Addo 'mwy o swyddi' wrth ehangu parc gwyddoniaeth ym Môn

  • Cyhoeddwyd
M-SParc
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 200 o yrfaoedd newydd wedi eu creu yn M-SParc ers 2018, meddai penaethiaid y safle

Mae disgwyl i estyniad o barc gwyddoniaeth arloesol greu mwy o swyddi o safon mewn ardal sydd wedi colli sawl diwydiant dros y blynyddoedd diweddar.

Dyna neges rheolwr gyfarwyddwr M-SParc wrth i'r cwmni gyhoeddi cynlluniau i godi ail adeilad ar eu safle ym Môn.

Fe agorodd y parc, ar gost o £20m, ar ddydd Gŵyl Dewi 2018.

Yn is-gwmni o dan berchnogaeth Prifysgol Bangor, mae'r cyfleuster yng Ngaerwen yn cynnwys labordai, swyddfeydd, caffi a gofod gweithdy glân.

Ond bum mlynedd ers ei agor, maen nhw'n dweud fod yr adeilad gwreiddiol eisoes yn nesáu i fod yn llawn.

'Mae'r galw yma'

Colli sawl cyflogwr yw stori Môn dros y blynyddoedd diweddar, wrth i gwmnïau fel Rehau a 2Sisters adael yr ynys yn ogystal â datgomisiynu atomfa Wylfa.

Ond edrych at y dyfodol yw bwriad M-sparc, sy'n dweud fod eisoes rhestr aros o fusnesau sy'n awyddus i symud i fewn.

Ffynhonnell y llun, M-Sparc
Disgrifiad o’r llun,

Edrych dros y cynlluniau: Pryderi ap Rhisiart (Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc), Ieuan Wyn Jones (Cadeirydd), Yr Athro Edmund Burke (Is-Ganghellor Prifysgol Bangor) a Dr Debbie Jones (Rheolwr Arloesi Carbon Isel, M-SParc)

Mae dros 200 o yrfaoedd newydd wedi eu creu yn M-SParc ers 2018, gyda mentrau fel 'Dewch yn ôl' i helpu'r rheini sydd wedi gadael i symud yn ôl i ogledd Cymru.

Ychwanegodd y penaethiaid fod cwmnïau sydd wedi'u lleoli yno yn talu cyflogau sy'n fwy na £5,000 y flwyddyn yn uwch na chyfartaledd Cymru, gan gynnwys swyddi technegol ac ymchwil, ond hefyd mewn swyddi fel marchnata, cyfrifyddu a chymorth gweinyddol.

Bydd M-SParc 2.0, meddai'r cwmni, yn canolbwyntio ar y sector carbon isel ac yn adeiladu ar gryfderau ymchwil y Brifysgol.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr, Pryderi ap Rhisiart, fod manylion maint y buddsoddiad "i ddilyn".

"'Dan ni'n adeiladu ar lwyddiant y bum mlynedd ers agor," meddai.

"Rhoi rhywbeth gwahanol i'r economi oedd y bwriad ar y dechrau, a dwi'n meddwl fod ni wedi llwyddo dangos fod modd i wneud hynny yma yng ngogledd Cymru.

"Mae'r galw yma, mae'r cwmnïau sydd yma isho tyfu a creu swyddi o ansawdd da yn y rhanbarth.

"Mae'n newyddion da y nifer y swyddi sydd wedi eu creu yma, a'r nifer o raddedigion ac ati sy'n cael cyfleon, a wedyn da ni isho gweld mwy o hynny'n digwydd."

'Creu swyddi da'

Gyda dros 200 o yrfaoedd newydd wedi'i creu ers agor yn 2018, ychwanegodd: "Dyna lle da ni arni ar hyn o bryd.

"Mae'n newyddion da i ranbarth sydd wedi gweld colledion yn ddiweddar, tasa na rhywle'n cau hefo ffigwr fel 'na mi fasa yn y penawdau dwi'n siŵr.

"Dan ni'n hynod, hynod lwcus o fod yn cyhoeddi hyn heddiw a gyda'r uchelgais o weld yr un math o ffigyrau eto, yn denu mwy o fuddsoddiad i'r rhanbarth, creu swyddi da a gobeithio gweld pobl yn aros yn yr ardal a dilyn gyrfaoedd amrywiol a diddorol yn yr ardal."

Mae'r adeilad newydd arfaethedig wedi derbyn caniatâd cynllunio amlinellol, a bydd yn cael ei ddylunio i gyd-fynd â dyluniad tirwedd presennol safle'r parc gwyddoniaeth.

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro Edmund Burke: "Fel Prifysgol, rydyn ni'n falch iawn o gweld ein Parc Gwyddoniaeth yn datblygu cynlluniau i dyfu ac yn dangos uchelgais wirioneddol ar gyfer economi Gogledd Cymru."

"Bydd yr ehangu hwn yn parhau i greu gyrfaoedd sy'n talu'n dda i bobl ac yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol, gan ganolbwyntio hefyd ar gefnogi cwmnïau ac ymchwil yn y sector carbon isel drwy adeiladu ar gryfderau'r Brifysgol."

Pynciau cysylltiedig