'Ceiswyr lloches i'w cartrefu mewn gwesty yn Llanelli'
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dweud eu bod wedi cael cadarnhad gan y Swyddfa Gartref eu bod yn bwriadu cartrefu ceiswyr lloches mewn gwesty yn Llanelli.
Mae'r Swyddfa Gartref wedi gwrthod cadarnhau hynny i'r BBC, gan ddweud na allan nhw wneud sylw ar "gytundebau masnachol".
Mae'r cyngor "yn gadarn yn erbyn newid defnydd Gwesty Parc y Strade ac yn parhau i ymchwilio i'r sefyllfa gyfreithiol o ran y bwriad hwn".
Yn ôl y cyngor, bwriad Llywodraeth y DU ydy defnyddio hyd at 77 o ystafelloedd er mwyn cynnig llety i 207 o bobl o 3 Gorffennaf ymlaen.
Ychwanegodd y cyngor y daeth cadarnhad ysgrifenedig gan y Swyddfa Gartref brynhawn Gwener "yn dilyn gofyn sawl gwaith am wybodaeth".
'Gwarthus'
Fe wnaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys a Bwrdd Iechyd Hywel Dda godi pryderon ar y cyd am y cynlluniau yr wythnos ddiwethaf.
Roedden nhw'n honni y byddai'r cynlluniau'n cael effaith negyddol ar y gymuned ac yn rhoi "straen sylweddol" ar addysg a gwasanaethau iechyd.
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price: "Rwy'n credu ei fod yn warthus fod y bwriad hwn gan y Swyddfa Gartref i letya nifer fawr o geiswyr lloches yn mynd yn ei flaen.
"Hyd yn oed ar yr adeg hon, rwy'n galw ar berchnogion y gwesty, Sterling Woodrow, i ailfeddwl ac atal hyn rhag symud ymlaen."
'Hollol anaddas'
Ychwanegodd Aelod Seneddol Llafur Llanelli, Nia Griffith ar raglen Post Prynhawn: "Mae'n dangos pa mor ofnadwy yw'r sefyllfa yn y Swyddfa Gartref, achos dylen nhw ffeindo ffordd arall yn lle cael mwy a mwy o westai.
"Dylen nhw daclo'r holl broblem ffoaduriaid, a chael uned heddlu arbennig i wneud hyn, ac wrth gwrs cael gwared ar y backlog o 160,000 o geisiadau lloches.
"Petae nhw'n gwneud hyn bydde nhw'n gallu anfon yn ôl y rhai sydd wedi dod o lefydd diogel, a wedyn y rhai sydd wir yn ffoaduriaid bydden nhw'n gallu setlo mewn grwpiau bach mewn cymunedau addas.
"Ond beth ry'n ni nawr yn gweld yw bod nhw'n cael - unwaith eto - gwesty lle mae busnes, a phriodasau ac yn y blaen a phobl wedi bwcio, a'r bobl sy'n gweithio yno.
"Mae cymaint o bobl yn cael eu heffeithio, ac wrth gwrs mae'r gymuned yn dweud ei fod yn hollol anaddas mewn pentref bach fel Ffwrnes.
"Does dim gwybodaeth gan y perchnogion, sy'n allweddol yn yr holl beth, a dyw'r Swyddfa Gartref ei hunan ddim yn cymryd unrhyw sylw o'r gwrthwynebiad."
Mae'r Swyddfa Gartref wedi gwrthod cadarnhau'r cynllun i'r BBC, gan ddweud na allan nhw wneud sylw ar "gytundebau masnachol".
Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd llefarydd: "Mae nifer y bobl sy'n cyrraedd y DU sydd angen llety wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed ac mae straen aruthrol ar ein system lloches.
"Mae'r Swyddfa Gartref wedi ymrwymo i leihau'r defnydd o westai a chyfyngu ar y baich ar drethdalwyr."
Mae perchnogion y gwesty, Sterling Woodrow, wedi cael cais am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2023
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023