Geraint Thomas yn cadw ei afael ar grys pinc y Giro d'Italia

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images

Geraint Thomas sy'n parhau i arwain y Giro d'Italia, er i'w fantais gael ei chwtogi ychydig o 29 i 26 eiliad ar y 19eg cymal.

Santiago Buitrago o Golombia enillodd y cymal mynyddig ddydd Gwener, gyda'r Cymro yn y pumed safle.

Ond yr unig un o'r rhai orffennodd o'i flaen a oedd o fygythiad iddo yn y dosbarthiad cyffredinol oedd Primož Roglič o Slofenia.

Fe lwyddodd Roglič, sydd yn yr ail safle tu ôl i Thomas, i ennill tair eiliad ar yr arweinydd.

Un cymal cystadleuol sy'n weddill yn y Giro eleni - ras yn erbyn y cloc ddydd Sadwrn, gyda digon o ddringo mynydd.

Bydd y ras yn gorffen gyda chymal yn Rhufain ddydd Sul, ond y gwibwyr fydd yn cystadlu am y fuddugoliaeth y diwrnod hwnnw, ac fel arall does dim rasio cystadleuol.

Dosbarthiad cyffredinol

  1. Geraint Thomas (Ineos Grenadiers) - 81 awr, 55 munud, 47 eiliad

  2. Primož Roglič (Jumbo-Visma) +26"

  3. João Almeida (UAE Team Emirates) +59"

  4. Damiano Caruso (Bahrain Victorious) +4'11"

  5. Eddie Dunbar (Jayco AlUla) +4'53"

Pynciau cysylltiedig