigolion a gafodd eu dewis oedd Mili a Chantelle. Yn ogystal â'u mentora i ysgrifennu, mae'r tiwtoriaid hefyd yn cynnig cymorth iddyn nhw am sut i ddelio gyda'r broses gyhoeddi.

Mae Chantelle yn falch mai nid cynllun yn unig ydyw, ond cyfle gwirioneddol i awduron o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig i gael eu gwaith wedi ei gyhoeddi yng Nghymru.

Meddai: "Mi wnes i feddwl bod y prosiect yn dda oherwydd nad dim ond scheme arall ydi o. Mae 'na dipyn ohonyn nhw ar gyfer pobl BAME sydd yn dod i ddim byd, ac o leiaf hefo'r prosiect yma roedd 'na addewid y buasai gwaith ambell un yn cael ei gyhoeddi.

"Mi oedd hynny'n dweud wrthyf fi bod y Mudiad Meithrin o ddifrif am beth oeddan nhw'n ei wneud, a bod ganddyn nhw gynllun i gefnogi mewn modd gwirioneddol, ac nid i dicio bocsys yn unig."

'Diffyg cynrychiolaeth'

Disgrifiad o’r llun,

Gall y cynllun hwn gan y Mudiad Meithrin wneud newid gwirioneddol yn ôl Chantelle

Mae Chantelle wedi bod yn prynu llyfrau i'w phlant a drwy hynny wedi sylweddoli bod diffyg cynrychiolaeth nodedig o fewn llenyddiaeth Gymraeg.

"A dydi e ddim am gynrychiolaeth yn unig, mae e am gynrychiolaeth o brofiadau hefyd. Mi allwch chi ddarganfod ambell gymeriad token du, ond dim byd mwy na hynny.

"Mae fy mhlant o hil gymysg, o gefndiroedd a threftadaeth gymysg. 'Dw i eisiau iddyn nhw allu cael mynediad i lenyddiaeth sydd yn cynrychioli straeon amlddiwylliannol, y tu hwnt i'r gweledol yn unig. Dydi'r stori Gymreig ddim yn llinol i gyd, yn fwy nac 'un teip'. Mae 'na nifer lluosog o straeon a phrofiadau yma dw i'n meddwl y dylai gael eu cynrychioli."

'Mae gan bawb stori ynddyn nhw i'w ddweud'

Doedd gan Mili na Chantelle fawr o brofiad fel awduron, ond mae'r ddwy wrth eu boddau'n creu ac adrodd straeon.

Roedd hyn yn ddiddordeb i Mili ers yn ifanc,

"O gwmpas adeg TGAU, o'n i bob tro yn hoffi Saesneg a Chymraeg. Ond o'n i byth yn meddwl 'swn i'n cael gwneud rhywbeth hefo hwnna yn fy mywyd. O'n i ddim ond yn 'sgwennu pethau yn dyddiadur fi. Dim profiad o gwbl. Ond o'n i'n gwbod bo fi'n hoffi 'neud o. O'n i'n darllen bob eiliad pan o'n i'n fach a pan o'n i yn y brifysgol."

Yn yr un modd, mae straeon yn bwysig ym mywyd Chantelle, sydd yn athrawes Addysg Grefyddol mewn ysgol uwchradd.

"Heb y prosiect fuaswn i ddim wedi ystyried fy hun fel awdur. Mae gen i ddiddordeb mewn pŵer straeon, a'r hyn sydd gan bobl ei ddweud. Mae'n ddiddorol i mi sut mae pobl wedi dod i ffydd neu beidio, a sut mae pobl wedi goresgyn adfyd a gorfoleddu am hynny. Yn yr eglwys oeddwn i yn gweithio ynddi, roedd 'na brosiect gyda ffoaduriaid, ac mi oedd gen i ddiddordeb yn eu straeon.

"Mae gan bawb stori ynddyn nhw i'w ddweud."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Caerdydd yw cartref Chantelle

Ail ddarganfod yr iaith

Mae Mili a Chantelle yn falch iawn eu bod yn cael cyfle i gyhoeddi straeon drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r ddwy wedi dod at yr iaith mewn ffyrdd amrywiol ar draws y blynyddoedd, ac maent wedi ystyried ac ail werthuso eu perthynas gyda'r hunaniaeth Gymreig dros amser.

