Pryder am boblogrwydd 'vapes' ymysg pobl ifanc

  • Cyhoeddwyd
E-sigaretauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae arbenigwyr yn dweud bod lliwiau llachar a blasau amrywiol e-sigaréts yn eu gwneud yn ddeniadol i bobl ifanc

Mae galw am dynhau'r rheolau yn ymwneud ag e-sigaréts, neu 'vapes', wrth i nifer cynyddol o bobl ifanc yng Nghymru ddechrau eu hysmygu.

Yn ôl arbenigwyr meddygol, mae rhai plant yn datblygu problemau iechyd difrifol o ganlyniad i e-sigaréts.

Dywedodd un athro ei fod yn teimlo nad yw pobl ifanc yn llawn ymwybodol o effeithiau'r arfer ar eu hiechyd.

Fe alwodd ar y llywodraeth i roi rhagor o gymorth i athrawon wrth fynd i'r afael â'r broblem.

Dywedodd cynrychiolydd o'r Vaping Industry Association y byddan nhw'n cefnogi dirwyon uwch i fanwerthwyr sy'n gwerthu e-sigaréts i bobl dan 18 oed.

"Nid yw'r cynnyrch yma wedi'u dylunio ar gyfer plant," ychwanegodd.

Ddydd Mawrth, dywedodd Llywodraeth y DU y byddan nhw'n gwirio rheolau sy'n caniatáu siopau i roi samplau e-sigaréts am ddim i blant.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd cynllun ar gyfer atal plant a phobl ifanc rhag ysmygu e-sigaréts yn cael ei gyhoeddi'n fuan.

Vapes 'yn rhyw fath o drend'

Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd Chris Shaw, cynrychiolydd undeb athrawon UCAC yn Abertawe, ei fod yn pryderu am nifer y disgyblion sy'n defnyddio e-sigaréts.

"Yn sicr fi'n credu ar lefel sirol yn Abertawe ni wedi gweld nifer y disgyblion sydd yn vapio yn cynyddu," dywedodd.

"Ma' hwnna'n sicr yn bryder yn enwedig pryd ma'r ymchwil o ran yr effaith ma'r teclynnau yma'n cael ar iechyd disgyblion yn gynnar iawn a ma'r tystiolaeth gynnar yna'n awgrymu bod 'na broblemau iechyd difrifol yn gallu codi."

Ffynhonnell y llun, Chris Shaw
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Chris Shaw ei fod wedi clywed am siopau yn agor ger ysgolion yn fwriadol er mwyn gwerthu e-sigaréts i ddisgyblion.

Teimla Mr Shaw fod angen rhagor o gefnogaeth ar athrawon wrth fynd i'r afael â'r broblem.

"Ma' 'na ddyletswydd arnon ni fel athrawon a falle'n gyffredinol fel cymdeithas i dynnu sylw at y pryderon iechyd," dywedodd.

"Ni'n cael disgyblion nawr, 14, 15 mlwydd oed sy'n arbrofi gyda'r dechnoleg a ma' nhw falle ddim yn ymwybodol o'r problemau iechyd.

"Yn y cychwyn bwriad y teclynnau yma oedd helpu pobl i stopio ysmygu, nawr fi'n credu mae 'di dod yn rhyw fath o drend.

"Fi 'di clywed straeon lle mae siopau vapio wedi agor yn strategol yn agos at ysgolion. Ni hefyd yn clywed straeon o'r teclynnau yma'n cael eu gwerthu mewn ffordd gyfrwys.

"Bydden i'n gofyn am fwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru o ran sut i daclo'r broblem yma," ychwanegodd.

"Yn y pen draw os na fydde'r disgyblion yn cael y mynediad at y dechnoleg vapio yma bydde'r broblem ddim yn codi."

'Angen newid'

Mae Dr Sinan Eccles, ymgynghorydd mewn meddygaeth anadlol, yn dweud y gallai problemau iechyd difrifol godi o ysmygu e-sigaréts.

"Rydym yn bendant yn gweld llawer o symptomau broncitis... peswch, diffyg anadl," dywedodd.

"Rydym hefyd yn gweld nifer fach o bobl gall datblygu ymateb difrifol hefyd, cyflwr a elwir yn EVALI, sy'n golygu anaf i'r ysgyfaint sy'n gysylltiedig ag e-sigaréts a vapio... Mae'r ymateb yma fel arfer yn digwydd o fewn pobl ifanc.

"Dwi'n credu bod pawb wedi gweld pobl ifanc yn ysmygu e-sigaréts... pobl yn eu harddegau, pobl na ddylai fod yn gallu cael gafael ar e-sigarét."

Ffynhonnell y llun, Sinan Eccles
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Eccles yn teimlo bod angen newidiadau i'r ffordd y mae e-sigaréts yn cael eu gwerthu a'u hysbysebu

Ychwanegodd: "Ddim yn hir nôl roedd popeth wedi'u gorchuddio gyda hysbysebion tybaco ac mae hynny wedi mynd, ond does gennym ni ddim yr un cyfyngiadau ar e-sigaréts.

"Rydym yn dechrau gweld gwledydd eraill yn cymryd camau i leihau vapio ymysg pobl nad sy'n eu defnyddio i'w helpu i stopio ysmygu.

"Felly yn yr Iseldiroedd, maent wedi gwahardd e-sigaréts efo blas... Yn Awstralia, maent wedi symud i system presgripsiwn.

"Mae angen newid i wneud yn siŵr fod pobl sy'n ceisio stopio ysmygu yn parhau i fedru cael gafael ar e-sigaréts.

"Ond dyw hynny ddim o reidrwydd yn golygu bod hefyd angen cael rhai tafladwy, cost isel, blas bubble gum sydd ar gael yn hawdd ac sy'n cael eu hysbysebu ymhobman."

E-sigaréts anghyfreithiol

Dywedodd Dr Julie Bishop, cyfarwyddwr gwella iechyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, ei bod yn pryderu am y tactegau sy'n cael eu defnyddio i werthu e-sigaréts.

"Rydym yn bryderus," dywedodd. "Mae nicotin yn gyffur hynod gaethiwus.

"Mae'r lefelau o gaethiwed [i e-sigaréts] sy'n cael eu hadrodd i ni wedi bod yn dipyn o syndod oherwydd lefel gymharol isel o nicotin sydd o fewn y cynnyrch a gynhyrchwyd yn gyfreithiol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Julie Bishop ei bod yn pryderu fod pobl ifanc yn derbyn dos uchel o nicotin drwy e-sigaréts anghyfreithlon

"Beth sy'n ein pryderu yw'r posibilrwydd ein bod yn gweld nifer o gynnyrch sydd heb gael eu cynhyrchu'n gyfreithiol ac nad sydd o fewn y rheoliadau ac felly gall pobl ifanc fod yn derbyn dos uwch o nicotin na ddylen nhw.

Ychwanegodd: "Dwi'n credu... fod pobl yn dod i gasgliad oherwydd y ffaith fod rhywbeth ar gael. 'Os oedd yn wael i mi, fydden i methu ei brynu, fyddai pobl yn methu ei hysbysebu'.

"Mae'r tactegau a ddefnyddiwyd o fewn y diwydiant ar hyn o bryd yn awgrymu eu bod yn ceisio recriwtio cenhedlaeth newydd o bobl sy'n gaeth i sylweddau, ac mae hyn yn achos pryder."

'Anghywir ac anghyfrifol'

Dywedodd John Dunne, cyfarwyddwr cyffredinol Vaping Industry Association y DU: "Nid yw'r cynnyrch yma wedi'i ddylunio ar gyfer plant."

"Un o'r pethau rydym wedi galw am fel diwydiant ydy dirwyon uwch i fanwerthwyr sy'n gwerthu'r cynnyrch yma i blant.

"Dyna'r unig beth fydd yn stopio'r manwerthwyr twyllodrus yma sydd ddim yn poeni pwy maen nhw'n gwerthu i."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n gwbl anghywir ac anghyfrifol y gall manwerthwyr roi e-sigaréts am ddim i blant - mae'n rhaid dod â'r arfer yma i ben.

"Ni ddylai e-sigaréts fyth gael eu defnyddio gan blant a phobl ifanc, ac mi fyddwn yn cyhoeddi cynllun yn fuan yn gosod allan beth mae'n rhaid i ni ei wneud i stopio hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Mercher

Wrth siarad ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Mercher, ychwanegodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn awyddus i weld a fyddai modd cyflwyno rheolau llymach.

"Mae'r rheolau sydd yna nawr yn cael eu hanwybyddu gan bobl sy'n gweithio o fewn y diwydiant," meddai.

"Rydym yn gwybod o ymchwil diweddar gan y BBC bod pobl ifanc nid yn unig yn prynu vapes cyfreithlon, ond vapes anghyfreithlon sydd yn llawn pethau sy'n rhoi niwed.

"Mae rhaid i ni wneud yn siŵr bod hyn ddim yn creu anawsterau a fydd yn byw gyda'r bobl ifanc yma am weddill ei bywydau."