Arestio dyn 20 oed ar amheuaeth o ymosod yn Y Drenewydd

  • Cyhoeddwyd
Stryd FrankwellFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ar Stryd Frankwell ychydig cyn 18:00 ddydd Gwener

Mae dyn 20 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ôl i ddau ddyn arall gael eu hanafu mewn digwyddiad yn Y Drenewydd ddydd Gwener.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod dyn 41 oed wedi cael ei hedfan i'r ysbyty gan yr ambiwlans awyr wedi'r digwyddiad, ble mae'n parhau mewn "cyflwr difrifol iawn".

Cafodd dyn 51 oed hefyd ei anafu yn y digwyddiad ar Stryd Frankwell ychydig cyn 18:00.

Dywedodd y llu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig