Cyn-enillydd yn cwestiynu 'urddas' prif seremonïau'r Urdd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
cymeriadau yn y prif seremonïau yn cynrychioli'r chwe AwenFfynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cymeriadau yn y prif seremonïau yn cynrychioli'r chwe Awen

Mae un o gyn-enillwyr y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd ymhlith y rheiny sydd wedi beirniadu trefn newydd seremonïau'r prif wobrau eleni.

Mae'r drefn eleni wedi dychwelyd at yr hen drefn o gael yr enillydd yn codi o'r gynulleidfa ar ôl cael eu cyhoeddi, ond nawr yn cael eu tywys i'r llwyfan gan un o'r chwe 'awen' sy'n rhan o'r seremoni.

Dywedodd Eisteddfod yr Urdd fod Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd wedi cael y cyfle i "ail-ddychmygu strwythur a delwedd y seremonïau" ar gyfer eleni, a bod unrhyw newid yn arwain at "wahaniaeth barn".

Ond mae'r newidiadau wedi cael eu beirniadu gan rai pobl ar y cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi cwestiynu a ydyn nhw wedi cael effaith ar "urddas" y seremoni.

Disgrifiad,

Yr 'awenau': Beth yw parn pobl ar faes Eisteddfod yr Urdd?

Awenau'n hollti barn

Yn ôl Elan Grug Muse, a enillodd y gadair yn 2013, mae'r ffocws ar y ddefod yn hytrach nag ar enillydd y wobr, a'r gwaith buddugol.

Mae'r cymeriadau o chwedl Taliesin, sydd mewn gwisgoedd anifeiliaid, yn cynrychioli chwe 'Awen' ac wedi chwarae rhan ganolog yn y prif seremonïau yn Llanymddyfri.

Mae un o'r awenau'n tywys y beirniaid i'r llwyfan, ac mae'r enillydd yn camu i'r golau ac yn cael ei gyfarch gan Awen.

Ond dywedodd Elan Grug Muse nad oedd hi'n hoff o weld "newid er mwyn newid".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Grug Muse wedi cwestiynu faint o "urddas" sydd i'r ffurf newydd ar y seremonïau

"Mae eisiau rheswm call 'does dros unrhyw newid," meddai.

"Dwi'm yn meddwl bod neb wedi gofyn am fwy o theatr fel rhan o'r ddefod, dwi ddim yn meddwl mai dyna oedd ar goll yn y ddefod flaenorol.

"Dwi'n meddwl bod ffordd o fywiocáu neu moderneiddio defod gan gadw at hanfod y peth.

"I fi, yr hanfodion ydy bod 'na elfen o urddas, mai'r enillydd ydy'r prif ffocws ac nid y ddefod ei hun, a gwaith yr unigolyn hefyd. Y gwaith 'di'r peth pwysica', a dwi'n teimlo bo hwnna 'di cael ei golli.

"Mae 'na rywbeth am aestheteg y peth hefyd - dydyn nhw ddim cweit wedi taro'r hoelen ar ei phen, mae 'na olwg eitha plentynnaidd ar yr anifeiliaid 'ma fel maen nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Helen McLoughlin y gallai hi fod yn anodd i bobl ddeall beth yw pwrpas yr 'awenau'

Ar faes Eisteddfod yr Urdd, roedd sawl un yn cytuno nad oedd y seremoni ar ei newydd wedd yn plesio.

"Does dim byd yn bod â phethe newydd, ond falle mae'n rhaid i bobl ddeall pam ma' nhw 'na," meddai Helen McLoughlin o Grymych.

"So falle fwy o'r hanes tu ôl i'r cymeriade, so bod pobl yn deall pwy y'n nhw a beth y'n nhw, dim jyst rhyw gymeriad od sy'n dod i'r llwyfan."

Roedd David Evans, Castell Newydd Emlyn yn fwy plaen ei dafod gan alw'r cymeriadau lliwgar newydd yn "disgrace".

Disgrifiad o’r llun,

Doedd dim amheuaeth sut oedd David Jones yn ei deimlo am ffurf y seremonïau

"I fi, mae e'n bychanu'r Eisteddfod," meddai.

Dywedodd Elin Williams o Landysul ei bod hi'n credu eu bod nhw'n "tynnu sylw wrth y bobl sydd wedi ennill".

"Mae pawb jyst yn edrych ar y cymeriadau yma wedyn, yn hytrach na gwerthfawrogi'r gwaith i gyd mae'r bobl eraill wedi 'neud fel yr enillydd."

Ym marn Gwion Thomas o Landysul, roedd y cymeriadau yn "od".

"'Ni 'di bod yn cystadlu ers ysgol gynradd a 'sa i'n credu bydden i 'di hoffi fe os bydde rhyw fochyn yn cerdded 'da fi lan i'r llwyfan," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Elin Williams a Gwion Tomos ddim yn rhy hoff o'r cymeriadau

Ond roedd rhai fel Gwyneth Jones yn fwy cefnogol i'r newidiadau, er nad oedd hi "wedi arfer â'i weld e ar ei newydd wedd".

"Ma' fe'n iawn i'r plant weden i," meddai. "Eisteddfod y plant yw hi."

Dywedodd Olive o Benygroes: "Ma' eisiau newid achos ma' popeth arall yn newid ontife, yn lle sefyll yr un peth o hyd."

Ychwanegodd Calfin Griffiths: "Ma' nhw'n hapus a ma' nhw'n lliwgar a ma' nhw'n tynnu sylw - ca'l rhywbeth newydd, mae e'n wych."

Disgrifiad o’r llun,

Nid pawb oedd yn feirniadol - mae Calfin Griffiths yn hoff o'r cymeriadau "lliwgar"

Ymateb yr Urdd

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd eu bod nhw'n "ymwybodol" o'r sylwadau negyddol gan rai a bod unrhyw newid yn arwain at "wahaniaeth barn".

"Fel pob datblygiad newydd yn yr Urdd fe fyddwn yn ystyried, gwerthuso a thrafod strwythur newydd y seremonïau gyda'n rhanddeiliaid yn dilyn Eisteddfod yr Urdd eleni," meddai.

"Eleni, penderfynwyd ailedrych ar brif seremonïau Eisteddfod yr Urdd gan roi'r cyfle i Gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd ail-ddychmygu strwythur a delwedd y seremonïau.

"Ymysg y tîm roedd cyn-enillwyr, sgriptwyr, cerddorion, cynllunwyr a coreograffydd - â'r oll yn rhannu syniadau a phrofiadau personol i lunio ac arwain seremonïau'r dyfodol.

"Mae'r chwe seremoni yn cynrychioli chwe Awen. Ar gyfer pob seremoni bydd yr Awen honno yn dod yn fyw mewn ffurf cymeriad o chwedl Taliesin, wedi eu gwisgo mewn gwisg drawiadol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llio Maddocks, Trefnydd Celfyddydol Eisteddfod yr Urdd, fod y seremonïau nawr yn fwy poblogaidd nag oedden nhw'n arfer bod

"Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi chwarae rhan yng nghreu a chynhyrchu'r seremonïau gyda prif ffocws ar ddathlu doniau ein prif enillwyr."

Ychwanegodd Llio Maddocks, Trefnydd Celfyddydol Eisteddfod yr Urdd, bod angen ceisio "datblygu a newid" pan mae'n dod at eu seremonïau.

"'Dan ni wedi bod yn cydweithio gyda lot o bobl ifanc arnyn nhw, a ma' llais a stamp y bobl ifanc yn glir iawn ar y seremonïau," meddai.

"'Dan ni yn ŵyl i blant a phobl ifanc ac mae rhaid i ni gofio hynny wrth i ni greu prosiectau newydd.

"Dwi wedi gweithio i'r Urdd ers bron i 10 mlynedd erbyn hyn a dwi erioed wedi gweld y pafiliwn mor orlawn o blant a phobl ifanc yn gwylio'r seremonïau.

"A deud y gwir roedd ein pafiliynau ni'n arfer bod yn hanner gwag ar eu cyfer nhw. Felly mae'n hyfryd gweld plant a phobl ifanc yn joio nhw ac yn mynd draw i wylio ac yn ymateb i'r seremonïau."

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Elain Roberts o Geredigion oedd yn fuddugol ym mhrif seremoni ddydd Mercher - Y Fedal Ddrama

Ddydd Mercher cafodd Elain Roberts ei hanrhydeddu fel Prif Ddramodydd yr eisteddfod ar ôl cipio'r Fedal Ddrama - felly beth oedd ei hargraffiadau hi o'r seremoni?

"Beth o'n i'n teimlo oedd fod tipyn o sŵn 'na, a dim lot o drefn o ran llefydd i eistedd yn fwy na'r awenau eu hunain, falle hwnna odd yn effeithio mwy," meddai.

"Doedd dim gymaint o urddas falle i'r seremoni, ond fi'n credu o'dd y syniad 'na.

"Ond mae e yn y broses o drawsnewid, a fi'n credu os mai dyna beth maen nhw am drïo gwneud ar gyfer y dyfodol, fi'n credu ma' wastad lle i wella mewn unrhyw sefyllfa."

Pynciau cysylltiedig