Eglura Chantelle: "Rydw i'n fenyw ddu o Gymru, a'r cyntaf o fy nheulu i fynd i'r brifysgol. 'Dw i'n byw yng Nghaerdydd. Chefais i ddim addysg Gymraeg, ond ers i fy nhri o blant ddechrau mynd i ysgol Gymraeg, 'dw i wedi dechrau dysgu.

"Cyn y pandemig, roeddwn i'n hedfan, oherwydd ei fod o wyneb yn wyneb. Ers i bethau fynd ar lein, dydw i ddim y math yna o ddysgwr. 'Dw i'n aros am y dydd pan fydd pethau'n mynd yn ôl wyneb yn wyneb!"

Er iddi fynd i'r coleg yn Llundain ac yna ym Manceinion i hyfforddi i fod yn feddyg, mae Mili wedi dychwelyd i Gymru ar ôl cyfarfod a'i gŵr, Gerallt, er mwyn magu ei phlant yma. Er iddi deimlo ei bod wedi colli ei Chymraeg ar brydiau, mae ganddi berthynas gref gyda'r iaith o oedran ifanc.

"Es i i ysgol Cae Top [ym Mangor], a dwi'n cofio'n prifathro ni, Mr [John] McBryde yn cael effaith rili positif arna ni. Roedd o'n siarad hefo lot o egni ac yn bersonoliaeth mawr.

"Flynyddoedd wedyn, nes i gyfarfod ffrind yn Llundain oedd yn dod o dde Cymru, ac oeddan ni'n defnyddio'r Gymraeg fel iaith gyfrinachol ar y tube.

"Ond wedyn nes i anghofio fy Nghymraeg, cyn cyfarfod Gerallt. Rwan bo' fi'n fam, dwi'n gweld pa mor bwysig ydi iaith a sut mae'n clymu ti i dy ardal di, a mae'n bwysig.

Profiadau personol yn ysbrydoli

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dinas Bangor yn ysbrydoliaeth i Mili

Mae nodweddion daearyddol Bangor wedi dylanwadu'n fawr ar Mili hefyd yn ogystal â'i phobl, ac mae hyn yn ysbrydoliaeth amlwg ar ei stori.

"Mae o... am fy mhrofiad yn tyfu fyny yng Nghymru, y mynyddoedd, yr afon, mae'n teimlo fel bod na rywbeth hudol yn yr awyr.

"Mae'r stori am wlad hudol hefo mynyddoedd hudol, ond mae o am afon yn arbennig, a mae hynny'n dipyn bach o nod i Tryweryn. Ond dydi o ddim yn rhy political, chwaith."

Ac i Chantelle, hanes ei theulu yw'r sbardun.

"Mae fy stori wedi cael ei ysbrydoli gan fy nhad-cu, oedd yn fudwr o genhedlaeth Windrush. Mi'r ydym ni wedi ei golli e yn ddiweddar, ac mae hwn yn rhyw fath o archwiliad o hunaniaeth allai gael ei golli yn y dyfodol."

'Dwi yn Gymraeg!'

Diolch i'r prosiect yma a'i bywyd yn ddiweddar fel mam, mae Mili'n teimlo'n llawer mwy cyfforddus yn galw ei hun yn Gymraes ac yn rhan o'r diwylliant.

"Ers i fi ddod yn fam, dwi lot mwy hyderus rŵan, dwi yn Gymraeg! Dwi wedi chwarae tenis dros Gymru pan yn ifanc, dwi'n siarad Cymraeg, ac yn teimlo rŵan bod gen i'r hawl i sgwennu llyfrau Cymraeg."

Drwy brosiect o'r fath, dyhead Chantelle am y dyfodol yw gweld y gofodau hyn sydd yn cael eu creu i awduron o bob cefndir yn parhau ac yn cynrychioli pawb sy'n byw yn y wlad.

"Os ydy'r gofodau hyn yn cael eu creu mewn modd gwirioneddol, ac os oes yna ddyhead gwirioneddol i wneud newid cadarnhaol, staeon sydd yn cynrychioli'r holl boblogaeth, nid dim ond un demograffig neu math o hunaniaeth, yna mi fyddwn ni'n cynrychioli'r lleisiau gwahanol yna sydd allan yna."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig