Urdd: Elain Roberts yw enillydd Medal Ddrama 2023
- Cyhoeddwyd
Elain Roberts o Geredigion yw enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd 2023.
Dyma oedd y tro cyntaf i Elain, 22 o Bentre'r Bryn ger Cei Newydd yng Ngheredigion, gystadlu yn y gystadleuaeth hon.
Fe ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych y llynedd.
Mae Elain ar fin gorffen ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bryste yn astudio Ffrangeg a Gwleidyddiaeth.
'Hiwmor, dryswch ac unigrwydd'
Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi drama neu fonolog ar gyfer dim mwy na dau actor ac heb fod dros 15 munud o hyd.
Y beirniaid eleni oedd Gethin Evans a Steffan Donnelly.
Wrth drafod I/II? - sef ffugenw Elain - dywedodd y beirniaid fod y ddrama wedi ei gosod mewn ciwbicl toiled, a'r prif gymeriad yn aros am ganlyniad prawf beichiogrwydd.
"Gyda chydbwysedd medrus o hiwmor a drama, mae'r dramodydd yn ymdrin â chydsyniad yn grefftus, gan hefyd dal ein sylw gyda chymeriad sydd yn teimlo dryswch ac unigrwydd," dywedon.
"Mae'r darn yma yn dod ag elfennau allweddol sgript gyffrous ynghyd - cymeriad perthnasol, ffurf clir, byd cyflawn, naratif sy'n esblygu, strwythur manwl a deialog bywiog."
Bydd Elain yn cael cyfle i dreulio blwyddyn fel Dramodydd Preswyl Ifanc gyda Theatr Genedlaethol Cymru ac yn cael hyfforddiant pellach gyda'r BBC.
Wrth ennill, dywedodd Elain: "Dwi'n cofio meddwl i fy hunan pan symudais i'r brifysgol yn 18 oed pa mor agored roedd pobl eraill yn trafod pynciau roeddwn i, a byddwn i'n dadlau y rhan fwyaf o Gymry, yn eu gweld fel tabŵ.
"Pethau fel perthynas pobl â'i gilydd, rhyw, y corff, teimladau a'r cymlethdod sy'n dod gyda phob un o'r rhain.
"Dyma'r ddrama gyntaf i fi ei hysgrifennu erioed, felly mae'r ffaith fy mod wedi ennill yn rhoi hwb a hyder i mi ar gyfer y dyfodol."
Brennig Davies o Gaerdydd ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, a'r drydedd wobr yn mynd i Leo Drayton o Gaerdydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2023
- Cyhoeddwyd29 Mai 2023
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023