Michael Aaron: Un o selogion y sin gerddoriaeth Gymraeg
- Cyhoeddwyd
"Mae'r sin yn bwysig iawn i fi. Fysa fy mywyd i dipyn fwy gwag hebddo fo."
Os ewch i gig yng ngogledd Cymru mae hi bron iawn yn sicr y dewch chi ar draws Michael Aaron Hughes yno yn mwynhau ei hun.
Mae Michael, sy'n 32 oed ac yn dod o Lanberis, yn un o hoelion wyth y sin gerddoriaeth Gymraeg ac yn gefnogol dros ben o'i artistiaid.
Yn ystod yr wythnos mae cyn gyflwynydd Radio Ysbyty Gwynedd yn gweithio fel tiwtor Technoleg Gwybodaeth ym Menter Fachwen yng Nghwm y Glo, ond pan ddaw dydd Gwener dim ond un peth sydd ar ei feddwl - gig.
Cymru Fyw sydd wedi holi'r gigiwr selog am ei hoff fandiau, ei hoff gigs a'r rhai sydd ganddo ar y gweill, ynghyd â sut mae hwyluso profiad person â chadair olwyn mewn digwyddiad byw.
Pryd 'nes di ddechrau ymddiddori mewn cerddoriaeth Gymraeg?
O'n i'n fach iawn. Un o'r petha cyntaf dwi'n gofio ydi gweld John ac Alun yn Hendre Hall ym Mangor.
Dim ond canu gwlad o'n i'n licio pan o'n i'n ifanc ond erbyn hyn dwi'n licio bob math o gerddoriaeth.
Ambell i benwythnos rhydd dwi'n gael. Mae blwyddyn yma yn jam packed 'wan - dwi'n meddwl mai Gŵyl Cefni ydi'r un nesa yn Llangefni.
Beth ydi apêl cerddoriaeth byw i chdi?
Dwi wrth fy modd yn gweld yr artistiaid 'ma yn chwarae yn fyw a chyfarfod ffrinidau yno.
Mae o'n wahanol gwrando ar gerddoriaeth byw, ac wrth gwrs ti'n cael prynu eu cynnyrch nhw ar ddiwedd noson.
Dwi'n hel CD's, ond yn gwrando arnyn nhw yn anaml iawn dyddiau yma, oherwydd 'na'i wrando ar Spotify bob tro. Ond 'na'i dal brynu'r CD's. Gen i ddau lond shilff sydd fyny at y to.
'Nes i fynd i siop yn Gaernarfon i brynu CD newydd Glain Rhys dydd Gwenar (Mai 26) pan ddaeth o allan.
Beth ydi rhai o dy hoff albwms Cymraeg?
5 uchaf: Mared - Y Drefn, Bryn Fôn - Dyddiau Di-Gymar, John ac Alun - Un Noson Arall, Dylan Morris - Haul ar Fryn, Fleyr de Lys - Awn Ni am Dro.
Mae 'na lot o fandiau da 'ŵan, mae'r sin yn tyfu a tyfu efo llwyth o artistiaid newydd cyffrous.
Mae albwm Morgan Elwy, Teimlo'r Awen yn un briliant a mae un Lewys yn dda hefyd. Stwff da.
Mae MR a Gwilym efo albyms newydd allan fyd, edrych ymlaen at 'heina. A dwi'n rili edrych mlaen at un newydd Fleur de Lys.
Oes 'na fathau penodol o gigs ti'n eu ffafrio? Pam?
Nes i fynd i gig Mared a Dafydd Owain yn Galeri, roedd o yn briliant. Hefyd Pei Pysgod yn Shed Y Felinheli... Briliant eto - dwi'n gobeithio fydd 'na lot mwy o gigs yn fanna rŵan.
Roedd rheina yn gigs ymlaciedig a maen nhw yn rhai eistedd i lawr. Wrth gwrs eistedd mewn cadair dwi yn bob un.
Mae Bwncath yn chwarae yn y Padarn Lake yn Llanberis. Neis ia - gan bo' fi yn byw yn fanna mae hynna'n grêt.
A mi fydd Dafydd Iwan yna hefyd yn yr haf. Mae o yn grêt cael gigs lleol, ond wrth gwrs dwi ddim yn meindio trafeilio, mond bod o ddim rhy bell.
Fel person sy'n defnyddio cadair olwyn, oes 'na rhai ti'n teimlo sydd yn fwy addas i chdi?
Isda lawr ydw'i yn y gigs i gyd yn 'de, a mae o yn well i fi os ydi pawb arall yn eistedd lawr.
Well gen i gigs fwy ymlaciedig oherwydd ti byth yn gwbod be' sy'n mynd i ddigwydd efo gigs nos efo pobl yn mwynhau eu hunain.
Mae 'na un peth sydd yn mynd ar fy nerfa i. Bob tro 'da ni'n mynd i gigs, 'da ni'n mynd i'r blaen, a mae 'na rhywun bob tro yn stwffio o dy flaen di. Mae hynna'n niwsans.
Es i i gig yn ddiweddar a roedd fy ffrind i a fi wedi mynd i'r ffrynt a doedd 'na ddim chwarae teg.
Sut fyddai gwneud pethau yn haws?
Os ydyn nhw isio diod a mynd nôl a mlaen i'r bar... aros yn cefn 'de? A gwneud yn saff ein bod ni yn aros yn y ffrynt.
Tro dwytha, roeddan ni yn gwylio gig a dyma griw o bobl ifanc yn dod reit o'n blaena' ni. Mae'r security i fod i fod yna yn edrych rownd ond wnaeth hynna ddim digwydd. So gobeithio yn y gig nesa' fydd petha'n iawn.
Gigs byw a CD's... lle arall wyt ti'n cael y diweddaraf ar y sin gerddoriaeth?
'Rargain fawr, radio 'de. Dwi'n gwrando bob dydd. Wrth gwrs gan bo' fi yn gweithio dwi'm yn cael y cyfla i wrando ar y rhaglenni i gyd!
Dwi'n darllen Y Selar bob dydd hefyd - mae hwnnw'n dda i gael y newyddion diweddaraf.
Mae'r sin yn bwysig iawn i fi 'de. Fysa fy mywyd i dipyn fwy gwag hebddo fo.
Canllaw gigs 2023 Michael:
Gŵyl Cefni (10 Mehefin)
Noson Lawen Rownd a Rownd Pontio Bangor (11 Mehefin)
Noson Lawen Caneuon Sbardun Pontio Bangor (13 Mehefin)
John ac Alun Galeri Caernarfon (15 Mehefin)
Soap, Clwb y Ddraig Llanberis (17 Mehefin)
Gwilym, Eadyth, Dienw, Galeri Caernarfon (24 Mehefin)
Gŵyl y Felinheli (1 Gorffennaf)
Sneb yn Becso Dam, Pontio Bangor (5 Gorffennaf)
Bwncath Gwesty Padarn Llanberis (8 Gorffennaf)
Linda Griffiths, Galeri Caernarfon (20 Gorffennaf)
Dylan Morris, Heights Llanberis (27 Gorffennaf)
Eisteddfod Genedlaethol (5 Awst)
Fleur de Lys, Clwb y Ddraig llanberis (9 Medi)
Dylan a Neil, Galeri Caernarfon (21 Medi)
Gai Toms a Pwdin Reis, Neuadd Llanfairfechan (18 Tachwedd)
Dafydd Iwan a'r Band, Clwb y Ddraig Llanberis (8 Rhagfyr)
Hefyd o ddiddordeb: