Tegwen Bruce-Deans yn ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd 2023

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tegwen Bruce-Deans yn eistedd ar y GadairFfynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tegwen fod cyfrannu at newid agweddau pobl tuag at y syniad o fardd cyfoes yn "amhrisiadwy"

Tegwen Bruce-Deans sydd wedi ennill cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd 2023.

Cafodd y fenyw ifanc, o Fangor yng Ngwynedd, ei gwobrwyo ar Lwyfan y Cyfrwy ar y maes yn Llanymddyfri brynhawn Iau.

Yn wreiddiol o Lewisham yn Llundain, symudodd ei theulu i Landrindod, Maesyfed pan roedd yn ddwy oed.

Aeth i Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt - bellach Ysgol Calon Cymru - cyn graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor.

Mae hi bellach wedi ymgartrefu yn y ddinas ac yn gweithio fel ymchwilydd i BBC Radio Cymru.

Gofynion y gystadleuaeth eleni - i bobl ifanc dan 25 oed - oedd llunio cerdd neu gerddi caeth neu rydd heb fod dros 100 llinell ar y testun 'Afon'.

Yn cystadlu dan y ffug-enw 'Gwawr', dywedodd y beirniaid Hywel Griffiths a Gwennan Evans mai hi oedd "bardd mwyaf crefftus ac aeddfeta'r gystadleuaeth".

Cafodd yr ail wobr ei rhoi i Tesni Peers (20 oed) o Rosllannerchrugog yn Wrecsam, a'r drydedd wobr i Buddug Watcyn Roberts (22 oed) o Fangor.

'Barddoni i bawb - dim jyst hen ddynion gwyn'

Dywedodd Tegwen mai'r ysbrydoliaeth tu ôl i'r gwaith oedd y cyfnod ar ôl graddio o'r brifysgol.

"Roedd hi'n gyfnod mor chwithig yn dod allan o addysg am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith, a theimlo fel fy mod i wedi colli rhan o fy hunaniaeth o ganlyniad," meddai.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd

"Ar ben hynny roeddwn i'n teimlo fel nad oedd gen i synnwyr o 'adref' bellach, tra roedden ni'n aros i ddechrau bwrw gwreiddiau yn ein tŷ newydd.

"O'n i 'rhwng dau le' yn feddyliol ac yn gorfforol, a rhyw geisio rhoi synnwyr ar y cwlwm o emosiynau a theimladau ddaeth yn sgil hynny yw'r casgliad yma o gerddi."

Ychwanegodd: "Mae gallu dweud bod 'na ferch o Lewisham wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn eitha' cŵl!

"Ond go iawn, un o'r pethau dwi'n hoff o genhadu'r fwyaf yw bod unrhyw un yn gallu bod yn fardd - dim jyst hen ddynion gwyn o gefndir traddodiadol Cymraeg.

"Felly mae'n ffaith fy mod i'n gallu cyfrannu at ran bach, bach iawn o'r mudiad hwnnw o newid agweddau pobl tuag at y syniad o fardd cyfoes yn amhrisiadwy."