Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad ger Llanuwchllyn

  • Cyhoeddwyd
A494

Dywed Heddlu'r Gogledd bod dyn wedi cael ei gludo i Ysbyty Stoke wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A494 ger Llanuwchllyn brynhawn Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw oddeutu 1210 wedi adroddiadau o wrthdrawiad rhwng beic modur BMW gwyn a fan Mercedes Vito arian.

Mae gan y dyn anafiadau sy'n peryglu ei fywyd.

Dywedodd y Sarjant Jason Diamond o Uned Blismona'r Ffyrdd: "Rwy'n apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar ffordd yr A494 rhwng Dolgellau a'r Bala ac a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â'r heddlu.

"Roedd y beiciwr modur yn teithio fel rhan o grŵp o ddeg ar hyd ffordd yr A494 o Ddolgellau i'r Bala.

"Rwy'n annog unrhyw un sydd â lluniau dashcam o un o'r cerbydau cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â ni."

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi anfon ambiwlans, cerbyd ymateb brys a'u bod wedi cael cymorth Ambiwlans Awyr Cymru.